Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
27 achos o E. coli wedi eu cofnodi yng Nghymru
Mae 27 achos o haint E. coli bellach wedi cael eu cofnodi yng Nghymru ers 25 Mai, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Y gred yw bod y lledaeniad yn ymwneud 芒 mathau penodol o frechdanau, wraps a saladau sydd wedi eu hadalw o archfarchnadoedd mawr y DU.
Mae bwydydd wedi cael eu galw yn 么l o sawl archfarchnad fawr gan gynnwys Aldi, Asda, Co-op a Morrisons.
Yn 么l swyddogion, "mesur rhagofalus" yw'r penderfyniad i adalw bwydydd.
Mae'r Greencore Group, sydd 芒 safle yng Nghaerfyrddin a Samworth Brothers Manton Wood ymhlith y cwmn茂au sydd wedi adalw eitemau.
Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae 27 o achosion bellach wedi eu cadarnhau yng Nghymru - ac mae 44% o'r bobl hynny wedi derbyn triniaeth ysbyty ar 么l cael eu heintio.
Gr诺p o facteria yw E. coli sydd yn byw yn y coluddyn heb achosi niwed fel arfer, ond mae rhai mathau, fel STEC, yn gallu achosi salwch difrifol.
Mae heintiau STEC yn aml yn achosi dolur rhydd difrifol, gyda gwaed ynddo o bryd i'w gilydd, poen yn y bol a thwymyn.
'Ymchwiliad cymhleth'
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn "gweithio gyda'u partneriaid ar hyd y Deyrnas Unedig er mwyn dod o hyd i achos y lledaeniad", meddai llefarydd ar eu rhan.
Dywedodd Darren Whitby, o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, fod asiantaethau eraill hefyd yn "gweithio i ddod o hyd i'r achos".
Ychwanegodd Mr Whitby: "Mae hwn yn ymchwiliad cymhleth ac rydym wedi gweithio鈥檔 gyflym gyda鈥檙 busnesau perthnasol a鈥檙 awdurdodau lleol dan sylw i leihau鈥檙 ystod eang o fwydydd a fwyteir i nifer fach o gynhyrchion dail salad sydd wedi鈥檜 defnyddio mewn brechdanau, wraps, subs a rholiau".
Mae'r Asiantaeth yn cynghori pobl i beidio 芒 bwyta unrhyw gynnyrch sydd wedi cael eu hadalw.