Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angharad i arwain Cymru i'r Euros?
- Awdur, Owain Llyr
- Swydd, Chwaraeon 大象传媒 Cymru
Mae yna wythnos dyngedfennol ar y gweill i d卯m p锚l-droed merched Cymru.
Mi fyddan nhw'n wynebu Slofacia dros ddau gymal yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.
Bydd yr enillwyr wedyn yn chwarae'n erbyn unai Gweriniaeth Iwerddon neu Georgia am le yn yr Euros yn Y Swistir yr haf nesaf.
Mae Cymru'n gobeithio creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol am y tro cyntaf erioed, ac mae ganddyn nhw gapten newydd i geisio eu harwain yno.
Pwyso a mesur cyn penodi
Ar 么l i Sophie Ingle gamu i lawr fel capten ym mis Ebrill, mi benderfynodd y rheolwr newydd Rhian Wilkinson gymryd ei hamser cyn penodi olynydd.
Mae Jess Fishlock, Hayley Ladd a Ceri Holland i gyd wedi cael y cyfle i arwain y t卯m yn ystod y chwe mis diwethaf, cyn y cyhoeddiad dair wythnos yn 么l mai Angharad James fydd yn gwneud y swydd yn barhaol o hyn ymlaen.
Mae o'n sicr yn benderfyniad sy'n gwneud synnwyr gan fod ganddi gymaint o brofiad, ac yn rhywun sy'n uchel ei pharch o fewn yr ystafell newid.
Yn wreiddiol o Arberth, mae hi bellach wedi ennill 122 o gapiau dros ei gwlad ers ei hymddangosiad cyntaf n么l yn 2011.
"Mae Angharad wedi perfformio'n gyson i鈥檙 t卯m yma am flynyddoedd, ac mae hynny鈥檔 cael ei amlygu gan y nifer o gemau y mae wedi eu chwarae," yn 么l Rhian Wilkinson.
"Mae ei hangerdd a鈥檌 hymrwymiad i鈥檞 gwlad yn amlwg, ac mae hi bob amser yn cynnig cyngor i鈥檞 chyd-chwaraewyr pan fydd hi鈥檔 camu ar y cae."
Ar lefel clwb mae Angharad ar y funud yn chwarae i glwb Seattle Reign yn y NWSL, sef y brif adran yn Yr Unol Daleithiau.
Mae'r gynghrair hon yn cael ei chydnabod fel yr un orau yn y byd yng ng锚m y merched, felly mae chwarae'n rheolaidd yn Yr Unol Daleithiau wedi ei helpu hi ddatblygu fel chwaraewr.
Dyma'r eildro iddi chwarae yn y NWSL ar 么l iddi dreulio cyfnodau'n chwarae i North Carolina Courage ac Orlando Pride rhwng 2021 a 2022.
Yn nes at adref mae hi wedi chwarae i glybiau fel Everton, Reading a Tottenham Hotspur yn yn WSL, sef y brif adran yn Lloegr.
'Balch iawn'
Er fod Angharad yn dweud ei bod hi'n anrhydedd cael ei henwi'n gapten, mae hi'n pwysleisio fod ei ffocws hi ar gael canlyniad da yn erbyn Slofacia nos Wener.
"Mi fydd hi'n foment balch iawn i fi a fy nheulu yn arwain y merched allan. Ond tydi'r g锚m ddim amdano fi."
Mi fuodd Cymru mewn sefyllfa debyg ddwy flynedd yn 么l pan gollon nhw yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Y Swistir.
"Ni fel gr诺p ddim ishe edrych yn 么l, ni'n edrych ymlaen. Ni nawr yn garfan wahanol, ac mae'n sefyllfa wahanol.
"Natho ni ddysgu shwt gymaint yn y g锚m yna. Y teimlad ar 么l y g锚m - ni ddim moyn teimlo fel'na eto."
Bydd posib gwrando ar sylwebaeth o鈥檙 ddwy g锚m yn ebryn Slofacia yn fyw ar 大象传媒 Radio Cymru.