Y Seintiau drwodd i ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Brad Young sgoriodddd y g么l hollbwysig i'r Seintiau nos Fawrth

Mae'r Seintiau Newydd wedi cyrraedd ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr ar 么l curo FK De膷i膰 yn y rownd gyntaf.

Cyfartal 1-1 oedd hi yn Podgorica, Montenegro nos Fawrth, ond roedd buddugoliaeth Y Seintiau o 3-0 yn y cymal cyntaf yn golygu eu bod wedi ennill o 4-1 ar gyfanswm goliau dros ddau gymal.

Rhoddodd Brad Young y Seintiau ar y blaen yn Stadion Pod Goricom gyda chic o'r smotyn ychydig funudau cyn diwedd yr hanner cyntaf.

Fe lwyddodd De膷i膰 i unioni'r sg么r wedi 72 munud, wedi i g么l Kajevi膰 gael ei chymeradwyo gan VAR.

Bydd y Seintiau yn wynebu Ferencvaros o Hwngari yn yr ail rownd ragbrofol.