Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Datblygiad tai yn 'berygl i鈥檙 Gymraeg a chymuned Botwnnog'
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae pryder y byddai codi datblygiad o 18 o dai fforddiadwy mewn pentref yn Ll欧n yn "berygl i鈥檙 Gymraeg a gwead y gymuned".
Bwriad datblygwyr yw codi'r tai i'w rhentu ym Motwnnog, gan ddatgan fod angen amlwg am gartrefi o'r fath yn yr ardal.
Ond mae'r cynlluniau wedi denu gwrthwynebiad chwyrn gan y cyngor cymuned leol, sydd o'r farn byddai'r datblygiad yng nghalon y pentref yn cael effaith andwyol.
Ymysg y sylwadau gan aelodau oedd mai "da o beth fyddai pe gyfyngid argaeledd y tai arfaethedig i siaradwyr Cymraeg", ond gan dderbyn nad oedd modd gwarantu hynny, "ni ellir profi na fyddai cyfran helaeth o'r tai hyn yn mynd yn aelwydydd di-Gymraeg".
Argymell caniat谩u鈥檙 datblygiad mae swyddogion Cyngor Gwynedd, gyda disgwyl penderfyniad ar y cais yr wythnos nesaf.
'Cyfyngu i siaradwyr Cymraeg yn unig'
Yn 么l ffigyrau Cyngor Gwynedd o 2022 roedd pris t欧 cyfartalog ym Motwnnog tua 拢310,000, oedd yn golygu fod 91% o bobl leol wedi eu prisio allan o鈥檙 farchnad leol.
Ond er bod dros 15% o dai y ward yn ail gartrefi, mae dros 70% o'r trigolion yn siarad Cymraeg - sy'n uwch na chyfartaledd Gwynedd o 64.4%.
Mae'r datblygwyr yn dweud fod y cais yn ymateb i'r angen lleol, ond dadlau nad oes galw am dai o'r fath yma mae'r cyngor cymuned.
Mae 大象传媒 Cymru wedi cysylltu gyda'r cyngor cymuned am sylw, ond yn 么l ymateb ysgrifenedig yr awdurdod i'r ymgynghoriad, maen nhw o'r farn byddai'n cael effaith annerbyniol ar wasanaethau lleol.
Mae Cyngor Cymuned Botwnnog hefyd yn dweud byddai pobl di-Gymraeg yn symud yno yn cael "effaith pellgyrhaeddol ar addysg ein pobl ifanc yn lleol".
Ychwanegon nhw: "Byddai鈥檙 cynnydd poblogaeth disymwth yn sgil codi鈥檙 tai yn effeithio er gwaeth ar sefydlogrwydd y gymuned, hefyd, ac felly鈥檔 or-ddatblygu.
"Gwyddom fod galw mawr yn yr ardal am ail gartrefi a lletyau tymor byr, a bod grym y fasnach ymwelwyr wedi arwain at fewnlifiad di-Gymraeg sylweddol i鈥檙 fro ers degawdau.
"Mae hyn wedi arwain at ddirywiad mawr yng nghanrannau siaradwyr Cymraeg cymunedau cyfagos Llang茂an/Abersoch, ac nid yw鈥檙 grym dirywiol hwn yn adnabod ffiniau."
Aethon nhw ymlaen i ddweud: "Da o beth fyddai pe cyfyngid argaeledd y tai arfaethedig i siaradwyr Cymraeg yn unig, ond yn niffyg hynny, ni ellir profi na fyddai cyfran helaeth o鈥檙 tai hyn yn mynd yn aelwydydd di-Gymraeg, onid y cyfan ohonynt."
Serch hynny, barn swyddogion cynllunio Gwynedd yw bod y cais "wedi ei lunio i gwrdd ag anghenion y farchnad dai leol" ac "wedi ei leoli ar safle sydd o fewn ffin ddatblygu鈥檙 pentref".
Hefyd yn datgan ei fod yn "dderbyniol ar sail egwyddor" ac yn cydymffurfio 芒 gofynion polis茂au, yr argymhelliad i bwyllgor cynllunio'r awdurdod yw y dylid caniat谩u鈥檙 cais.
'Gymaint wedi symud i ffwrdd o'r ardal'
Ym Motwnnog brynhawn Mercher dywedodd Elgan Wyn Jones fod angen am fwy o dai yn Ll欧n.
"I mi mae'n swnio'n bositif ond yn amlwg 'da chi angen y lle iawn ar ei gyfer o.
"Mewn cymuned fach fel Botwnnog dio'm yn berffaith, ond mae angen am fwy o dai.
"Mae bron yn amhosib hefo'r prisiau - Gwynedd yn gyffredinol - mae'n swnio'n dasg anodd cael t欧 jyst i'w rhentu.
"Mae gen i gymaint o ffrindiau wedi symud i ffwrdd o'r ardal... mae'n broblem fawr."
Ond dywedodd Tamara Davies, sy'n byw yn y pentref: "Dio'm yn gr锚t gan fod ganddon ni broblem sewerage ac mae t欧 ni reit yma, fydd y privacy yn mynd.
"'Sna'm angen yn ein pentref ni - dim angen.
"Mae'r balans, mae'n job dydi? Mae 18 yn lot gormod dydy?"
'Angen mwy o brosiectau fel hyn'
Yn 么l Cae Capel Cyf, sydd wedi darparu'r cais, mae maint y datblygiad yn addas i'r safle ac ni fyddai'n or-ddatblygiad.
Drwy law yr asiant, Owen Devenport Cyf, maen nhw hefyd yn wfftio honiadau nad oes angen amlwg amdanyn nhw, a byddai unrhyw effaith negyddol ar yr iaith yn "ddim o gwbl neu'n fach iawn".
"Mae'n amlwg ei fod yn addas o ran maint ar gyfer y pentref a'i gyd-destun, ac yn wir, mae'n llai na nifer yr eiddo a ddyrannwyd ar gyfer y safle ac mae'n is na'r dwysedd targed a osodir yn y Cynllun Datblygu Lleol."
Er bod safbwynt Cyngor Cymuned Botwnnog wedi derbyn cefnogaeth gan aelodau o'r cyhoedd a chynghorau cymuned Llannor a Llanllechid, bu i'r awdurdod hefyd dderbyn llythyrau gan y cyhoedd yn datgan y dylid caniat谩u鈥檙 cais.
Daeth y rhain ar sail fod wir angen tai newydd er mwyn atal trigolion lleol rhag gadael, a bod angen "mwy o brosiectau fel hyn".
Mae disgwyl penderfyniad pan fydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd yn cyfarfod brynhawn Llun.