Cannoedd yn angladd bachgen, 16, fu farw yn Efailwen

  • Awdur, Elen Davies
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae cannoedd wedi dod ynghyd ym mhentref glan m么r Aberporth ar gyfer angladd bachgen 16 oed.

Bu farw Ll欧r Davies ar 12 Mawrth yn dilyn digwyddiad mewn chwarel yn Sir Benfro.

Cafodd yr heddlu eu galw i chwarel Gilfach ger Efailwen yn dilyn adroddiadau o "ddigwyddiad yn ymwneud 芒 thryc".

Ers ei farwolaeth mae nifer o deyrngedau wedi鈥檜 rhoi, ac roedd yna wylnos ar draeth Aberporth i ddathlu ei fywyd.

Cafodd ei ddisgrifio yn ystod yr wylnos fel "dyn Aberporth", ac un oedd yn caru ei ardal, y m么r a鈥檙 traeth.

Cais i bobl wisgo'n llachar

Cafodd yr angladd ei chynnal yng Nghapel Aberporth, Ceredigion, ac roedd dros 300 o bobl yn bresennol - y rhan fwyaf yn bobl ifanc.

Roedd yn ddymuniad gan y teulu i bawb wisgo鈥檔 llachar.

Gyda鈥檙 capel yn llawn dop, roedd trigolion, ffrindiau a theulu i鈥檞 gweld ar hyd y palmant, dwy ochr i鈥檙 ffordd.

Ymhlith y galarwyr roedd aelodau o d卯m rygbi Castellnewydd Emlyn, lle鈥檙 oedd Ll欧r yn aelod.

Disgrifiad o'r llun, Yr olygfa wrth i'r arch gael ei chludo trwy Aberporth

Cafodd yr arch ei chludo drwy Aberporth ar gefn hen dractor i gerddoriaeth 鈥楴i鈥檔 Belo Nawr鈥 gan Welsh Whisperer.

Roedd yr arch yn las, gyda thractorau a b锚ls gwellt wedi鈥檜 printio arni.

C芒n Dafydd Iwan, Yma o Hyd, oedd yn chwarae wrth i鈥檙 arch fynd i fewn i鈥檙 capel.

Roedd y gwasanaeth yng ngofal Peter Evans a ddarllenodd deyrngedau ar ran tad, brodyr a chwiorydd Ll欧r.

'Bachgen caredig a meddylgar'

Fe ddywedodd ei chwaer hynaf, Bethan, fod "ei ganu opera dwl" yn aml yn rhoi pen tost iddi, ond y bydd hi'n ei golli am byth.

Ychwanegodd un o鈥檌 frodyr, Cai, mai dyma wythnosau caletaf eu bywyd fel teulu.

鈥淩wy鈥 mor browd i dy alw yn frawd, hyd yn oed pan oeddet ti'n chwarae fideos TikTok yn uchel ar dy ff么n,鈥 dywedodd.

鈥淒iolch am fod yn garedig, yn ddoniol ac yn ddwl鈥, ategodd ei chwaer arall, Sara.

"Rwyf wir yn mynd i weld eisiau ti.鈥

Dywedodd Sean, tad Ll欧r: 鈥淩oeddet yn fachgen caredig a meddylgar. Roeddet ti eisiau concro鈥檙 byd.

"Roeddet ti鈥檔 caru pysgota ac wedi gwneud cynlluniau i gymryd dros fy nghwch i. Cysga鈥檔 dawel fy mab.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Ll欧r Davies ar 12 Mawrth yn dilyn 聽digwyddiad mewn chwarel yn Sir Benfro

Roedd yna deyrngedau hefyd gan drigolion lleol - pennaeth Ysgol Llechryd a Chenarth, Lee Burrows, cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog, Lowri Williams, a ffrind teulu a physgotwr, Mickey Beechey.

Fe wnaeth y tri grybwyll cariad Ll欧r at y m么r, gan gyfeirio ato'n annwyl fel "Strab".

Roedd Ll欧r, meddai Lowri Williams, yn 鈥渨yneb cyfarwydd" yng ngwersyll Llangrannog.

Darllenodd englyn gan Ceri Wyn Jones, yn disgrifio Ll欧r fel un oedd "ar frig y don".

Wrth gloi ei theyrnged, ychwanegodd: 鈥淏yddi di yn ein calonnau ni a thraeth Aberporth am byth.鈥

Yn ystod y gwasanaeth, fe gafodd clip sain ei chwarae o Ll欧r yn canu Calon L芒n, o fideo a recordiodd yn ystod y cyfnod clo a鈥檌 gyhoeddi ar-lein.