Ymestyn gwaith chwarel yn Ffestiniog tan 2048
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi cymeradwyo cais i ymestyn gwaith chwarel yn Ffestiniog tan 2048, gan ddiogelu 34 o swyddi.
Y gred yw mai chwarel Cwt y Bugail, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Chwarel Graig Ddu, Bwlch y Slaters neu Chwarel Manod, ydy safle diwydiannol uchaf Prydain.
Cafodd gwaith o'r Oriel Gelf Genedlaethol ei gadw mewn siambrau ar y safle i'w diogelu rhag bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dydd Llun fe wnaeth aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd gymeradwyo cais i ymestyn y gwaith ar y chwarel am 24 o flynyddoedd.
'Galw uchel'
Ymhlith amodau’r caniatâd oedd uchafswm allforio o 15,000 tunnell y flwyddyn, cyfyngiadau ar yr oriau ffrwydro, a bod yn rhaid adfer y safle pan ddaw’r cymeradwyaeth i ben.
Bydd y cam yn diogelu swyddi, medd perchennog y safle Welsh Slate.
Dywedodd Shaun Denny, o gwmni Breedon Trading sy’n berchen ar Welsh Slate: “Bydd ymestyn bywyd y chwarel yn darparu sylfaen gadarn i'r cwmni fedru gwneud penderfyniadau ynghylch gwariannau pellach er mwyn lleihau gwastraff, cynyddu nifer y llechi ry’n ni’n eu cynhyrchu, a chynyddu nifer y llechi ry’n ni’n gallu eu gwerthu bob blwyddyn – gan fod galw uchel ar hyn o bryd.
“Bydd 34 o swyddi crefftus yn y chwarel hefyd yn cael eu diogelu."
Mae modd adnabod llechi Cwt y Bugail drwy eu lliw llwydlas tywyll sydd ag ambell wythïen wen.
Cafodd y safle ei agor yn 1840.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2020