Chwe Gwlad: Cymru'n curo'r Eidal
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi curo'r Eidal yn eu g锚m olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Y sg么r terfynol yn Stadiwm Principality oedd Cymru 22-20 Yr Eidal.
Er bod Cymru wedi gorffen ar waelod y tabl gyda phum pwynt ar 么l colli pob g锚m arall, roedd y canlyniad ddydd Sadwrn yn hwb i d卯m Ioan Cunningham.
Mewn cyfweliad gyda'r 大象传媒, dywedodd y prif hyfforddwr, Ioan Cunningham: "Mae hyn yn enfawr. Mae pawb wedi rhoi cymaint o waith, egni ac ymdrech i'r ymgyrch yma a dydi pethau ddim wedi mynd y ffordd roedden ni wedi ei obeithio.
"Mae'r fuddugoliaeth yma'n golygu gymaint i ni gyd.
"Mae'n beth da ein bod ni wedi ennill heddiw fel ein bod ni'n gallu adeiladu ar hynny. Beth bynnag fydd nesa' i ni mi fyddwn ni'n ceisio ffocysu ar hynny ac ennill mwy o gemau."
Mae'r fuddugoliaeth yn ryddhad i'r chwaraewyr hefyd.
Dywedodd y prop, Gwenllian Pyrs: "Mae'n anhygoel... rydyn ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn wythnos yma a wedyn es i drosodd a chael cais.
"Mae wedi bod yn ymgyrch anodd iawn i ni ond mae'r canlyniad heddiw yn anhygoel a bydd y merched yn hapus gyda'n perfformiad ni."
Wrth siarad 芒 大象传媒 Cymru, dywedodd y capten Hannah Jones: "Roedden ni'n haeddu hyn 100%.
"Rydw i mor falch o'r merched am ennill heddiw. Dwi eisiau diolch i'r cefnogwyr sydd wedi dal i'n cefnogi ni drwy gyfnodau anodd ac mae'r fuddugoliaeth heddiw iddyn nhw.
"Byddwn ni'n dal i fynd, byddwn ni'n dal i wella a dim ond y dechrau ydi hyn i ni."
Cyfnodau rhwystredig
Roedd dechrau addawol i Gymru a bu bron iddyn nhw sgorio cais yn y deg munud cyntaf ond fe aeth y b锚l ymlaen fodfeddi'n brin o'r llinell gais.
Roedd cyfle arall i Gymru ychydig funudau yn ddiweddarach wrth i Carys Phillips redeg lawr y cae. Ond fe aeth y b锚l ymlaen eto, ar 么l i Georgia Evans a Lleucu George gamddeall ei gilydd.
Roedd hwb i obeithion Cymru wrth i Carys Phillips sgorio cais cynta'r g锚m, cyn i'r Eidal daro yn 么l lai na munud yn ddiweddarach wrth i Vittoria Ostuni Minuzzi sgorio cais. Cymru 5-7 Yr Eidal.
Gyda chamgymeriadau gan chwaraewyr y ddau d卯m, roedd cyfnodau rhwystredig i Gymru a'r Eidal.
Gyda chic arbennig gan Lleucu George lawr y cae, roedd Cymru bum medr o'r llinell gais. Roedd cyfle perffaith i Gymru cyn iddyn nhw gael eu gosbi am beidio gyrru'n syth mewn sgrym.
Ym munudau ola'r hanner cyntaf, fe gafodd yr Eidal gic cosb ar 么l i Georgia Evans gael ei chosbi ac fe lwyddodd Beatrice Rigoni i anelu'r b锚l rhwng y pyst.
Y sg么r ar yr hanner oedd Cymru 5-10 Yr Eidal.
Roedd 'na ddechrau gwych i Gymru ar ddechrau'r ail hanner, wrth i Gwenllian Prys sgorio cais yn y munudau cyntaf, cyn i Keira Bevan gicio'r b锚l rhwng y pyst.
Er gwaetha'r dechrau addawol i Gymru, fe darodd yr Eidal n么l wrth i Francesca Granzotto sgorio cais gan ddod 芒'r sg么r yn gyfartal, 15-15.
Roedd 'na ergyd arall i Gymru wrth i Emma Stevanin sgorio cais i'r Eidal ond fe ddaeth trydydd cais i Gymru wrth i Sisilia Tuipulotu groesi'r llinell gyda rhai munudau'n weddill o'r g锚m.
Fe ddaeth Cymru ar y blaen o 22-20 wrth i Lleucu George gicio rhwng y pyst.
Roedd Cymru angen ennill y g锚m er mwyn osgoi pum colled am y tro cyntaf yn eu hanes.
Flwyddyn yn 么l roedd pob dim yn f锚l i gyd i d卯m rygbi menywod Cymru, wrth iddyn nhw ddathlu eu llwyddiant mwyaf yn y Chwe Gwlad ers 13 mlynedd.
Wedi sawl blwyddyn gythryblus ar ac oddi ar y cae, mi oedd hi'n ymddangos fod t卯m Ioan Cunningham wedi troi cornel.
Flwyddyn yn ddiweddarach ac mae'r t卯m wedi gorffen ar waelod y tabl, ond mae'r canlyniad yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn yn hwb i'r chwaraewyr ac i'r t卯m hyfforddi.
Bydd Cymru'n chwarae g锚m ail-gyfle yn erbyn Sbaen yn ddiweddarach eleni i weld a fyddan nhw鈥檔 chwarae yn yr ail neu鈥檙 drydedd haen yng nghystadleuaeth WXV yn yr Hydref.
Lloegr enillodd y Gamp Lawn am y chweched tro yn olynol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ebrill
- Cyhoeddwyd13 Ebrill
- Cyhoeddwyd30 Mawrth