Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ergyd gyfreithiol i ymgyrchwyr ail gartrefi Gwynedd
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, Gohebydd 大象传媒 Cymru
Mae ymgyrchwyr sy'n lob茂o yn erbyn mesurau sy'n ei gwneud hi'n anoddach trosi eiddo i fod yn ail gartref wedi derbyn ergyd i'w gobeithion cyfreithiol.
Gwynedd yw'r awdurdod cyntaf i wneud defnydd o'r rheoliadau sy'n cael eu hadnabod fel Cyfarwyddyd Erthygl 4, gyda'r bwriad o fynd i'r afael 芒'r hyn mae'r cyngor wedi ei ddisgrifio fel "argyfwng tai".
Mae'n golygu bod angen caniat芒d cynllunio i drosi eiddo yn ail gartref.
Ond ar 么l lansio her gyfreithiol yn erbyn y penderfyniad, mae'r gr诺p Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4 wedi cadarnhau nad oes caniat芒d wedi鈥檌 roi gan farnwr i ddwyn adolygiad barnwrol drwy'r uchel lys.
Roedd y barnwr wedi dod i'r casgliad bod yr awdurdod lleol wedi gwneud y penderfyniad yn dilyn "ymchwil cadarn a thrylwyr" ac nad oedd modd dadlau yn erbyn eu rhesymeg.
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiwygio rheolau cynllunio wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd - sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.
Daeth penderfyniad Gwynedd i fanteisio ar y mesurau i reoli defnydd tai fel ail gartrefi i rym ym mis Medi eleni.
Honni ergyd i fusnesau lleol
Wedi codi dros 拢70,000 i gyllido adolygiad barnwrol, dywedodd Pobl Gwynedd Yn Erbyn Erthygl 4 y byddai'r mesurau yn dibrisio pob cartref yn y sir ac yn gwneud tai yn anoddach i'w gwerthu.
Dywedodd aelod o'r gr诺p wrth 大象传媒 Cymru bod yr hawlydd a'u t卯m cyfreithiol "ar hyn o bryd yn penderfynu a oes ganddyn nhw le i apelio", ond byddai'n rhaid ei lansio o fewn saith diwrnod o benderfyniad y barnwr.
Mae'r Cynghorydd John Brynmor Hughes yn cynrychioli ward Abersoch a Llanengan ar yr awdurdod lleol, ac mae'n gwrthwynebu Erthygl 4.
Mae'n dweud bod dirywiad wedi bod i fusnesau lleol ers i'r syniad gael ei grybwyll gan y cyngor.
鈥淒ydi o'm yn helpu busnesau lleol o gwbl. Roeddwn yn siarad 芒 pherchennog tecaw锚 gynna' ac mae busnes ar i lawr," meddai.
"Mae pobl sy'n dod yma yn deud r诺an, 'Wel os dydyn nhw ddim isio ni, pam ddyla ni gefnogi nhw?'
"Mae pob busnes yma'n Abersoch yn gweld fod pethau ar i lawr."
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod prynu tai i鈥檞 defnyddio fel llety gwyliau ac ail gartrefi wedi gwthio prisiau allan o gyrraedd pobl leol ac hefyd yn lleihau nifer yr eiddo sydd ar gael.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod wrth 大象传媒 Cymru: "Rydym yn ymwybodol o benderfyniad yr Uchel Lys i wrthod yr hawl i ymgeisio am adolygiad barnwrol mewn perthynas 芒 Chyfarwyddyd Erthygl 4."
Mae Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn bwriadu cyflwyno Erthygl 4 ym mis Mehefin 2025, fyddai'n weithredol dros yr ardaloedd o siroedd Gwynedd a Chonwy sy'n syrthio o fewn ffiniau'r parc.
'Erthygl 4 yn rhan o鈥檙 datrysiad'
Yn croesawu'r penderfyniad, dywedodd Dr Jeff Smith o Gymdeithas yr Iaith: 鈥淢ae poblogaeth Gwynedd yn wynebu argyfwng tai sy鈥檔 bygwth tanseilio ei chymunedau a鈥檙 Gymraeg wrth i deuluoedd a phobl ifanc gael eu gorfodi i adael oherwydd anfforddiadwyedd tai i鈥檞 prynu neu rentu.
鈥淢ae cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 a dechrau ymyrryd yn y farchnad dai agored yn rhan o鈥檙 datrysiad, felly rydym yn croesawu鈥檙 dyfarniad yma sy鈥檔 cadarnhau ei ddilysrwydd, ac yn ei sgil yn erfyn ar awdurdodau lleol eraill i gyflwyno mesurau tebyg."