Cyhoeddi enwau'r p芒r priod 'ffyddlon' fu farw mewn t欧

Disgrifiad o'r llun, Roedd swyddogion Heddlu'r De wedi canfod gwn reiffl a chi marw yn y t欧 hefyd

Mae鈥檙 heddlu wedi cyhoeddi enwau鈥檙 cwpl priod a fu farw mewn t欧 yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Roedd Christine Jefferies yn 72 oed, a'i g诺r Stephen Jefferies yn 74 oed.

Cafodd yr heddlu eu galw gan gymdogion pryderus i gartref y cwpl ym Morfa Cresccent, Trowbridge am tua 14:50 ddydd Sadwrn.

Dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad fod y ddau wedi marw "yn sydyn" a'u bod wedi canfod gwn reiffl yn y t欧.

Roedd May, ci sbaniel y p芒r, wedi cael ei saethu鈥檔 farw.

Roedd Mr Jefferies, a oedd yn cael ei adnabod fel Jaffa, wedi ymddeol o鈥檌 waith fel weldiwr gyda Chyngor Caerdydd 10 mlynedd yn 么l.

Roedd yn ddyfarnwr rygbi adnabyddus ac fe fu鈥檔 asesu dyfarnwyr eraill ar gyfer Undeb Rygbi Cymru hefyd.

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau鈥檙 p芒r priod wedi dweud nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad 芒'r digwyddiad.

'Pawb mewn sioc'

Dywedodd cymydog, a oedd yn adnabod y cwpl yn dda: 鈥淢ae pawb mewn sioc, roedden nhw'n gwpl hyfryd, wedi ymroi'n llwyr i'w gilydd.

鈥淵r hyn sydd wedi cynhyrfu pobl gymaint ag unrhyw beth arall yw bod eu cocker spaniel wedi鈥檌 ladd hefyd."

Mae Heddlu鈥檙 De wedi diolch i'r gymuned leol am eu hamynedd wrth i'r ymchwiliad barhau.

"Rydyn ni'n deall fod y digwyddiad yma wedi achosi sioc a thristwch i'r gymuned leol," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Lianne Rees.

Ychwanegodd bod "ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Christine a Stephen Jefferies ar yr adeg anodd hon.鈥

"Mae ymholiadau helaeth yn parhau wrth i ni sefydlu'r digwyddiadau trasig a ddigwyddodd ddydd Sadwrn."

Maen nhw hefyd yn aros am ganlyniadau archwiliadau post-mortem, fydd yn cadarnhau achos y farwolaeth.

Priod ers dros 50 mlynedd

Y gred yw fod gan y cwpl, a oedd wedi bod yn briod am fwy na 50 mlynedd, ddau o blant h欧n, mab a merch, yn byw yn lleol.

Roedd gan y p芒r randir gerllaw lle roedden nhw'n tyfu eu llysiau eu hunain.

Dywedodd cymydog arall, nad oedd eisiau cael ei enwi: 鈥淩oedden nhw鈥檔 gwpl neis, tawel a oedd bob amser yn chwifio llaw wrth yrru heibio i mi yn eu fan.

"Cafodd Jaffa ei anafu tra鈥檔 chwarae rygbi pan oedd yn 20 oed ac fe ddechreuodd ddyfarnu ac yna daeth yn aseswr swyddogol yn edrych ar berfformiad dyfarnwyr eraill.

"Roedd meddwl uchel ohono yn y g锚m, wnaeth e ond ymddeol tua phum mlynedd yn 么l. Bu'n gweithio i'r cyngor fel weldiwr yn trwsio llochesi bysiau ar draws y ddinas.

"Roedd fy mab yn y stryd pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys brynhawn Sadwrn, dywedodd bod heddlu ym mhobman."