Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Presgripsiynau digidol nawr ar gael i rai cleifion
- Awdur, Dafydd Evans
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae presgripsiynau digidol ar gael i rai cleifion yng Nghymru o ddydd Gwener ymlaen.
Mae鈥檙 gwasanaeth rhagnodi electronig yn galluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau ar-lein i fferyllfa o ddewis y claf, heb fod angen presgripsiwn papur.
Meddygfa Lakeside yn Y Rhyl, Sir Ddinbych, ydy鈥檙 cyntaf i newid i鈥檙 gwasanaeth a fydd yn cael ei ymestyn i rannau eraill o Gymru yn y flwyddyn newydd.
Mae Llywodraeth Cymru鈥檔 cydnabod ei bod hi wedi cymryd yn hirach i gyflwyno鈥檙 system na'r gobaith, ond y bydd y dechnoleg yn cyflawni mwy na systemau tebyg mewn gwledydd eraill.
Mae'r system newydd wedi cael ei phrofi yn Y Rhyl ers wythnos bellach.
Yn 么l prif fferyllydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Lois Lloyd, mae'n 鈥済arreg filltir鈥.
鈥淢ae 鈥榥a 40 miliwn o bresgripsiwns papur gwyrdd y flwyddyn fydd ddim r诺an yn gorfod cael eu cartio o un lle i鈥檙 llall ar hyd Cymru,鈥 dywedodd.
鈥淔ydd y fferyllfa yn cael un neges o鈥檙 feddygfa yn saff, a fyddan nhw鈥檔 gallu dosbarthu a sortio鈥檙 feddyginiaeth yn barod i鈥檙 claf.
鈥淢ae鈥檙 gwaith gweinyddol yna wedi mynd yn gyfan gwbl, sy鈥檔 golygu bod 鈥榥a fwy o amser i鈥檙 fferyllydd, neu d卯m y fferyllfa, siarad efo鈥檙 claf am eu triniaeth.鈥
Lleihau pwysau ar feddygon teulu
Mae rhagnodi electronig yn cael ei ystyried yn allweddol wrth leihau鈥檙 pwysau ar feddygon teulu hefyd, gan y bydd y rhagnodiadau鈥檔 cael eu llofnodi鈥檔 ddigidol yn hytrach na gyda llaw.
Mae oddeutu 1.5 miliwn o gysylltiadau gyda meddygon teulu bob mis yng Nghymru.
Cafodd yr e-ragnodyn cyntaf yn Lloegr ei ddefnyddio yn 2005, a bellach mae 95% o ragnodiadau yno鈥檔 cael eu hanfon yn ddigidol.
Bydd 拢12m yn cael ei fuddsoddi dros y ddwy flynedd nesaf yng Nghymru i helpu meddygfeydd a fferyllfeydd fabwysiadu鈥檙 dechnoleg newydd.
Yn 么l y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan dyma gam cyntaf proses ehangach o ddigideiddio a moderneiddio鈥檙 gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
鈥淢ae hwn wedi cymryd lot fwy o amser nag oedden ni鈥檔 gobeithio, ond bydd ein system ni yn lot fwy comprehensive na鈥檙 un sydd i gael yn Lloegr," meddai.
鈥淏ydd e鈥檔 siarad yn uniongyrchol gyda鈥檙 ap NHS sydd hefyd wedi cael ei rowlio allan a bydd hwn yn siarad gyda鈥檙 systemau meddygol eraill sydd ar gael yng Nghymru.
鈥淔elly ni鈥檔 adeiladu strwythur fan hyn sy鈥檔 reit soffistigedig.
鈥淩haid i chi gael y strwythur yn iawn ar y dechrau, a dyna sydd wedi cymryd mwy o amser i ni.鈥