大象传媒

Cwmni rhoddion Gething yn gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol

Vaughan Gething
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Mr Gething yn dweud ei fod wedi "cydymffurfio gyda phob rheol"

  • Cyhoeddwyd

Mae hi wedi dod i'r amlwg fod cwmni a roddodd gyfraniad sylweddol at ymgyrch Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru yn destun ymchwiliad troseddol pan roddwyd yr arian.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru dderbyn 拢200,000 ar gyfer ei ymgyrch gan gwmni sy'n cael ei reoli gan y miliwnydd, y dyn busnes David Neal.

Mae ymchwiliad gan raglen 大象传媒 Wales Investigates yn datgelu bod un o gwmn茂au Mr Neal yn wynebu ymchwiliad troseddol pan dderbyniodd Mr Gething yr arian.

Gall 大象传媒 Cymru hefyd ddatgelu bod ffigwr blaenllaw o fewn Llafur Cymru wedi cynnig benthyg arian i Mr Gething fel y gallai roi'r rhodd ddadleuol yn 么l, ond ei fod wedi gwrthod y cynnig.

Mae llefarydd ar ran Llafur Cymru wedi dweud bod Mr Gething wedi "cyfeirio at y mater yn y gorffennol ac mae ar y record gyhoeddus".

Mae Mr Gething wedi mynnu nad yw wedi gwneud unrhyw beth o鈥檌 le, a heb dorri unrhyw reolau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Derbyniodd Vaughan Gething 拢200,000 gan gwmni oedd yn gysylltiedig ag ymchwiliad troseddol ar y pryd

Mewn cyfweliad gyda'r 大象传媒 fore Llun, dywedodd Mr Gething nad oedd yn ymwybodol o'r ymchwiliad troseddol cyn gweld stori 大象传媒 Cymru.

"Pam ar y ddaear fyswn i鈥檔 gwybod am ymchwiliad oedd ar y pryd?", meddai.

"Dwi wedi cydymffurfio gyda phob rheol drwy gydol y broses.

"Does ddim tystiolaeth o gwbl fy mod wedi torri unrhyw reolau yn y cyd-destun yma.

"Rydym wedi gwneud y diwydrwydd dyladwy oedd ei angen yn ystod y gystadleuaeth sawl mis yn 么l, ac rydym nawr yn symud ymlaen gyda鈥檙 dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd Mr Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder聽yn ei arweinyddiaeth yn Senedd Cymru ddydd Mercher

Mae鈥檙 ffrae yng Nghymru yn debygol o dynnu sylw o鈥檙 ymgyrchu cyn yr etholiad cyffredinol i Syr Keir Starmer.

Mae'r arweinydd Llafur wedi cefnogi Mr Gething yn gyhoeddus.

Beth yw'r ymchwiliad troseddol?

Mae鈥檙 ymchwiliad troseddol yn canolbwyntio ar un o gwmn茂au David Neal, Resources Management Limited (RML), sy鈥檔 rhedeg safle tirlenwi yn Sir Benfro.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy鈥檔 cynnal yr ymchwiliad.

Ers mis Hydref 2023 mae pobl sy鈥檔 byw ger safle Withyhedge wedi dweud ei fod yn arogli fel 鈥渂om drewdod ar steroids鈥.

Dywed RML eu bod am "barhau i gyd-weithio ac unrhyw ymchwiliad gan Gyfoeth Naturiol Cymru".

Ond nid dyma鈥檙 tro cyntaf i gwmni rheoli gwastraff sy鈥檔 cael ei reoli gan Mr Neal wynebu ymchwiliad am droseddau amgylcheddol.

Fe鈥檌 cafwyd yn euog ddwywaith am gyflawni troseddau oedd yn gysylltiedig 芒 dau gwmni arall yn 2013 a 2017, ac fe blediodd un o鈥檙 cwmn茂au yn euog ym mis Mawrth eleni i droseddau eraill.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dyw Jenny Clube a'i theulu ddim yn mynd i'w gardd oherwydd yr arogl o safle tirlenwi Withyhedge

Symudodd Jenny Clube yn 么l adref i Crundale gyda鈥檌 phartner a鈥檜 dau o blant am 鈥渨ell ansawdd bywyd鈥, ond mae safle Withyhedge gerllaw wedi amharu ar hynny.

鈥淓s i allan o鈥檙 t欧 er mwyn mynd i鈥檙 gwaith ac fe gefais fy nharo gyda drewdod ofnadwy wyau drwg, a bu鈥檔 rhaid i mi ddal fy ngwynt nes o'n i mewn yn y car,鈥 meddai.

"Yn y car fe ddechreuodd fy ngwefusau tinglo ac fe ges i gur yn fy mhen yn fuan wedyn.鈥

'Gwaeth na chewyn y mab'

Dywedodd bod y teulu wedi rhoi鈥檙 gorau i wneud pethau yn yr ardd oherwydd yr arogl.

鈥淩ydyn ni wedi bod yn cau鈥檙 ffenestri gan nad ydyn ni eisiau deffro gyda鈥檙 t欧 yn drewi o wyau drwg, sy鈥檔 waeth na chewyn y mab," meddai.

Mae RML yn dweud nad ydyn nhw bellach yn derbyn 鈥渘ifer o ffrydiau gwastraff鈥 y maen nhw鈥檔 dweud a gyfrannodd at yr arogl, a'u bod yn bwriadu gwneud gwaith i sicrhau nad yw鈥檔 digwydd eto.

Mae gweithredwyr safle Withyhedge yn dweud mai eu blaenoriaeth yw cael gwared 芒'r arogl sydd yn dod o'r safle.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae David Neal yn filiwnydd a roddodd 拢200,000 i ymgyrch Vaughan Gething i arwain Llafur Cymru

Mae Colin Barnett, cyn-weithiwr cyngor sydd wedi ymddeol, yn byw ger y safle tirlenwi.

Mae wedi trefnu nifer o brotestiadau am yr arogl ac mae wedi bod yn cwyno am y sefyllfa i Gyfoeth Naturiol Cymru ers saith mis.

"Fe wnaethon ni ddechrau ymgyrch Facebook gan fod y dudalen leol ar gyfer pentref Spittal yn cael ei lethu gyda chwestiynau am y tip," meddai.

"Pan wnes i ryddhau fideo dr么n o鈥檙 lle, fe ddechreuon nhw ymchwilio yn fwy, a dim ond ers bod 鈥榥a ragor o bwysau ganddon ni maen nhw wedi gorfod mynd yn 么l yno.鈥

Mae dros 2,000 o bobl yn aelodau o gr诺p 'Stop the Stink' ac mae Mr Barnett yn dweud ei fod bellach yn 鈥測mgyrch enfawr".

"Mae鈥檔 debyg eu bod wedi synnu bod yna gymaint o wrthwynebiad ffyrnig o ardal fach wledig, ond y broblem yw, maen nhw wedi cael effaith ar gymaint o bentrefi."

Ychwanegodd fod Mr Neal wedi sefyll a siarad mewn cyfarfod cyhoeddus a dweud ei fod eisiau bod yn gymydog da.

"Wel, os taw hyn ydi bod yn gymydog da, anghofia fo. Jest cer o 'ma," meddai Mr Barnett.

Pwy oedd yn ymwybodol o'r ymchwiliad?

Llywodraeth Cymru sy鈥檔 goruchwylio Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac mae wedi bod yn briffio gweinidogion am y safle tirlenwi sydd dan reolaeth Mr Neal ers cyn i Mr Gething gael ei benodi鈥檔 brif weinidog ym mis Mawrth.

Cafodd y gweinidog iechyd Eluned Morgan a Julie James, y gweinidog dros newid hinsawdd ar y pryd, gyfarfodydd gyda CNC yngl欧n 芒 Withyhedge ym mis Chwefror.

Ym mis Mawrth, fe ddaeth i鈥檙 amlwg fod Mr Gething wedi siarad 芒 CNC ar ran Mr Neal yn 2016, gan ofyn iddyn nhw lacio cyfyngiadau ar un arall o鈥檌 fusnesau, Atlantic Recycling Ltd.

Daeth ail gyfraniad ariannol Mr Neal i Mr Gething yn Ionawr 2024, ddiwrnod cyn i un arall o gwmn茂au Mr Neal amlinellu cynlluniau am fferm solar ar Wastadeddau Gwent, mewn ardal ble mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Neal: 鈥淢ae pob rhodd wedi dod o gyfrif ar wah芒n i鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu defnyddio er mwyn datblygu鈥檔 busnes; dydyn ni erioed wedi gofyn nac wedi disgwyl am unrhyw beth yn gyfnewid.鈥

Dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru聽Mark Drakeford nad oedd Vaughan Gething wedi torri'r cod gweinidogol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywed Rhun ap Iorwerth y bydd Plaid Cymru yn cefnogi cynnig o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething

Ond mae arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud bod y sefyllfa yn cyfleu'r awgrym bod y cwmni wedi prynu ffafrau gan y prif weinidog.

"Byddai rhywun yn meddwl bod rhywun sy'n talu cymaint 芒 hynny o arian yn gwneud am eu bod nhw eisiau rhywbeth, a hynny sy鈥檔 codi鈥檙 cwestiynau yma," meddai.

"Pam fyddai prif weinidog mor hapus i adael ei hun yn agored i gyhuddiad mor amlwg fod yna rhyw fath o berthynas amhriodol?

"Mae鈥檙 cyfan yn dangos diffyg crebwyll llwyr," meddai.

Cynnig benthyg arian

Mae rhai aelodau Llafur hefyd wedi cwestiynu barn y prif weinidog.

Mae'r 大象传媒 ar ddeall bod ffigwr amlwg o fewn Llafur Cymru wedi cynnig benthyg arian i Mr Gething er mwyn iddo allu talu'r cyfraniad dadleuol yn 么l, ond cafodd y cynnig hwn ei wrthod.

Ond mae ffigyrau amlwg eraill o fewn y blaid wedi cefnogi Mr Gething yn gyhoeddus, gan gynnwys Keir Starmer a llefarydd Llafur ar Gymru, Jo Stevens.

Dywedodd Ms Stevens: "Wnaeth Vaughan ddim torri unrhyw reolau yn yr ymgyrch arweinyddiaeth ac rydyn ni'n edrych ymlaen at fwrw ati gyda'r etholiad cyffredinol.

"Mae 'na ymateb positif wedi bod amdano ar stepen y drws."

Bydd Mr Gething yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth yn Senedd Cymru ddydd Mercher.

Pe bai鈥檔 colli鈥檙 bleidlais, ni fyddai'n orfodol iddo ymddiswyddo, ond byddai鈥檙 canlyniad yn ei roi mewn sefyllfa anodd iawn.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, a ddywedodd y byddai鈥檙 drafodaeth yn rhoi cyfle i bobl ddweud eu dweud am 鈥済rebwyll, trolywder a gonestrwydd鈥 Mr Gething.