Colli Dad a Jamie oedd 'y boen waethaf yn y byd'

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys cyfeiriadau at hunanladdiad all beri gofid.

Roedden nhw wedi tyfu i fyny gyda’i gilydd, wedi chwarae pêl-droed gyda’i gilydd, ac wedi bod yn rhan o fywydau ei gilydd ers 20 mlynedd.

Felly i'r Aelod o'r Senedd, Jack Sargeant, teimlodd y "boen waethaf yn y byd" pan glywodd fod Jamie Wynne wedi lladd ei hun ddwy flynedd yn ôl.

"Roedd yn berson a fyddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un", meddai'r aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy.

"Fo fyddai'r un cyntaf y gallech chi fynd ato. Fe wnes i hynny fy hun droeon."

Pum mlynedd ynghynt, bu farw tad Jack, Carl Sargeant – un o weinidogion Llywodraeth Cymru – hefyd drwy hunanladdiad ar ôl cael ei ddiswyddo yn 2017.

"Dwi’n 29 oed ac rydw i wedi colli fy nhad a fy ffrind gorau i hunanladdiad.

"Cefais fy chwalu gan y ddau ohonynt."

Disgrifiad o'r llun, Roedd Jamie Wynne, yma'n dal cwpan NWCFA o dan 13 oed, wrth ei fodd yn chwarae pêl-droed

Wrth siarad mewn cyfweliad am y tro cyntaf am farwolaeth ei ffrind gorau, mae Jack Sargeant yn cofio'r tro diwethaf iddo ei weld.

Roedd Jamie yn ffan anferth o bêl-droed ac wedi cefnogi Lerpwl gydol ei oes.

"Daeth o ata’ i ar ôl y gêm, roedd ambell un ohonom ni yno ac fe ganodd, mae gen i beiriant carioci.

"Mae’n ganwr ofnadwy.

"Ond byddai’n gwneud i chi chwerthin, gwneud i’w hun chwerthin."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Jack Sargeant bod "bwlch mawr" ar ôl colli Jamie

Am fwy nag 20 mlynedd, dywedodd Jack mai Jamie oedd y ffrind gorau y gallai ofyn amdano.

Mae'n amlwg iddo bellach fod Jamie yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl ei hun.

"Roedd yn amlwg mewn llawer o boen. Dy’ ni ddim yn gwybod beth yn union oedd hynny na pham."

Ers iddo farw, dywedodd Jack fod ffrindiau a theulu wedi cael eu gadael gyda thwll yn eu bywydau.

"Mae’n fwlch mawr i’w lenwi," meddai.

"Wnai ddim clywed ei chwerthiniad heintus fyth eto, ond bydd yn aros hefo fi a llawer o rai eraill am byth."

Yn ogystal â’r effaith ar y bobl oedd agosaf ato, roedd Jamie yn aelod poblogaidd o gymuned Glannau Dyfrdwy.

Fe drefnodd Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah, y tîm lleol y bu’n chwarae iddo, gêm yn ei enw, a daeth mwy na 1,000 o bobl i wylio.

"Daeth pobl nad ydw i wedi’u gweld ers deng mlynedd o’r ysgol ac o gwmpas yr ardal i gyd, pob un yn teimlo’r golled yn arw, ond hefyd eisiau dangos cefnogaeth i deulu Jamie ac yntau," meddai Jack.

Byddai Jack wedi dymuno dangos y gefnogaeth honno iddo.

"Hoffai rhywun ei atgoffa fo ‘edrycha, rydyn ni’n caru ti, mêt, a bydd popeth yn iawn’."

Cyfradd hunanladdiad dynion uwch yng Nghymru

Mewn naw o’r deng mlynedd diwethaf, mae’r gyfradd hunanladdiad ymhlith dynion wedi bod yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, yn ôl data diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn 2022, gogledd ddwyrain Lloegr oedd â’r gyfradd uchaf o hunanladdiad ymhlith dynion, sef 12.8 fesul 100,000, gyda Chymru a gogledd orllewin Lloegr yn dilyn ar 12.5 fesul 100,000.

Mae hefyd yn dangos bod dynion deirgwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad yng Nghymru.

Disgrifiad o'r llun, Bu farw tad Jack, Carl Sargeant – un o weinidogion Llywodraeth Cymru – hefyd drwy hunanladdiad yn 2017

I Jack, mae ei brofiadau o golled yn bwydo i mewn i'r darlun hwnnw.

"Mae’n ddau ddyn, dynion ifanc hefyd. Roedd Jamie yn 28 a Dad yn 47, felly dyna ddau ddyn o dan 50," meddai Jack.

Mae hefyd yn myfyrio ar ei iechyd meddwl ei hun.

"Dwi’n dioddef o iselder a PTSD.

"Dwi’n cymryd meddyginaeth gwrth-iselder yn ddyddiol a does dim byd o’i le ar hynny."

Disgrifiad o'r llun, Mae clwb pêl-droed tre Cei Connah wedi hyfforddi nifer o lysgenhadon iechyd meddwl ac yn annog dynion i siarad, waeth be di'r broblem

Mae'n gobeithio, trwy rannu ei brofiadau, y gellir atal y boen y mae wedi'i wynebu o golli ei dad a'i ffrind.

"Os gallwn geisio helpu drwy godi ymwybyddiaeth a siarad allan, a thrio achub un person, mae hynny’n ganlyniad da i mi."

Ond, mae hefyd yn deall yr anhawster.

"Dwi’n sefyll yma heddiw i siarad â chi am yr hyn y mae angen i ni ei wneud i annog pobl i siarad. Ond ydw i'n ymarfer hynny drwy'r amser? Nac ydw.

"Dwi’n ei chael hi’n anodd iawn bod yn agored a siarad am fy iechyd meddwl."

Mae Jack yn credu y gall llawer o gefnogaeth i ddynion ddod o fewn cymunedau lleol.

"Er cof am Jamie, mae Clwb Pêl-droed Tref Cei Connah wedi gweithredu ethos bod yn rhaid i bawb barhau i siarad, beth bynnag ydi o."

Mae'r clwb hefyd wedi hyfforddi nifer o lysgenhadon iechyd meddwl ac mae ‘na fynediad at gymorth proffesiynol.

"Mae angen i ni edrych ar leoliadau fel hyn lle mae dynion yn dod i le diogel ac yn gallu siarad yn agored.

"Mae’n sicr yn rhywbeth y dyle ni edrych ar fwy o glybiau i’w wneud, a mwy o sefydliadau."

'Edrych ar ôl ein gilydd'

Mae Jack hefyd yn credu bod angen i'r llywodraeth sicrhau bod pobl yn gallu cael cymorth pan fo angen.

Fe gafodd ei ethol yn Aelod o'r Senedd dros Alun a Glannau Dyfrdwy, gan olynu ei dad yn dilyn ei farwolaeth.

Mae am ddefnyddio'r llwyfan i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl dynion a hunanladdiad.

"Mae’n rhaid i ni fod mewn sefyllfa, ac nid yw’n ateb dros nos, ond os oes angen i bobl gael cymorth proffesiynol, dylent allu gwneud hynny’n gyflym iawn."

Wrth fyfyrio ar golli ei dad, mae un neges y mae Jack yn cadw ei afael ynddi.

"Roedd ganddo siacedi siwt ym mhobman, fel y gallwch ddychmygu. Ynddyn nhw byddai pâr o sbectol wedi torri, beiro heb gaead, mwy na thebyg, a fawr o ddim arall fel arfer.

"Ond, pan roedden ni’n clirio ei siwtiau allan, roedd y darn hwn o bapur y tu mewn i un siaced roeddwn i wedi’i chodi."

Roedd y darn o bapur y daeth Jack o hyd iddo yn gefn bwydlen o Ddawns Elusennol y Cadeirydd pan fu'n rhaid i Carl Sargeant ddweud ychydig eiriau.

"Roedd wedi ysgrifennu ychydig eiriau ar y cefn, “edrych ar ôl ein gilydd".

"Os allwn ni wneud hynny dros ein gilydd, yna rydyn ni’n rhoi’r cyfle gorau i ni’n hunain."

Am fwy am y stori hon, gwyliwch ´óÏó´«Ã½ Wales Live am 22:30 ar ´óÏó´«Ã½ One neu ar iPlayer.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y ´óÏó´«Ã½.