大象传媒

Arestio dyn ar amheuaeth o ddynladdiad bachgen, 16, fu farw

Ll欧r DaviesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd Ll欧r Davies yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn yn ei 60au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad mewn cysylltiad 芒 marwolaeth bachgen 16 oed mewn chwarel.

Bu farw Ll欧r Davies yn dilyn "digwyddiad yn ymwneud 芒 thryc" yn chwarel Gilfach ger Efailwen yn Sir Benfro ar 12 Mawrth eleni.

Ar y diwrnod, dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod tryc wedi ei ganfod mewn afon fas, tra bod unigolyn wedi ei ddarganfod mewn lleoliad arall.

Fe wnaeth teulu Ll欧r Davies, a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul, ei ddisgrifio fel "bachgen caredig, doniol a hoffus".

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Llun bod dyn yn ei 60au wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ddynladdiad o ganlyniad i esgeulustod difrifol.

Mae wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad yr heddlu.

Mae achos llys yn digwydd ar hyn o bryd, ble mae athro yn gwadu ymosod ar Ll欧r Davies dridiau cyn ei farwolaeth.

Clywodd y llys nad yw'r achos hwnnw yn gysylltiedig 芒'i farwolaeth mewn unrhyw ffordd.

  • Roedd fersiwn flaenorol o'r erthygl hon yn nodi yn anghywir fod y dyn yn ei 60au wedi'i ryddhau ar fechn茂aeth tra鈥檔 aros am ymholiadau pellach gan yr heddlu, ar sail gwybodaeth gan Heddlu Dyfed-Powys. Ers hynny mae'r heddlu wedi cywiro'r wybodaeth i ddweud ei fod wedi cael ei ryddhau dan ymchwiliad

Pynciau cysylltiedig