大象传媒

Neil Foden: Galw o'r newydd am ymchwiliad cyhoeddus

Neil Foden
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Neil Foden ddedfryd o 17 mlynedd o garchar wedi i lys ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfreithiwr sy'n cynrychioli 20 o bobl sydd yn honni i'r cyn-brifathro Neil Foden ymosod arnyn nhw'n gorfforol, rhywiol neu'n emosiynol mewn dwy ysgol rhwng 1979 a 2023, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus.

Dywed Katherine Yates o gwmni Andrew Gove & Co bod ei hymchwiliadau wedi darganfod problem fwlio sylweddol yn Ysgol Friars ym Mangor, allai fod wedi effeithio ar allu staff i ofalu am blant yn eu gofal.

Mae hi'n honni hefyd i Foden geisio bwlio llywodraethwyr ysgol, ac mai ychydig iawn o gefnogaeth gafon nhw gan awdurdod addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd.

Mae Cyngor Gwynedd yn dweud "na fyddai'n briodol gwneud sylw ar unrhyw faterion cyfreithiol posib", gan "annog unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd 芒 gwybodaeth berthnasol i'w chyflwyno yn uniongyrchol i'r cyngor, neu os yn berthnasol, i鈥檙 heddlu".

Ym mis Gorffennaf, fe gafodd Neil Foden, 66, ei garcharu am 17 mlynedd am gam-drin pedair o ferched yn eu harddegau yn rhywiol.

Fe ddechreuodd ei yrfa fel athro yn Ysgol Dyffryn Ogwen yn 1979, ac fe gafodd ei benodi yn bennaeth ar Ysgol Friars yn 1997.

Dywed Llywodraeth Cymru: "Bydd Adolygiad Ymarfer Plant cynhwysfawr yn cael ei gynnal i鈥檙 achos.

"Bydd y canfyddiadau'n llywio unrhyw benderfyniadau ar gamau ehangach sydd angen eu cymryd, gan gynnwys a oes angen ymchwiliad cyhoeddus llawn."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae yna amheuon fod troseddu Neil Foden - yma yn y 90au - wedi dechrau flynyddoedd maith cyn yr ymddygiad a oedd yn sail i'r achos llys yn ei erbyn

Fe wnaeth Cabinet Cyngor Gwynedd gwrdd am y tro cyntaf ddydd Mawrth ers i bedwar aelod ymddiswyddo gan gyfeirio at "wahaniaeth sylfaenol rhwng y pedwar a鈥檙 arweinyddiaeth".

Mewn datganiad ar y cyd, fe ddywedodd y Cynghorwyr Beca Brown, Elin Walker Jones, Dafydd Meurig a Berwyn Parry Jones eu bod yn "ymbellhau eu hunain oddi wrth y sylwadau gafodd eu gwneud gan [arweinydd Cyngor Gwynedd] Dyfrig Siencyn ar raglen Newyddion S4C".

Yn y cyfweliad hwnnw fe wrthododd Mr Siencyn ag ymddiheuro i ddioddefwyr Foden, er iddo dderbyn fod gwersi i'w dysgu.

Ddiwrnod yn ddiweddarach, fe ymddiheurodd Mr Siencyn yn ddiffuant i'r dioddefwyr gan ymuno 芒'r galwadau am ymchwiliad cyhoeddus.

Fe ddywedodd hefyd y byddai yn ystyried ei sefyllfa dros y penwythnos.

Doedd dim arwydd o benderfyniad pendant o ran hynny ddydd Mawrth wrth i Mr Siencyn gadeirio鈥檙 cyfarfod.

Mae Newyddion S4C ar ddeall bod aelodau etholedig gr诺p Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn cwrdd nos Fercher i drafod y sefyllfa.

Mae cwestiynau o hyd am ddyfodol Mr Siencyn fel arweinydd, gyda chyfarfod nos Fercher yn debyg o roi arwydd o'r ffordd ymlaen.

Pynciau cysylltiedig