拢400,000 i helpu datblygu Amgueddfa Lechi Llanberis
- Cyhoeddwyd
Mae Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis wedi derbyn grant o dros 拢400,000 i'w helpu i ddatblygu.
Daw'r arian - 拢412,565 - gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gyda'r nod o greu dyfodol "mwy disglair i orffennol diwydiannol y DU".
Y gobaith yw y bydd yr arian datblygu yn "trawsnewid yr amgueddfa yn atyniad o safon fyd-eang i ymwelwyr".
Fe fydd yr arian yn galluogi'r amgueddfa i barhau 芒'u cynlluniau i gyflwyno cais am grant llawn o dros 拢9m gan y gronfa yn y dyfodol.
Cafodd yr amgueddfa ei hagor ym 1972 ac fe ddaeth yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2021.
Wrth dderbyn yr arian datblygu, dywedodd Jane Richardson, prif weithredwr Amgueddfa Cymru bod yr amgueddfa "wrth ein boddau" i dderbyn yr arian datblygu.
"Yn ogystal 芒 thrawsnewid ein hamgueddfa, bydd hyn hefyd yn newid y ffordd y gallwn adrodd hanes tirwedd llechi treftadaeth y byd gogledd-orllewin Cymru," meddai.
"Mae鈥檙 ariannu hwn yn nodi carreg filltir yn hanes yr amgueddfa a bydd yn ein galluogi i gysylltu 芒 chymunedau ar draws Cymru a鈥檙 byd."
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn buddsoddi dros 拢14.8m mewn wyth prosiect gwahanol ar draws y DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2021