大象传媒

Amgueddfa Lechi Llanberis yn disgwyl derbyn tua 拢18m

Amgueddfa Llechi Llanberis Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyma鈥檙 buddsoddiad sylweddol cyntaf "ers chwarter canrif鈥, medd pennaeth yr amgueddfa

  • Cyhoeddwyd

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn disgwyl derbyn 鈥渢ua 拢18m鈥 dros y blynyddoedd nesaf er mwyn gwella mynediad a phrofiad ymwelwyr.

Yn 么l pennaeth yr amgueddfa yn Llanberis, mae鈥檙 cyllid yn 鈥渓lygedyn o obaith鈥 i鈥檙 sector, sy鈥檔 wynebu cyfnod 鈥渉eriol鈥.

Fis Ebrill fe gyhoeddodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru y byddai鈥檔 rhaid gwneud 90 o ddiswyddiadau oherwydd toriadau i鈥檞 cyllideb.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn 鈥渋 ganolbwyntio ar wasanaethau craidd鈥.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn disgwyl derbyn 鈥渢ua 拢18m鈥 dros y blynyddoedd nesaf

Bydd y cyllid i鈥檙 Amgueddfa Lechi yn Llanberis yn dod o sawl cronfa, gan gynnwys y Loteri Genedlaethol, Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a grant gan Lywodraeth Cymru.

Yn 么l yr amgueddfa mae statws UNESCO Treftadaeth y byd wedi galluogi鈥檙 sefydliad i wneud ceisiadau am ragor o grantiau.

Dyma鈥檙 buddsoddiad sylweddol cyntaf "ers chwarter canrif鈥, meddai Elen Wyn Roberts, pennaeth yr amgueddfa.

"Mae 'na elfennau o鈥檙 adeilad sy鈥檔 gwegian erbyn hyn ac mae鈥檙 adeilad ei un dros 150 o flynyddoedd oed," meddai.

鈥淢ae鈥檙 gwaith cadwraeth yn bwysig ond hefyd gwella'r isadeiledd, y siop a鈥檙 caffi, a hefyd gwella profiad yr ymwelydd yn gyffredin a'r orielau.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Elen Wyn Roberts ei bod hi'n gyfnod heriol iawn i'r sector

Fe ddaw鈥檙 buddsoddiad wedi pryderon ar draws y sector yng Nghymru o sgil effeithiau toriadau.

Yn gynharach eleni fe wnaeth y Prif Weinidog Vaughan Gething amddiffyn y toriadau i鈥檙 amgueddfa genedlaethol, gan beidio 芒 chynnig cymorth brys.

Ar y pryd, fe rybuddiodd Jane Richards, prif weithredwr Amgueddfa Cymru, y gallai un o'i safleoedd mwyaf adnabyddus - yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd - gau am fod ei gyflwr yn dirywio.

Ffynhonnell y llun, Amgueddfa Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nod yr arian ydy gwella mynediad a phrofiad ymwelwyr

Yn 么l Elen Wyn Roberts, mae鈥檙 sector yn wynebu heriau enfawr.

鈥淢ae鈥檔 gyfnod heriol ofnadwy a bod yn onest.

鈥淥nd mae鈥檙 arian yma yn rhoi llygedyn o obaith i ni. Mae鈥檔 rhoi dyfodol i鈥檙 Amgueddfa Lechi mewn cyfnod mor ansicr.

Bydd y gwaith diweddaru yn canolbwyntio ar ehangu casgliadau a gwella mynediad, ynghyd 芒 sicrhau mwy o gyfleodd i addysgu.

'Cadw sgiliau'

Yn 么l Jon Jo, chwarelwr sy鈥檔 gweithio gyda鈥檙 amgueddfa - ac o deulu chwe chenhedlaeth o chwarelwyr - mae鈥檙 newyddion i鈥檞 groesawu.

鈥淢ae鈥檔 syniad da iawn ac mae鈥檔 mynd i gadw sgiliau i fynd a鈥檜 harddangos nhw i bobl o bedwar ban byd," meddai.

鈥淢ae鈥檙 sgiliau yn mynd yn brin, ond dyna pam mae鈥檔 bwysig trio cael rhywbeth tu 么l iddo i gadw fo fynd."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r chwarelwr Jon Jo yn croesawu'r newyddion

Wrth ymateb i bryderon am gyllid dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon yn rhan annatod o鈥檔 cymdeithas a鈥檔 lles.

鈥淩ydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at 拢700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021, ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd."

Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Lesley Griffiths: "Mae'r diwydiant llechi yn rhan bwysig o gymunedau, tirweddau a threftadaeth y rhan yma o Gymru ac mae Amgueddfa Lechi Cymru yn cynnig cyfle unigryw i gael cipolwg ar fywydau'r gweithwyr llechi a'u teuluoedd."