Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Pennaeth gwasanaeth t芒n y de yn 'fwli', medd swyddog undeb
- Awdur, Gareth Pennant
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae pennaeth dros dro Gwasanaeth T芒n De Cymru wedi cael ei alw yn "fwli" gan un o brif gynrychiolwyr undeb y frig芒d d芒n.
Cafodd Stuart Millington ei benodi gan gomisiynwyr ar ran Llywodraeth Cymru ddechrau'r flwyddyn yn dilyn adroddiad damniol am y diwylliant o fewn y gwasanaeth.
Ond yn 么l Cerith Griffiths o Undeb y Frig芒d D芒n (FBU), mae pethau wedi "gwaethygu" dan arweiniad Mr Millington.
Dywedodd Gwasanaeth T芒n ac Achub De Cymru nad oedd gan Mr Millington sylw i wneud ar y mater.
Mae Stuart Millington yn wynebu tribiwnlys cyflogaeth yn gysylltiedig 芒'i waith fel dirprwy brif swyddog t芒n gyda Gwasanaeth T芒n Gogledd Cymru.
Ym mis Chwefror, fe benderfynodd y llywodraeth y dylai comisiynwr redeg gwasanaeth t芒n y de.
Cafodd Mr Millington ei benodi fel pennaeth dros dro'r gwasanaeth ym mis Chwefror 2024.
Mae Cerith Griffiths yn cynrychioli Cymru ar bwyllgor gweithredol Undeb y Frig芒d D芒n.
Dywedodd mai nod y penodiad oedd newid y diwylliant a鈥檙 gwerthoedd, ond fod y pennaeth dros dro newydd yn canolbwyntio ar 鈥測mosod ar delerau ac amodau aelodau鈥 yn hytrach na mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 problemau a godwyd yn yr adroddiad damniol.
Ychwanegodd ei fod wedi "siarad gyda sawl unigolyn" sydd wedi awgrymu fod Mr Millington yn "delio gyda pethau sydd ddim fel bydde ni'n disgwyl wrth rywun sy'n rhedeg y gwasanaeth, ac sydd yn gweithio yn y r么l fel prif swyddog t芒n".
Mae hefyd wedi galw Mr Millington yn 鈥渇wli鈥.
Ychwanegodd ei fod yn ymddangos "nad ydi pethau wedi newid... os rhywbeth maen nhw wedi gwaethygu".
Cynnig o ddiffyg hyder
Fe wnaeth aelodau o Undeb y Frig芒d yn ne Cymru basio cynnig o ddiffyg hyder yn Mr Millington ym mis Chwefror.
Fe wadodd Mr Griffiths nad oedd diffoddwyr t芒n wedi rhoi cyfle iddo, gan ddweud: "O ystyried rhai o'r pryderon gafodd eu codi ganddon ni... roedd yna gyfiawnhad i gymryd y penderfyniad hwnnw.鈥
Dywedodd gwasanaeth t芒n y de nad oedd gan Mr Millington "sylw i'w wneud ar y mater hwn".