Dirwy i gwmni arwerthu wedi i ddyn gael ei ladd gan fuwch
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni arwerthu adnabyddus sy'n rhedeg dau fart yn y gorllewin wedi ei ddedfrydu i dalu mwy na 拢82,000 mewn dirwy a chostau, yn dilyn marwolaeth dyn yn Sir Gaerfyrddin.
Cafodd Huw Evans, 75, ei sathru gan fuwch oedd wedi dianc o farchnad Hendy-gwyn ar Daf fis Tachwedd 2022.
Bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty chwe diwrnod yn ddiweddarach.
Daw鈥檙 ddedfryd ar 么l i un o gyfarwyddwyr cwmni JJ Morris bleidio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol.
Mae'r cwmni annibynnol yn gyfrifol am farchnadoedd Hendy-gwyn ar Daf a Chrymych.
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2022
Ar 19 Tachwedd 2022, dihangodd buwch naw oed a oedd yn groesfrid o Limousin, wrth gael ei dadlwytho o drelar ym marchnad da byw Hendy-gwyn ar Daf.
Ceisiodd sawl unigolyn gael rheolaeth ar y fuwch cyn iddi gyrraedd man cyhoeddus, gydag un aelod o staff yn dioddef anaf i鈥檞 goes ar 么l cael ei daro ganddi.
Wrth groesi鈥檙 ffordd y tu allan i archfarchnad yn y dref, cafodd Huw Evans, cyn-weithiwr cyngor a oedd yn byw鈥檔 lleol, ei sathru gan y fuwch.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw chwe diwrnod yn ddiweddarach.
Cafodd y fuwch, a oedd yn eiddo i Paula Wilson, ei difa gan yr heddlu.
'Ymosodol' wrth ei llwytho
Clywodd Llys Ynadon Llanelli i Ms Wilson ddweud mewn sgwrs anffurfiol wrth un o weithwyr y mart bod y fuwch wedi bod "yn siarp" ac yn "ymosodol" tuag ati, wrth iddi ei llwytho i鈥檙 trelar y bore hwnnw.
Heb i鈥檙 gweithiwr gael cyfle i drosglwyddo鈥檙 neges i鈥檞 gyd-weithwyr, roedd un ohonynt wedi agor y trelar a rhyddhau鈥檙 fuwch.
Dywedodd y bargyfreithiwr Anthony Vines, ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, nad oedd mesurau priodol mewn lle ym mart Hendy-gwyn ar Daf - fel grid gwartheg - i atal anifeiliaid fel da byw rhag dianc o'r safle.
Cyfeiriodd at ddigwyddiad arall hefyd, lle roedd buwch wedi dianc o鈥檙 mart yn Hendy-gwyn ar Daf i ganolfan ailgylchu gyfagos ddiwedd 2021, er na chafodd neb eu hanafu y tro hynny.
Dywedodd nad oedd prawf fod unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud rhwng y digwyddiad hynny 芒鈥檙 digwyddiad lle bu farw Mr Evans.
Dywedodd Alun Williams, bargyfreithiwr ar ran JJ Morris, fod y cwmni yn un adnabyddus sydd wedi bod yn rhedeg y mart yn Hendy-gwyn ar Daf ers dros 30 mlynedd.
Dyma鈥檙 tro cyntaf, meddai, yn hanes y mart iddyn nhw wynebu digwyddiad fel hyn, "sydd yn awgrymu rhywbeth i ni am arfer da'r cwmni".
Ychwanegodd bod dros filiwn o wartheg wedi cael eu trin yn y mart dros y 30 mlynedd, a bod y fuwch benodol hon, yn 么l gweithwyr, yn amlwg mewn cyflwr "ymosodol" cyn iddi gyrraedd yno.
'Dad oedd fy ffrind gorau'
Roedd meibion Huw Evans yn bresennol yn y llys, ynghyd ag aelodau arall o鈥檙 teulu.
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen gan eu bargyfreithiwr, dywedodd Dafydd John Evans, ei fod mewn "anghrediniaeth" pan glywodd y newyddion am ymosodiad y fuwch ar ei dad.
"Mae ei farwolaeth wedi cael effaith aruthrol arna' i a fy mrawd. Dad oedd fy ffrind gorau," meddai.
Dywedodd fod ei dad yn ddyn oedd yn mwynhau darllen papur newydd a chael peint dyddiol yn y dafarn leol.
"Byddai鈥檔 eistedd yn yr un sedd bob dydd," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud fod landlord y dafarn wedi symud y sedd erbyn hyn, gan nad oedd yn medru wynebu gweld y sedd yn wag, heb fod Mr Evans yn eistedd ynddi.
"Bydd wyrion Dad byth yn ei adnabod yn llawn," ychwanegodd Dafydd John Evans.
"Fydd e ddim yno i鈥檞 gweld nhw鈥檔 tyfu鈥檔 h欧n."
Beth oedd y ddedfryd?
Ar 么l pledio鈥檔 euog i ddau gyhuddiad yn ymwneud 芒 iechyd a diogelwch mewn gwrandawiad blaenorol, cafodd cwmni arwerthu JJ Morris ei dedfrydu i dalu cyfanswm o 拢82,047 - dirwy o 拢75,000, 拢5,047 mewn costau a swm ychwanegol o 拢2,000.
Roedd y ddedfryd yn ymwneud 芒 methu sicrhau iechyd, diogelwch a lles aelod o staff, ynghyd 芒 methu sicrhau iechyd a diogelwch aelod o鈥檙 cyhoedd.
Roedd y ddau gyfarwyddwr, David Arwel Thomas a John Cecil Estcourt Nicholas, yn bresennol yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau.
Ers y digwyddiad mae grid gwartheg wedi cael ei osod ym mart Hendy-gwyn ar Daf, yn dilyn gorchymyn gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.
"Roedd modd rhagweld ac atal y digwyddiad trasig hwn," meddai'r Arolygydd Iechyd a Diogelwch Rhys Hughes.
"Fe ddylai'r risg pe tai gwartheg yn dianc o'r mart fod wedi ei adnabod, a mesurau rheoli effeithiol wedi'u cyflwyno.
"Mae'r achos hwn yn tanlinellu pwysigrwydd dilyn canllawiau'r diwydiant, sy'n hawdd eu canfod ac sy'n amilnellu'r gofynion i reoli gwartheg yn ddiogel."