´óÏó´«Ã½

Hybu Cig Cymru: 'Byddai cyn-bennaeth wedi cael ei ddiswyddo'

Gwyn Howells
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gwyn Howells ymddiswyddo o'i rôl fel Prif Weithredwr HCC ym mis Mehefin

  • Cyhoeddwyd

Byddai cyn-brif weithredwr Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol pe na bai wedi ymddiswyddo ymlaen llaw.

Fe gadarnhaodd HCC fis diwethaf bod Gwyn Howells wedi ymddiswyddo o’i rôl, a hynny ar ôl bod i ffwrdd o'r gwaith ers haf y llynedd.

Ddydd Mawrth, mewn datganiad ar ran bwrdd Hybu Cig Cymru, datgelwyd fod Mr Howells wedi gadael ei swydd cyn i wrandawiad disgyblu gael ei gynnal.

Roedd y gwrandawiad disgyblu yn dilyn "ymchwiliad trylwyr" a gafodd ei gynnal gan arbenigwyr adnoddau dynol, yn ôl y datganiad.

Dyw HCC ddim wedi manylu ynglŷn ag union natur y camymddwyn difrifol – ond yn y gorffennol mae’r corff wedi dweud nad oedd honiadau o fwlio o fewn y sefydliad yn ymwneud â Mr Howells.

Mae Mr Howells wedi cael cais am ymateb.

Ym mis Chwefror eleni roedd rhaglen Newyddion S4C wedi datgelu bod chwe aelod o staff HCC wedi cwyno, ar wahân, eu bod nhw'n cael eu bwlio.

Fe ysgrifennodd Llyr Gruffydd, aelod o'r Senedd Plaid Cymru dros ogledd Cymru, at y Gweinidog Materion Gwledig ar y pryd, Lesley Griffiths, i alw arni i ymyrryd, gan ddweud ei fod yn poeni am ddiwylliant y corff.

Fe ddywedodd y llywodraeth nad oedd modd gwneud sylw ar faterion staffio mewnol HCC.

Yna, ym mis Mehefin fe ddaeth i’r amlwg bod dau o gyfarwyddwyr Hybu Cig Cymru wedi ymddiswyddo. Does dim awgrym eu bod nhw'n ymwneud â'r honiadau o fwlio.

Fe ymddiswyddodd Mr Howells rai dyddiau yn ddiweddarach.

Mae’r datganiad gan fwrdd Hybu Cig Cymru, sydd wedi’i gyhoeddi ddydd Mawrth, yn dweud fod y bwrdd yn unfrydol wrth dderbyn argymhelliad proses ddisgyblu annibynnol y byddai’r cyn-brif weithredwr Gwyn Howells "wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol pe na bai wedi ymddiswyddo".

Mae’r datganiad yn dweud hefyd fod Mr Howells wedi ymddiswyddo "yn syth cyn gwrandawiad disgyblu, a oedd yn dilyn ymchwiliad trylwyr".

"Roedd y ddwy agwedd wedi cael eu cynnal gan arbenigwyr adnoddau dynol annibynnol, a oedd yn cael eu cefnogi gan gyngor cyfreithiol.

"Penderfynodd y bwrdd fod difrifoldeb y mater yn golygu y dylid caniatáu i'r swyddog disgyblu gyflwyno adroddiad terfynol i gwblhau'r broses yn gywir."

Tystiolaeth o gamymddwyn 'ar dri achos gwahanol'

Yn ôl y datganiad, casgliad adroddiad y swyddog disgyblu oedd "bod digon o dystiolaeth o gamymddwyn difrifol ar dri achos gwahanol yn ymwneud â rheolaeth ac arweinyddiaeth Mr Howells".

Mae bwrdd HCC wedi derbyn yr holl argymhellion gan y cynghorwyr cyfreithiol ac adnoddau dynol, gan ychwanegu bod HCC bellach yn ystyried y mater wedi'i gau.

Mae’r datganiad yn gorffen gyda’r bwrdd yn diolch i’r staff "am eu hymrwymiad a’u proffesiynoldeb wrth barhau i gyflawni ar gyfer talwyr yr ardoll, a byddwn yn sicrhau bod ein tîm yn cael ei gefnogi’n llawn gyda’r gwaith hwnnw".

Mae ´óÏó´«Ã½ Cymru wedi cysylltu gyda Gwyn Howells i ofyn am sylw.

Pynciau cysylltiedig