Cymuned 'wedi ei sobri' yn dilyn marwolaeth dynion ifanc

Disgrifiad o'r fideo, Fe ddywedodd cynghorydd yn Sir Amwythig, Mary Davies, fod "awyrgylch trist" yn y dref

Dywed cynghorydd o Sir Amwythig bod her fawr yn wynebu'r dref ar 么l i bedwar bachgen lleol gael eu canfod yn farw yng Ngwynedd ddydd Mawrth.

Cafwyd hyd i Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett a Hugo Morris ger pentref Garreg, Llanfrothen.

Roedd y pedwar wedi bod ar goll ers y penwythnos.

Mae ffordd yr A4085 yn parhau ar gau fore Mercher wrth i Heddlu'r Gogledd barhau gyda'u hymchwiliadau.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau, fe ddywedodd y Cyng Mary Davies, fod "awyrgylch trist" yn Yr Amwythig a bod "pawb yn dawel ac wedi'i sobri".

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett a Hugo Morris ddydd Mawrth

Ychwanegodd: "Mae 'na lawer o bobl yn nabod ei gilydd ac mae hi yn gymuned glos yn y dref.

"Mae pawb yn dod at ei gilydd i helpu y naill a'r llall.

"Mae eglwysi ar agor, mae 'na gymorth i bobl ifanc yn enwedig achos maen nhw'n gorfod delio gyda cholled eu ffrindiau.

"Dwi'n nabod pobl gyda phlant yr un oed ac mae e wedi taro adref yn ofnadwy, y golled."

Yn 么l Ms Davies, mae hi'n "rhy gynnar" i feddwl am sut i gofio am y bechgyn.

"Mae pawb jest yn dod i dermau efo beth sydd wedi digwydd achos oedd pawb yn gobeithio fysa nhw jest wedi mynd ar goll.

"Ond pan ddaeth y newyddion p'nawn dydd Mawrth, daeth pob gobaith i ben.

"Mae hyn yn mynd i fod yn enfawr i鈥檙 dre ac mae pawb yn delio un diwrnod ar y tro ac i drio dod i ddeall sut i hyn ddigwydd mor ofnadwy."

Disgrifiad o'r fideo, Munud o dawelwch yn Llanfrothen ddydd Mercher i gofio'r pedwar a fu farw

Roedd Jevon Hirst, Harvey Owen, Wilf Fitchett a Hugo Morris wedi bod ar goll ers y penwythnos.

Yn wreiddiol o Sir Amwythig, cafodd y bechgyn, un yn 16 oed, dau yn 17 ac un yn 18 oed, eu gweld diwethaf yn ardal Porthmadog a Harlech fore Sul.

Y gred yw bod y bechgyn wedi teithio i Eryri ar gyfer trip gwersylla.

Cyhoeddodd yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i gyrff mewn car oddi ar y A4085 ger pentref Garreg ddydd Mawrth.

Roedd y Ford Fiesta wedi'i ddarganfod "ben i lawr", ac "yn rhannol dan dd诺r".

Canslo digwyddiad Nadolig

Penderfynodd Cyngor Tref Amwythig ganslo dathliad troi'r goleuadau Nadolig y ymlaen, oedd i fod i ddigwydd nos Fercher.

Ychwanegodd Ms Davies: "Doedd hi ddim yn briodol ac roedd yr amgylchiadau ddim yn hwylus o gwbl, ac o ran parch i bawb ac i deuluoedd Wilf, Jevon, Harvey a Hugo.

"Mae fel arfer yn noson hwyliog, lot o gerddoriaeth a goleuadau ond doedd hi ddim yn addas y flwyddyn yma o gwbl."

Disgrifiad o'r llun, Mae rhan o'r A4085 wedi ei chau

Cafodd ffordd yr A4085 ei hagor nos Fawrth, ond ei chau unwaith eto fore Mercher ar 么l i Heddlu'r Gogledd ddychwelyd i barhau gyda'u hymchwiliadau.

Nos Fercher dywedodd yr Uwch-arolygydd Owain Llewelyn bod swyddogion lleol a chydweithwyr o D卯m Chwilio Tanddwr y Gogledd Orllewin "bellach wedi cwblhau ymchwiliad trylwyr" o leoliad y gwrthdrawiad ar yr A4058.

Bydd y ffordd yn parhau i fod ar gau rhwng troad pentref Garreg a throad Porthmadog Pontaberglaslyn.