Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Trawsnewid porthladd hanesyddol yn hwb ynni morol
- Awdur, Steffan Messenger
- Swydd, Gohebydd amgylchedd
Mae dociau hanesyddol porthladd Penfro wedi'u trawsnewid yn "ganolfan o safon byd-eang" ar gyfer prosiectau ynni morol.
Mae cyfleusterau newydd yn cael eu hagor yn swyddogol ddydd Mercher, wedi buddsoddiad gwerth 拢60m.
Mae yna obeithio y bydd y newidiadau - sy'n cynnwys llithfra neu slipway "anferth" - yn denu cwmn茂au ynni adnewyddadwy gan arwain at hyd at 1,800 o swyddi newydd.
Ond mae un corff sy'n cynrychioli'r sector wedi rhybuddio y bydd angen llawer mwy o gyllid cyhoeddus i sicrhau bod porthladdoedd Cymru'n medru elwa'n llawn o botensial ynni morol.
Fe ddechreuodd Claire Lawrence, 32, weithio yn y porthladd fel prentis 12 mlynedd yn 么l ac mae hi bellach yn un o reolwyr Hwb Morol Doc Penfro.
Cyn yr agoriad swyddogol, dywedodd ei bod yn teimlo'n "falch".
"Mae'n bwysig iawn gallu gweithio ar brosiect mor fawr yn fy ardal fy hun ac i weld maint y datblygiad - mae'n wefreiddiol.
"Rydw i'n falch iawn bod hyn yn cynnig swyddi a gyrfaoedd i bobl leol, yn enwedig pobl ifanc.
"Does dim rhaid iddyn nhw symud o'r ardal - maen nhw'n gallu cael swyddi gyda chyflog da yn lleol."
Mae gan borthladd Doc Penfro ar lannau dyfrffordd Aberdaugleddau yn Sir Benfro le pwysig yn hanes milwrol Prydain.
Cafodd y dref ei hun ei sefydlu o amgylch dociau'r llynges yn 1814, gyda phump o gychod hwylio brenhinol ymysg y cannoedd o longau a adeiladwyd yno.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedyn, daeth y porthladd yn ganolfan ar gyfer awyrennau m么r.
Erbyn heddiw mae fwyaf adnabyddus i nifer, mae'n si诺r, fel man i ddal fferi i Iwerddon.
Ond mae'r lle, medd Tom Sawyer - prif weithredwr Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau - "ar drothwy cyfnod newydd" yn ei hanes.
Bwriad Hwb Morol Doc Penfro yw dechrau ar y gwaith o droi'r safle yn "borthladd ynni adnewyddadwy", esboniodd.
Gydag arian o lywodraethau'r DU a Chymru, a buddsoddiad preifat hefyd, mae'r cynllun yn rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
"Mae heddi'n benllanw ar flynyddoedd o waith caled i greu porthladd amlbwrpas sy'n barod ar gyfer gofynion ynni'r dyfodol," meddai Mr Sawyer.
Yn ogystal 芒 llithrfa fwy ac ardaloedd lle gall cwmn茂au adeiladu storio eu technolegau, mae yna gyfleusterau pwrpasol ar gyfer y cychod a llongau fydd yn cludo'r dyfeisiadau i'r m么r a swyddfeydd newydd.
"Mae maint y llithrfa a'r mynediad yna i'r d诺r dwfn yn un o ofynion hanfodol nifer o'r cwmn茂au ynni adnewyddadwy yma sy'n mynd allan i'r m么r," eglurodd Mr Sawyer.
"Nod hyn i gyd yw sicrhau bod modd i borthladd Penfro chwarae r么l o hyn allan ac i'r dyfodol wrth ddatblygu ffermydd gwynt sy'n arnofio, ond hefyd holl ddyheadau eraill ein gwlad ym maes ynni adnewyddadwy."
Bydd y gwaith yn help hefyd i gryfhau prosiectau lleol sy'n cynnig ardaloedd o'r m么r i gwmn茂au allu arbrofi gyda thechnolegau newydd.
Roedd y cynlluniau wedi wynebu gwrthwynebiad gan sawl sefydliad treftadaeth lleol a chenedlaethol.
Roedd rhai yn feirniadol o'r hyn a ddisgrifiwyd fel effaith "drychinebus" o bosib ar adeiladau a seilwaith hanesyddol.
Ond daeth Cyngor Sir Benfro a Llywodraeth Cymru i'r casgliad maes o law bod buddion economaidd hybu'r sector ynni morol yn drech na'r pryderon hynny.
Tra鈥檔 croesawu鈥檙 buddsoddiad ym mhorthladd Penfro, mae aelod seneddol Ceidwadol Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, Sam Kurtz, yn dweud bod angen mwy o fuddsoddiad i uwchraddio sgiliau yn yr ardal.
Dywedodd: 鈥淒ydyn nhw ddim wedi rhoi鈥檙 buddsoddiad mewn i鈥檙 sgiliau sydd ei angen ar bobl ifanc, mewn i鈥檙 swyddi sydd yn mynd i ddod gyda ynni gwyrdd.
"Mae Cymru tu 么l i鈥檙 Alban a thu 么l i Loegr ac mae鈥檙 bai hynny ar y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd.鈥
Angen 'nes at 拢1bn na 拢60m'
Mae adroddiad diweddar ar gyflwr y sector gan Ynni Morol Cymru yn disgrifio'r 12 mis nesaf fel rhai "allweddol".
Bydd Ystad y Goron, sy'n gofalu am wely'r m么r, yn dechrau cynnig prydlesau i gwmn茂au ddechrau datblygu ffermydd gwynt sy'n arnofio yn y M么r Celtaidd - yr ardal rhwng de Cymru, Iwerddon a Chernyw.
Mae'n ras felly i sicrhau bod Cymru'n medru cymryd mantais o'r hyn sy'n cael ei weld fel cyfle economaidd euraidd.
Dywedodd Jessica Hooper, cyfarwyddwr RenewableUK Cymru, bod prosiect Hwb Morol Doc Penfro yn "gyfle hynod gyffrous i Sir Benfro".
"Fe ddylai wir sefydlu'r rhanbarth fel rhywle lle gallwch chi fwrw ati a gwireddu'r cyfleoedd a ddaw o ynni morol," meddai.
Ond yn achos cynlluniau ynni gwynt sy'n arnofio yn benodol, fe bwysleisiodd y byddai angen llawer iawn yn fwy o fuddsoddiad i uwchraddio porthladdoedd ar draws de Cymru.
O'r tyrbeini eu hunain i'w seiliau, "mae'r cyfan yn mynd i fod ar raddfa gymaint yn fwy na ry'n ni erioed wedi'i weld o'r blaen," eglurodd.
"Mae'r 拢60m yn gam da ymlaen... ond ry'n ni si诺r o fod yn siarad am angen yn nes at biliwn yn y dyfodol."