Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru'n gorfod bodloni ar g锚m gyfartal yng Ngwlad yr I芒
Mae Cymru wedi gorfod bodloni ar g锚m gyfartal yn erbyn Gwlad yr I芒 yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener, er hanner cyntaf ardderchog oddi cartref yn Reykjavik.
Roedd y t卯m mewn coch, yn eu trydedd g锚m Cymru dan Craig Bellamy, yn ymddangos mewn sefyllfa gref yn dilyn goliau Brennan Johnson (11) a Harry Wilson (29).
Ond fe drodd y fantol yn llwyr yn yr ail hanner - y t卯m cartref oedd ar d芒n a Chymru oedd yn chwarae'n fratiog.
Fe sgoriodd Logi Tomasson (69) i gau'r bwlch ac roedd yn ganolog i'r g么l a unionodd y sg么r wedi i'r b锚l ddod oddi ar golwr Cymru, Danny Ward, i'w rwyd ei hun (72).
Mae'r Cymru yn dal yn ail safle Gr诺p 4 ail haen y gystadleuaeth - Cynghrair B - a Thwrci'n dal ar y brig ond maen nhw wedi agor bwlch o ddau bwynt ar 么l trechu Montenegro o g么l i ddim nos Wener.
Roedd Johnson ymhlith pedwar newid i'r t卯m a drechodd Montenegro yn eu g锚m ddiwethaf.
Roedd Danny Ward, Jordan James a Sorba Thomas hefyd yn eu holau yn absenoldeb Karl Darlow, Ethan Ampadu, Chris Mepham a Lewis Koumas.
Yn dilyn 10 munud o chwarae gofalus gan y ddau d卯m fe darodd Nico Williams y b锚l yn gelfydd o'i hanner ei hun ac fe wibiodd Harry Wilson i'w chyrraedd a'i tharo tua'r g么l.
Llwyddodd y golwr Hakon Rafn Valdimarsson i atal y b锚l rhag croesi'r llinell ond fe syrthiodd i lwybr Johnson a mater hawdd oedd ei tharo i'r g么l o agos.
Yr un cyfuniad - ergyd hir ardderchog gan Williams o hanner Cymru a rhediad gan Wilson - arweiniodd at ail g么l Cymru, ond y tro hwn, Wilson ei hun oedd y sgoriwr.
Fe reolodd y b锚l yn gampus i roi amser i weld lle roedd y golwg cyn rhwydo gyda'i ail gyffyrddiad.
Cymru oedd y t卯m mwyaf cyfforddus weddill yr hanner, yn enwedig yng nghanol y cae, a'r gobaith oedd y bydden nhw'n llwyddo i adeiladu ar eu perfformiad yn yr ail hanner.
Fe newidiodd y g锚m yn gyfan gwbl wedi'r egwyl. Roedd y t卯m cartref yn llawer mwy bywiog ac fe gawson nhw ambell i gyfle addawol.
Roedd angen arbediad da gan Danny Ward i atal ymgais ar y g么l gan Orri Oskarsson - ac un well fyth i stopio ergyd nerthol gan Johann Gudmundsson.
Ond mater o dri chynnig i Ynyswyr yr I芒 oedd hi. O symudiad a ddechreuodd gyda chic gornel fe sgoriodd Tomasson i gau'r bwlch - ac roedd y t卯m cartref yn haeddu g么l.
Tomasson, a oedd heb sgorio i'w wlad o'r blaen, oedd yn bennaf gyfrifol am yr ail g么l hefyd.
Fe fanteisiodd ar gamgymeriad amddiffynnol gan Connor Roberts ar yr ystlys chwith i fynd am y g么l o ongl agos ger y postyn. Fe darodd y b锚l ben-elin Ward ac i mewn i'r rhwyd.
Oni bai bod y b锚l wedi taro'r postyn sawl tro yn yr ail hanner fe fyddai Gwlad yr I芒 wedi cipio'r fuddugoliaeth a bu'n rhaid i'r ymwelwyr fodloni ar bwynt.
Bydd Cymru'n wynebu Montenegro am yr eildro yng ng锚m nesaf yr ymgyrch, yng Nghaerdydd nos Lun.
Ni fydd Brennan Johnson na Jordan James ar gael wedi iddyn nhw weld cardiau melyn nos Wener.