Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
G锚m gyfartal i Gymru yng ng锚m gyntaf Bellamy wrth y llyw
G锚m gyfartal oedd hi i Gymru yng ng锚m gyntaf Craig Bellamy wrth y llyw, gyda sg么r o 0-0 yn erbyn Twrci.
Dyma g锚m gyntaf Cymru yn eu hymgyrch newydd yng ngr诺p 4 o'r ail haen - Cynghrair B - o Gynghrair y Cenhedloedd, sydd hefyd yn cynnwys Gwlad yr I芒 a Montenegro.
Roedd hi'n ddechrau cyffrous i d卯m Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda'r cyfle cyntaf yn dod o beniad gan Aaron Ramsey funudau wedi'r gic gyntaf.
Roedd y Cymry'n rheoli'r meddiant am yr hanner cyntaf, yn chwarae ar y droed flaen gyda symudiadau da ar draws y cae.
Wrth nes谩u at hanner amser, roedd y pwysau ar Twrci yn cynyddu, gyda Sorba Thomas yn rhoi'r b锚l yn y rhwyd, ond ni chafodd y g么l ei chaniat谩u am ei fod yn camsefyll.
Roedd yr ail hanner yn fwy cystadleuol o'r gic gyntaf, gyda chyfle gorau Twrci'n cyrraedd o fewn ychydig o funudau.
Ond roedd Cymru'n chwarae gyda'r un hyder a thempo a welwyd yn yr hanner cyntaf gyda chasgliad o ergydion yn dod yn fuan yn yr ail hanner.
Wrth i'r pwysau gynyddu ar Twrci unwaith eto, fe wnaeth eu hymosodwr Baris Yilmaz dderbyn ail gerdyn melyn am drosedd ar Neco Williams.
Gyda Twrci lawr i 10 dyn am drydedd olaf y g锚m, llwyddodd Cymru i gadw'r pwysau arnynt am weddill y 90 munud.
Daeth Kieffer Moore, Lewis Koumas ac Oli Cooper ymlaen i Gymru am Ramsey, Thomas a Jordan James yn y gobaith y gallai helpu'r t卯m fanteisio ar y dyn ychwanegol.
Roedd toriad yn y chwarae am ychydig o funudau ar 么l i Moore ddioddef anaf i'w ben a wnaeth arwain at wyth munud o amser ychwanegol.
Ond er yr holl ymosodiadau gan Gymru, dim ond un arbediad wnaeth golwr Twrci ar y noson wrth i'r g锚m orffen yn ddi-sg么r.
Bydd t卯m dynion Cymru'n chwarae oddi cartref nesaf yn erbyn Montenegro nos Lun.