Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
3 llun: Lluniau pwysicaf Margaret Williams
Os fyddai rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Y gantores soprano ac actores o Frynsiencyn, Margaret Williams, sydd wrth y llyw yr wythnos yma yn dewis ei hoff dri llun.
Wrth fy modd hefo'r llun yma. Wedi bod yn Borth (Porthaethwy) oedda' ni am dro bach gan fod fy nhad isio i Iwan, oedd yn bedair oed ar y pryd, gael mynd draw at y pier a gweld y bont.
Ar ffordd nôl, parcio'r car ar 'chydig wrth y 'lwcowt' i orffen yr hufen iâ a rhyfeddu, fel bob amser, am harddwch y Fenai. Troi amdani wedyn tua Brynsiencyn, pasio'r tŵr, finna'n deud wrth Iwan "yli tŵr marcwis yna fan'na, drycha mor uchal ydi o" a medda f'ynta' nôl... "mae o mor uchal a Taid tydi Mam"!
Fues i'n lwcus iawn i gydganu, a chydweithio â dau o ddiddanwyr mwya’ Cymru, sef Ryan a Dai Jones.
Profiad anhygoel a diguro oedd canu o flaen cynulleidfaoedd hefo'r ddau. "Hywel a Blodwen" fydda'r "eitem gerddorol ddigri" hefo Ryan, a "Madam will you walk" hefo Dai. Dyna'i chi dasg ynddo'i hun oedd canu'r deuawda' 'ma'n lân a chroyw - a heb chwerthin!
Ma'r llun papur newydd yma o Dai a finna'n dangos yn blaen mor anodd oedd hynny! Gen i gymaint o atgofion bythgofiadwy am y ddau.
Llun sy'n agos iawn at 'y nghalon i.
Dwi'n teimlo'n tu hwnt o freintiedig o fod wedi cael cynulliad preifat â'r Pab John Paul ll yn y Fatican yng nghwmni'r comedïwr Tom O'Connor a'i wraig Patricia, nôl yn yr wythdegau. Cawsom rosari bob un ganddo.
Bellach mae'r Pab John Paul ll wedi'i ganoneiddio yn Sant.
Hefyd o ddiddordeb: