Cyfres yr Hydref: Cymru'n colli'n drwm i Dde Affrica

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Siom amlwg y capten Dewi Lake wedi g锚m galed yn erbyn pencampwyr y byd

Mae record wael ddiweddar t卯m rygbi Cymru yn parhau wedi iddyn nhw gael eu trechu'n gyffyrddus gan Dde Affrica yng ng锚m olaf Cyfres yr Hydref.

Fe lwyddodd Cymru i adennill rhywfaint o barch gyda'u dycnwch wrth geisio cystadlu gyda th卯m gorau'r byd.

Ond mae'r golled o 45 pwynt i 12 yn golygu bod Cymru wedi colli 12 g锚m brawf yn olynol, sy'n ymestyn record o ran colledion.

Mae hefyd yn golygu bod Cymru wedi mynd blwyddyn galendr gyfan heb ennill prawf, a hynny am y tro cyntaf ers 1937.

Parhau felly mae'r cwestiwn a fydd Warren Gatland yn parhau fel prif hyfforddwr wrth i Gymru droi eu golygon at baratoi ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Dywedodd yntau ar 么l y g锚m nad yw wedi cynnig ymddiswyddo a bod "rhaid aros i weld be sydd gan Undeb Rygbi Cymru i'w ddweud".

Roedd cael canlyniad da yn erbyn pencampwyr y byd wastad yn mynd i fod yn dalcen caled, wedi'r colledion blaenorol yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn Fiji ac Awstralia

Yn anffodus, roedd yna arwyddion pendant o'r gwahaniaeth o ran safon y ddau d卯m o'r dechrau.

Daeth dau gais cyntaf y Springboks - gan Franco Mostert ac Eben Etzebeth - o fewn y 10 munud cyntaf.

Bu ond y dim i'r capten Siya Kotisi dirio ond fe gafodd ei atal rhag gwneud gan Jac Morgan.

Ond er amddiffyn arwrol Morgan a James Botham, roedd y pwysau ar Gymru'n ddi-baid.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency

Disgrifiad o'r llun, Roedd Cymru dan bwysau mawr am ran helaeth y g锚m

Daeth y trydydd cais diolch i Kurt-Lee Arendze, ac roedd Aphelele Fassi yn agos iawn at gael un arall, oni bai am ymyrraeth Blair Murray a gafodd ei gymeradwyo gan gefnogwyr Cymru fel pe tae wedi sgorio cais i Gymru.

Cafodd ymdrech dan y pyst gan Kolisi ei ddyfarnu'n annilys ond wedi 35 munud o chwarae roedd Elrigh Louw wedi tirio a gyda phwytiadau trosiadau Jordan Hendrikse roedd De Affrica 0-29 ar y blaen.

Ond reit ar ddiwedd yr hanner fe wibiodd Rio Dyer gyda'r b锚l heibio amddiffynwyr De Affrica i groesi'r llinell yn y gornel a sicrhau bod Cymru 芒 phwyntiau ar y sgorfwrdd ar yr egwyl.

Methodd Sam Costelow 芒 throsi ac ychwanegu pwyntiau, ond roedd Dyer o bosib wedi cyfiawnhau cael ei gynnwys yn y garfan wedi i Gatland ei hepgor o'r gemau yn erbyn Fiji ac Awstralia.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Rio Dyer ar ei ffordd i'r llinell gais i sicrhau unig bwyntiau Cymru yn yr hanner cyntaf

Yr her i Gymru wedi'r egwyl oedd ceisio sicrhau mwy o feddiant a threulio llai o amser yn eu hanner eu hunain yn erbyn t卯m nerthol a chyflym sy'n pasio mor gywir.

Enillodd y t卯m cartref gic gosb gynnar ond fe wnaethon nhw wastraffu'r cyfle gan ildio'r meddiant.

O fewn dim roedd Aphelele Fassi wedi sgorio pumed cais y Springboks ar 么l tirio yn y gornel.

Wedi ychydig dros awr o chwarae, daeth eu chweched - symudiad a darddodd o gic rydd gyflym o'r sgrym a Gehard Steenekamp wnaeth ei sgorio.

Doedd De Affrica ddim cweit cystal t卯m yn yr ail hanner ac fe gafodd Cymru ambell gyfnod addawol.

Eto i gyd doedd dim modd atal y bwlch rhag agor ymhellach - roedd yna un cais arall i ddod gan yr ymwelwyr, y tro hwn gan Jordan Hendrikse a giciodd yn gywir wedi hynny i wneud hi'n 5-45.

Ond fe lwyddodd Cymru i leddfu siom eu cefnogwyr fymryn yn symudiadau olaf y g锚m - fe wibiodd James Botham trwy amddiffyn i sgorio ail cais ei d卯m a gyda throsgais Ben Thomas y sg么r terfynol oedd 12-45.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymru wedi colli pob un o'u gemau eleni dan yr hyfforddwr Warren Gatland

Mae Cymru nawr wedi colli 18 allan o 24 g锚m brawf ers i Gatland ddychwelyd fel hyfforddwr.

Bydd angen troi'r fantol yn sylweddol cyn g锚m gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad, ar 31 Ionawr, oddi cartref yn erbyn Ffrainc.

Wrth drafod ei sefyllfa ei hun dywedodd Gatland nad yw wedi cynnig ymddiswyddo.

Dywedodd: "Dydych chi ddim yn gwneud penderfyniad yn syth ar 么l g锚m... rhaid aros i weld beth sydd gan Undeb Rygbi Cymru i'w ddweud."

Ychwanegodd: "Gawn ni weld beth sy'n digwydd yn ystod y dyddiau nesaf."