Fic Llithfaen: 'tafarn gymunedol hynaf Ewrop... a gorau Cymru'

Wrth i'r Fic Llithfaen ddathlu cael ei henwi'n dafarn orau Cymru, Cymru Fyw fu draw i Ben Ll欧n i glywed profiad y cwmni arloesol - sy'n 36 mlwydd oed eleni - sydd wedi dylanwadu ar gymaint o gymunedau eraill.

Disgrifiad o'r llun, Osian Elis ac Iwan ap Llyfnwy

Wrth sgwrsio dros beint, mae鈥檔 amlwg bod Tafarn y Fic wedi bod yn rhan fawr o fywyd Osian Elis ac Iwan ap Llyfnwy ers ymhell cyn iddyn nhw gyrraedd oed yfed.

Tra bod y ddau bellach ar y bwrdd rheoli maen nhw hefyd yn feibion i ddau o sylfaenwyr y dafarn arloesol ym Mhen Ll欧n.

鈥淒wi鈥檔 cofio鈥檙 bwrlwm a dwi鈥檔 cofio鈥檙 ap锚l genedlaethol - roedd o ar dudalen flaen Y Cymro," meddai Osian, wrth hel atgofion am ei blentyndod. "Roedd Dad yn 'nabod lot o bobl a lle bynnag oedd o鈥檔 mynd ac yn cyfarfod rhywun oedd o鈥檔 'nabod fydda fo鈥檔 deud 鈥榬eit, tyrd a dy cheque book 补濒濒补苍鈥.&辩耻辞迟;

"Roedd yn rhaid bod dros 18 am yn hir i ddod yma, roedda nhw'n reit strict - ella yn enwedig i ni鈥檔 dau,鈥 ychwanegodd Iwan. 鈥淓rs fy nghyfnod i yn dod yma dwi鈥檔 meddwl bod o wedi troi yn fwy o dafarn teuluol. Tydi o ddim cymaint o dafarn yfed erbyn heddiw."

Yn 1988, doedd y bragdy oedd yn berchen y Victoria Hotel, Llithfaen, ddim yn gweld dyfodol i wneud elw yn y pentre鈥 bychan chwarelyddol wrth droed Yr Eifl a phenderfynwyd cau'r dafarn.

Ond roedd y lle yn fwy na ffordd o wneud arian i griw o bobl leol, yn eu mysg nhw John Llyfnwy a Gwyn Elis. Felly fe sefydlwyd cwmni arloesol i geisio ei hachub i鈥檙 gymuned - a鈥檙 syniad o godi morgais er mwyn gallu codi peint yn codi aeliau.

Disgrifiad o'r llun, Mae cymuned yn prynu eu tafarn leol yn gwneud y newyddion hyd heddiw, ond yn 么l yn yr 1980au roedd y syniad arloesol yn stori ar y tudalennau blaen

鈥淩oedd be鈥 wnaeth John a Dad a鈥檙 criw yn y dechrau yn uffarn o risg - yn cael morgais - roedd pobl yn meddwl bod nhw鈥檔 bonkers," eglurodd Osian.

鈥淒wi鈥檔 cofio Dad yn s么n bod ambell un wedi deud doedda nhw ddim yn meddwl y bydda fo鈥檔 gweithio ond mae Llithfaen efo hanes o fusnesau cydweithredol felly dwi鈥檔 meddwl bod o yn y gwaed. Ond roedd o dal yn risg a doedd 'run ohonyn nhw efo unrhyw syniad am redeg busnes na rhedeg tafarn.鈥

鈥淣agoedd,鈥 ychwanega Iwan. 鈥淩oedda nhw jest isho rhywle i yfed a rhywle i gymdeithasu.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae llwyddiant Y Fic wedi bod yn ysbrydoliaeth i dafarndai a mentrau cymunedol eraill ar draws Cymru

Llwyddodd yr ap锚l genedlaethol i gyrraedd y targed o 拢15,000 gyda chyfraniadau gan bobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt, ac yn 1988 sefydlwyd cwmni cydweithredol Tafarn y Fic. Hon oedd yr unig dafarn cymunedol yng Nghymru tan 2009 ac yn 么l y cwmni nhw bellach yw'r hynaf o'i fath yn Ewrop.

Er mai 鈥榯afarn yfed鈥 oedd hi am y blynyddoedd cyntaf, mae wedi datblygu yn 么l y gofyn dros y pedwar degawd. Roedd yn ganolfan bwysig i gigs Cymraeg yn yr ardal am flynyddoedd, yn dafarn gweini bwyd ac mae'n gyrchfan i bobl sy'n mynd i ganolfan iaith Nant Gwrtheyrn i gael blas o鈥檙 Gymraeg fel iaith fyw - yn enwedig ar noson cwis efo un dysgwr i bob t卯m.

Erbyn heddiw mae鈥檔 le poblogaidd i deuluoedd ar ddyddiau gemau rhyngwladol a phenwythnosau efo maes chwarae鈥檙 pentref mewn lleoliad perffaith ar ochr arall i'r wal o鈥檙 ardd gwrw.

Fis Chwefror 2024 enillodd Y Fic wobr Tafarn Orau Cymru a bydd nawr yn mynd ymlaen i geisio cipio'r wobr Brydeinig.

Disgrifiad o'r llun, Ar waliau'r Fic mae gwaith celf Malcolm Gwyon o rai o'r artistiaid sydd wedi chwarae yn y dafarn - yn cynnwys Cowbois Rhos Botwnnog a Gai Toms

Dros y degawdau, yng nghanol yr hwyl mae 'na gyfnodau anoddach llawn sialensiau, gan gynnwys adeiladu estyniad ac adnewyddu鈥檙 ganolfan yn 2003-04. Efo'r Fic ar gau am flwyddyn, cafodd Osian ac Iwan flas o sut le fyddai Llithfaen heb y dafarn fel canolbwynt.

Meddai Iwan: 鈥淎deg hynny neshi ddim gweld rhai cymeriadau am flwyddyn gyfan sy鈥檔 gwneud i chdi ddeall pam wnaeth nhw frwydro i gadw'r Fic yn y lle cynta鈥.

鈥淔yddai鈥檔 dlawd iawn yma heb Y Fic. Y peth efo Llithfaen - mae鈥檔 gallu bod yn heriol iawn i fyw yma yn y gaeaf. Pan mae鈥檔 niwl dopyn a ti methu gweld dy drwyn - adeg hynny mae gallu dod lawr i鈥檙 Fic yn bwysig.

鈥淢ae pedwar aelod o鈥檙 pwyllgor wedi symud yn 么l i鈥檙 ardal, ac un rhan o鈥檙 dynfa yn 么l i Lithfaen oedd gwybod bod Y Fic yno.鈥

Disgrifiad o'r llun, Mae golygfeydd braf o Fae Ceredigion a gweddill Pen Ll欧n o bentref Llithfaen - os ydi'r tywydd yn caniat脿u

Tra bod Y Fic 鈥渇el aur鈥 i ardal Llithfaen yn 么l Owain, mae鈥檔 dweud hefyd bod pobl o ardaloedd eraill yn ei gwerthfawrogi, fel daeth i鈥檙 amlwg ar 么l wythnos Eisteddfod brysur eleni, er eu bod nhw ar ochr arall Pen Ll欧n i Foduan.

Meddai: 鈥淩oedd 鈥榥a gr诺p o Lanelli wedi dod draw a wnaethon ni ofyn pam dod i鈥檙 Fic? 鈥極鈥 medda nhw 鈥榬oedd o ar ein bucket list, roedda ni鈥檔 benderfynol o ddod yma.鈥 Mae鈥檔 rhywle reit eiconig.鈥

Er bod y Fic yn sefydlog ar hyn o bryd, ac efo syniadau ar sut i ddatblygu, mae鈥檔 gyfnod heriol i holl dafarndai Cymru, gyda 52 wedi cau yn hanner cynta鈥檙 flwyddyn.

Mae costau byw cynyddol yn creu cur pen - gyda phrisiau rhedeg y lle wedi codi, a phawb efo llai o arian i鈥檞 wario. Yn ward Pistyll, fel yng ngweddill Ll欧n, mae鈥檙 cynnydd mewn tai gwyliau ac ail gartrefi yn creu sialens wahanol.

Eglurodd Osian: 鈥淧an 鈥榙a ni鈥檔 siarad am Y Fic, Tafarn Gymraeg, mae鈥檙 sefyllfa dai yn gallu cael effaith ar ei dyfodol os ydi鈥檙 trend yna yn parhau. Tafarn y bobl ydi鈥檙 Fic, pwyllgor o bobl leol sy鈥檔 ei redeg o a phobl leol sy鈥檔 ei ddefnyddio fo, felly fydd llai o bobl o gwmpas i ddod yma ac i redeg y lle.

鈥淭ydi ddim yn doom and gloom i gyd, ond mae o yn gwneud i chdi boeni.鈥

Gyda mwy o gymunedau yn prynu eu tafarndai cymunedol, y neges o鈥檙 Fic ydi bod angen cefnogaeth hir dymor. Un peth ydi cael y brwdfrydedd a鈥檙 arian i ddechrau鈥檙 fenter - ond mae angen parhau hynny am flynyddoedd.

Mae鈥檙 ddau yn dweud bod angen i lywodraethau wneud mwy na rhoi grantiau i helpu agor tafarn gymunedol neu bydd yr arian yn wastraff os nad ydi鈥檙 fenter yn llwyddiant.

鈥淚 fuddsoddi yn y gymuned mae鈥檔 rhaid ei wneud o鈥檔 hir dymor, ac mae angen cefnogaeth i fedru cario 'mlaen,鈥 meddai Osian.

Roedd Iwan yn rhedeg y dafarn fel tenant am gyfnod a fo bellach ydi prif fragwr Cwrw Ll欧n.

Mae鈥檔 dweud bod yn rhaid i鈥檙 rhai mewn grym sylweddoli bod tafarndai cymunedol yn golygu cymaint mwy na lle i gael diod: 鈥淢ae鈥檙 Fic yn fenter gymunedol, yn hwb diwylliannol, yn cadw鈥檙 Gymraeg, cadw cymuned. Mae lot o鈥檙 pethau mae Llywodraeth Cymru r诺an yn trio eu hybu 鈥榙a ni wedi bod yn gwneud nhw ers blynyddoedd, ers cychwyn Y Fic. Maen nhw鈥檔 dechra' dal fyny r诺an.鈥

Disgrifiad o'r llun, Cadw golwg dros y bar - llun o Gwyn 'Plas' Elis ar wal Y Fic

Yn rhannol oherwydd bod Y Fic yn fwy na thafarn arferol, mae 鈥榥a bwysau i gadw鈥檙 lle i fynd, yn enwedig felly i ddau o feibion y sylfaenwyr.

Mae tad Iwan - John - yn dal ar y pwyllgor ond bu farw tad Osian, Gwyn 鈥楶las鈥, yn 2006 ac yntau ond yn 56 oed.

Ffynhonnell y llun, Tafarn Y Fic

Disgrifiad o'r llun, John Llyfnwy - neu Llyfnwy o'r Foel - ar 么l derbyn ei Wisg Las yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 am ei waith gwirfoddol i gymuned Llithfaen

Meddai Osian: 鈥溾淒wi鈥檔 meddwl fasa Dad wedi bod wrth ei fodd i weld bod y Fic dal yma.

鈥淎 鈥榙a ni鈥檔 rili balch bod John wedi cael ei urddo blwyddyn yma ar 么l 35 mlynedd o waith.

鈥淢ae o鈥檔 dod yma am beint efo ni, ac mae o鈥檔 dod yma r诺an fel taid ac yn gweld ei wyrion a鈥檙 plant ifanc eraill yn chwarae yma - a dwi鈥檔 meddwl bod hwnna yn fesur llwyddiant.

鈥溾橠a ni鈥檔 gorfod sicrhau bod 鈥榥a dafarn yma be鈥 bynnag ma鈥檔 gymryd i gario fo mlaen. Mae o鈥檔 rhoi dipyn o bwysau arna ni i wneud yn si诺r bod 鈥榥a ffyniant ond tydi cau fan yma ddim yn opsiwn.鈥

  • Cyhoeddwyd fersiwn o'r erthygl yma fis Tachwedd 2023