Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Jeffrey Gafoor: Rhyddhau llofrudd Lynette White ar bar么l
Bydd un o lofruddion enwocaf Cymru yn cael ei ryddhau ar bar么l.
Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu yn 2003 am lofruddiaeth Lynette White ym 1988.
Daeth Bwrdd Par么l - wnaeth gyfarfod yn gynharach yn y mis - i鈥檙 casgliad ei bod hi'n ddigon saff i ryddhau Gafoor.
Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leiaf 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.
Roedd ei gais am bar么l wedi ei wrthod ar bum achlysur blaenorol.
Mae Gafoor wedi鈥檌 gadw mewn carchar agored ers 2020 a chafodd ryddhad undydd ym mis Ionawr 2023.
Yn wreiddiol fe gafodd tri dyn arall eu carcharu am y drosedd cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau gan y Llys Ap锚l.
Ni fydd Gafoor yn cael ei ryddhau yn syth gan fod cyfnod o 21 diwrnod lle mae modd cyflwyno cais i'r bwrdd ailystyried y penderfyniad, a bydd yn aros dan glo tan fod y cyfnod hwnnw ar ben.
Pe bai cais o'r fath yn cael ei gyflwyno, bydd Gafoor yn parhau yn y ddalfa tan fod penderfyniad yn cael ei wneud yngl欧n 芒'r cais hwnnw.
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd ar Ddydd Sant Ffolant 1988.
Aeth pump o ddynion gerbron llys yn 1990 wedi'u cyhuddo o'i lladd.
Cafodd tri ohonyn nhw - Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller, a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu am oes yn 1990, cyn cael eu rhyddhau ar ap锚l yn 1992.
Yn 2003 fe wnaeth Heddlu De Cymru ddefnyddio technoleg DNA newydd i'w harwain at y llofrudd go iawn.
Cyfaddefodd Gafoor iddo drywanu Ms White mewn ffrae dros 拢30.
Arweiniodd yr ymchwiliad cychwynnol i farwolaeth Ms White at un o鈥檙 achosion llys troseddol hiraf ym Mhrydain erioed.
Wrth siarad cyn cyfarfod y Bwrdd Par么l yn gynharach yn y mis, dywedodd John Actie, un o'r pum dyn a gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddiaeth, y dylai'r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus.
Fe wnaeth ei gyfreithwyr ddadlau i gael gwrandawiad preifat er mwyn atal "effaith negyddol" ar y broses.
Fe wnaethon nhw hefyd ddweud fod cyflwr awtistig Gafoor yn golygu y byddai gwrandawiad cyhoeddus yn achosi gormod o straen iddo.
Fe ddaeth y Bwrdd Par么l i'r casgliad nad oedd gwrandawiad cyhoeddus yn "briodol".