大象传媒

'Angen mwy o arian i gyrraedd targed tai cymdeithasol'

Tai Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae hyd at 9,197 o gartrefi wedi'u darparu hyd yn hyn, gyda 10,000 yn rhagor ar y gweill

  • Cyhoeddwyd

Mae angen gwario llawer mwy er mwyn cyrraedd addewid i adeiladu mwy o dai cymdeithasol, meddai archwilwyr.

Mae llai na hanner yr 20,000 o gartrefi a addawyd gan Lafur yn eu maniffesto ar gyfer etholiad diwethaf y Senedd wedi cael eu hadeiladu.

Heb arian ychwanegol, dywedodd corff Archwilio Cymru y gallai Llywodraeth Cymru fod tua 4,000 o gartrefi yn brin o鈥檌 tharged erbyn mis Mawrth 2026.

Dywedodd y llywodraeth fod chwyddiant uchel yn gwneud y targed 鈥渉yd yn oed yn fwy heriol鈥.

拢580m i 拢740m yn ychwanegol

Mae gweinidogion eisoes wedi dweud gallai prisiau cynyddol olygu nad ydyn nhw鈥檔 creu鈥檙 holl gartrefi cymdeithasol carbon isel yr oedden nhw'n bwriadu yn nhymor hwn y Senedd.

Yn 么l yr amcangyfrif diweddaraf, bydd y cynllun yn costio tua 拢1.8bn.

Ond mae Archwilio Cymru yn amcangyfrif y bydd angen rhwng 拢580m a 拢740m yn ychwanegol.

Dywed eu hadroddiad fod y cynnydd wedi bod yn 鈥渁raf ac yn ddrytach nag a ddisgwyliwyd鈥.

Mae hyd at 9,197 o gartrefi wedi'u darparu hyd yn hyn, gyda 10,000 yn fwy ar y gweill.

Mae hynny ychydig yn llai na鈥檙 targed, ond mae鈥檙 adroddiad yn amcangyfrif, heb yr arian ychwanegol, mai dim ond rhwng 15,860 a 16,670 o gartrefi fydd yn cael eu darparu.

Mae鈥檔 ychwanegu bod 鈥渢ebygolrwydd uchel鈥 na fydd rhai cynlluniau yn digwydd o gwbl, hyd yn oed gyda rhagor o arian.

Mae chwyddiant sydd tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru wedi cynyddu鈥檙 gost o adeiladu cartrefi newydd.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi talu i gynghorau brynu neu brydlesu mwy o gartrefi, sydd hefyd yn cyfrif tuag at y targed o 20,000.

Fodd bynnag, nid yw pob un o'r cartrefi hynny yn rhai newydd neu garbon isel.

Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Adrian Crompton fod diffyg capasiti yn y system gynllunio a'r angen i gydymffurfio gyda rheoliadau amgylcheddol wedi oedi pethau.

Dywedodd: 鈥淏ydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru wario llawer mwy nag y mae wedi鈥檌 gynllunio ar ei gyfer ar hyn o bryd.

鈥淎c yn ail, bydd angen iddi gyflawni鈥檙 holl gynlluniau sydd ar y gweill 鈥 ac rydym yn meddwl bod risg eithaf uchel na fydd rhai o鈥檙 cynlluniau hynny digwydd mewn pryd nac o gwbl, waeth beth bynnag lefel y cyllid sydd ar gael.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Archwilio Cymru yn dweud fod 鈥渢ebygolrwydd uchel鈥 na fydd rhai cynlluniau tai yn digwydd o gwbl

Dywedodd llefarydd tai y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood ei bod hi'n "annerbyniol bod y llywodraeth Lafur yng Nghymru ar ei h么l hi mor bell ar eu targed adeiladu tai".

"Mae eu polis茂au yn lleihau cyflenwad tai fforddiadwy ac mae eu ffocws ar dwristiaeth ac ail gartrefi yn gwyro oddi wrth yr angen ehangach i ddarparu mwy o dai," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw ystyried casgliadau ac argymhellion adroddiad Archwilio Cymru ac yn ymateb maes o lawr.

Dywedodd llefarydd bod sawl ffactor yn effeithio ar gyflenwad tai, gan gynnwys pwysau chwyddiant, sydd wedi gwneud y dasg o gyrraedd y targed yn fwy heriol.

Bydd y llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r sector tai i adeiladu rhagor o gartrefi, meddai.

Maen nhw hefyd yn dweud bod taclo digartrefedd a darparu rhagor o gartrefi yn flaenoriaeth iddyn nhw, ac yn dweud eu bod nhw wedi gosod targed heriol ac wedi buddsoddi 拢1.4bn hyd yma i ariannu cyflenwad tai.

Pynciau cysylltiedig