Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canslo'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi canslo'r Fedal Ddrama eleni.
Daeth y penderfyniad ar 么l y broses o feirniadu'r gystadleuaeth, medd y brifwyl mewn datganiad.
Bydd adolygiad o gystadlaethau cyfansoddi'r Eisteddfod yn sgil y penderfyniad.
Does dim manylion pellach am y rheswm dros ganslo'r fedal ar hyn o bryd.
Y Fedal Ddrama oedd i fod yn brif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn ddydd Iau.
Mewn datganiad, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol: "Yn dilyn trafodaethau a gafwyd ar 么l cwblhau鈥檙 broses o feirniadu鈥檙 Fedal Ddrama, daethpwyd i鈥檙 penderfyniad bod yn rhaid atal y gystadleuaeth eleni.
"Yn ogystal, ni fydd beirniadaeth yn cael ei chyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.
"Bydd yr Eisteddfod yn adolygu prosesau a gweithdrefnau ein cystadlaethau cyfansoddi yn sgil y penderfyniad hwn."
Ychwanegodd yr Eisteddfod na fyddan nhw na'r beirniaid yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater.
Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Geinor Styles, Mared Swain a Richard Lynch oedd y beirniaid eleni.
Fel arfer, bydd y wobr yn mynd i ddrama sydd 芒 photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.