Nyrsys Cymru'n credu nad yw codiad cyflog o 5.5% yn ddigon

Disgrifiad o'r llun, Nyrsys yn protestio y tu allan i Ysbyty Gwynedd yn 2023

Mae nyrsys yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid gwrthod codiad cyflog Llywodraeth Cymru o 5.5%, medd eu hundeb.

Dywedodd 72% o aelodau Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yng Nghymru a bleidleisiodd nad oedd y cynnig yn ddigonol.

Dywedodd pennaeth yr RCN yng Nghymru fod aelodau wedi "siarad yn uchel ac yn glir" ac nad yw'r codiad cyflog yn mynd i'r afael 芒 "blynyddoedd o beidio cael eu talu'n iawn".

Nid pleidlais ar gyfer gweithredu diwydiannol oedd hon - a bydd nyrsys yn parhau i dderbyn codiad cyflog wedi'i 么l-ddyddio i fis Ebrill ym mis Tachwedd.

Cafodd y cynnig o godiad cyflog uwchlaw chwyddiant ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, ar 10 Medi, ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi derbyn argymhelliad amryw o gyrff adolygu cyflogau annibynnol "yn llawn".

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y cynnig o godiad cyflog uwchlaw chwyddiant ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Eluned Morgan fis Medi

Roedd y codiadau cyflog ar gyfer 2024/25 yn cynnwys:

  • 5.5% i nyrsys a staff eraill y GIG fel parafeddygon sydd ar gontractau 鈥淎genda Newid y GIG鈥;
  • 5.5% i athrawon;
  • 6% i feddygon a deintyddion, gyda 拢1,000 ychwanegol ar gyfer meddygon iau.

Daw鈥檙 bleidlais yng Nghymru wedi pleidlais debyg gan aelodau鈥檙 RCN yn Lloegr ym mis Medi, a ddywedodd fod cynnig Llywodraeth y DU o godiad cyflog o 5.5% i nyrsys yn annigonol.

Doedd y naill bleidlais na'r llall yn bleidlais ar gyfer gweithredu diwydiannol - yn hytrach y nod oedd gofyn barn nyrsys.

Mae鈥檙 RCN wedi galw ar yr Ysgrifennydd Iechyd i drafod ymhellach y "tandaliad hanesyddol鈥 y maen nhw鈥檔 credu y mae nyrsys wedi鈥檌 dderbyn.

'Ddim yn cyfateb i natur hollbwysig y gwaith'

Dywedodd Helen Whyley, cyfarwyddwr gweithredol RCN Cymru: 鈥淢ae ein haelodau wedi siarad yn uchel ac yn glir: mae staff nyrsio yng Nghymru yn gwybod eu gwerth.

"Ar 么l blynyddoedd o beidio 芒 chael eu talu'n ddigonol dyw'r codiad cyflog hwn ddim yn cyfateb i natur hollbwysig eu gwaith a'r sgiliau helaeth y maent yn eu cyflwyno i'r GIG.

鈥淕yda鈥檙 GIG yng Nghymru mewn cyflwr bregus, mae鈥檔 hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i werthfawrogi staff nyrsio fel bod mwy yn cael eu recriwtio ac yn aros yn y swydd - fe fydd hyn, yn ei dro, yn gwella gofal cleifion.

Mae鈥檙 Coleg Nyrsio Brenhinol yn galw ar yr Ysgrifennydd Iechyd a Gofal i gymryd rhan mewn trafodaethau brys ar y "tandaliad hanesyddol鈥 a wynebir gan nyrsys yng Nghymru.

"Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gydnabod bod cyflog teg yn hanfodol i gynnal y gweithlu hanfodol hwn."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

Yr wythnos ddiwethaf pleidleisiodd aelodau Cymdeithas Radiograffwyr Cymru o blaid derbyn codiad cyflog y llywodraeth.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淩ydym yn gwerthfawrogi gweithlu nyrsio Cymru yn fawr, sy鈥檔 gwneud cymaint i ofalu am bobl a darparu gofal sy鈥檔 achub bywydau ac sy鈥檔 newid bywydau, yn aml mewn amgylchiadau o bwysau mawr.

鈥淩ydym wedi derbyn argymhellion y corff adolygu cyflogau annibynnol ar gyfer staff Agenda Newid y GIG yn llawn, ac yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar sut i fwrw ymlaen 芒鈥檙 argymhelliad ar strwythurau t芒l.

鈥淩ydym yn gwybod bod cadw ein gweithlu presennol yr un mor bwysig 芒 recriwtio staff newydd, ac rydym hefyd wedi cynnal ein cyllideb addysg a hyfforddiant ar 拢281m eleni.

鈥淓r gwaethaf y pwysau digynsail ar ein cyllideb, mae鈥檙 niferoedd uchaf erioed o bobl yn cael eu cyflogi gan y GIG.

鈥淩ydym yn parhau i weithio gyda chyflogwyr ac undebau i ddarparu鈥檙 amgylchedd gwaith a鈥檙 amodau y mae ein staff GIG yn eu haeddu ac mae angen iddynt barhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel i bobl Cymru.鈥