Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Tata yn bygwth atal pecyn diswyddo os oes streic
Bydd Tata Steel yn atal pecyn diswyddo "sylweddol鈥 os yw gweithwyr yn mynd ar streic.
Fe wnaeth y cwmni ysgrifennu at staff ar 么l i aelodau Unite bleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol dros gynlluniau i dorri bron i 3,000 o swyddi.
Dywedodd y prif weithredwr, Rajesh Nair na fyddai'r "pecyn ariannol mwyaf ffafriol" sydd erioed wedi'i gynnig yn cael ei dalu pe bai staff yn streicio.
Dywedodd Unite na fyddai eu haelodau'n cael eu "dychryn" gan Tata.
Roedd yr undeb wedi cynnal pleidlais yng ngwaith dur Port Talbot ac ar safle Tata yn Llanwern ger Casnewydd.
Nid yw Unite wedi cyhoeddi dadansoddiad o'r bleidlais, ond dywedodd Mr Nair wrth staff fod 568 allan o 857 o aelodau'r undeb (66%) wedi pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol.
Roedd 1,366 o aelodau Unite wedi cael eu gwahodd i bleidleisio.
Cyfnod ymgynghori
Ar hyn o bryd mae Tata Steel mewn ymgynghoriad ffurfiol 45 diwrnod gydag undebau Unite, Community a GMB ynghylch y cynlluniau i ailstrwythuro'r cwmni.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys cau'r ffwrneisi chwyth sy'n cynhyrchu haearn tawdd a gosod ffwrnais drydan sy'n toddi dur sgrap.
Dywedodd Mr Nair, prif weithredwr gwaith Tata Steel yn y Deyrnas Unedig, bod y cwmni "wedi cyflwyno pecyn cymorth cynhwysfawr sylweddol ar gyfer gweithwyr fyddai鈥檔 cael eu heffeithio鈥 ac mae dyma鈥檙 鈥減ecyn ariannol mwyaf ffafriol o gymorth y mae ein busnes erioed wedi'i gynnig," ond ei fod yn ddibynnol nad oes unrhyw streic.
Doedd gan Tata Steel ddim sylw pellach i'w ychwanegu pan ofynnodd 大象传媒 Cymru.
Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol Unite Cymru, Peter Hughes: "Mae Tata wedi ceisio popeth, o lwgrwobrwyon i fygythiadau, i annog ein haelodau i beidio 芒 gweithredu鈥檔 ddiwydiannol."