Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ymgeisydd yn colli cefnogaeth Plaid Cymru ar 么l sylwadau ar-lein
Mae Plaid Cymru yn dweud na fyddan nhw'n cefnogi eu hymgeisydd yn etholaeth de Caerdydd a Phenarth yn sgil sylwadau gafodd eu gwneud ar-lein.
Mewn datganiad, dywedodd y blaid bod Sharifah Rahman wedi gwneud sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn trafod y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol "sydd ddim yn cyd-fynd 芒 safbwynt na gwerthoedd Plaid Cymru".
Gan fod hyn wedi digwydd mor agos at ddiwedd yr enwebiadau, mae'n golygu y bydd ei henw yn aros ar y papur pleidleisio fel ymgeisydd swyddogol ar ran Plaid Cymru, ond fydd y blaid ddim yn ei chefnogi.
Dywedodd llefarydd: "Mae Plaid Cymru yn gyson wedi condemnio gweithredoedd terfysgwyr Hamas ar 7 Hydref yn ogystal 芒'r cyrchoedd awyr ofnadwy gan Lywodraeth Israel.
"Ry'n ni'n atgyfnerthu ein galwadau am gadoediad ar unwaith.
"Fe fydd Plaid Cymru yn parhau i ymgyrchu am heddwch a datrysiad dwy wladwriaeth - gan gynnwys cydnabod tiriogaeth Balesteinaidd, a dyfodol heddychlon i Balesteiniaid ac Israeliaid.
"Ry'n ni'n condemnio unrhyw ragfarn a hiliaeth, gan gynnwys gwrth-semitiaeth ac Islamoffobia."
Mae 大象传媒 Cymru wedi methu 芒 chysylltu gyda Ms Rahman i ofyn am sylw.
Rhestr o'r ymgeiswyr eraill yn etholaeth De Caerdydd a Phenarth:
- Stephen Doughty, Llafur
- Simon Llewellyn, Reform UK
- Anthony Slaughter, Y Blaid Werdd
- Ellis Smith, Y Ceidwadwyr
- Alex Wilson, Democratiaid Rhyddfrydol