Sgandal gwaed: Galw am 'ganllawiau clir' am iawndal

Disgrifiad o'r llun, Fe wnaeth David Thomas ddarganfod fod ganddo hepatitis C yn 1993
  • Awdur, Ben Price
  • Swydd, 大象传媒 Cymru

Mae un o'r 400 o bobl o Gymru sy鈥檔 ymwybodol eu bod wedi derbyn gwaed heintiedig, eisiau gweld canllawiau clir ar sut y bydd iawndal yn cael ei dalu i ddioddefwyr a'u teuluoedd.

Fe wnaeth David Thomas, sydd 芒 hemoffilia, ddarganfod iddo gael ei heintio 芒 hepatitis c yn 10 oed, 13 mlynedd yn ddiweddarach.

Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad cyhoeddus i鈥檙 sgandal gwaed heintiedig, Syr Brian Langstaff, y dylai dioddefwyr dderbyn 鈥渋awndal priodol鈥.

Mae disgwyl rhagor o fanylion ddydd Mawrth ar addewid Llywodraeth y DU i dalu 鈥渋awndal cynhwysfawr鈥 i鈥檙 rhai sydd wedi鈥檜 heintio a鈥檜 teuluoedd.

'Croes i enaid yr adroddiad'

Fe wnaeth Mr Thomas ddarganfod fod ganddo hepatitis C yn 1993, dros ddegawd ar 么l iddo dderbyn gwaed heintiedig fel plentyn.

Mae bellach yn glir o鈥檙 afiechyd hynny, ond yn 2009 fe dderbyniodd y newyddion fod ganddo glefyd yr afu.

Dywedodd Mr Thomas wrth 大象传媒 Cymru yn 2017 bod hanes o hemoffilia o fewn ei deulu a bod ei gefnder, Lee, hefyd wedi鈥檌 heintio 芒 hepatitis C yn blentyn.

Bu farw Lee o fethiant yr afu yn y pendraw.

Dywedodd Mr Thomas ei fod "am weld canllawiau clir ar sut y bydd iawndal yn cael ei rhannu ac a fydd yna brawf i benderfynu pwy sy鈥檔 derbyn iawndal".

Aeth ymlaen i ddweud mai'r "teimlad yw bod y llywodraeth am sefydlu bwrdd i fonitro鈥檙 iawndal ac mae鈥檔 mynd i fod yn anodd ceisio apelio yn erbyn unrhyw benderfyniadau鈥檙 bwrdd".

"Mi allai hynny fod yn groes i enaid adroddiad Syr Brian [Langstaff]."

Disgrifiad o'r llun, Fe deithiodd teuluoedd a ffrindiau pobl fu farw i Lundain ddydd Llun ar ddiwrnod cyhoeddi'r adroddiad

Yn 2022, fe wnaeth adroddiad annibynnol gan Syr Robert Francis argymell y dylai iawndal gael ei dalu i ddioddefwyr, beth bynnag fo canfyddiadau鈥檙 ymchwiliad cyhoeddus.

Dywedodd Llywodraeth y DU ar y pryd eu bod yn derbyn yr achos foesol dros iawndal, gan roi 拢100,000 i 4,000 o bobl a gafodd eu heintio.

Yn Nh欧鈥檙 Cyffredin ddydd Llun dywedodd Prif Weinidog y DU Rishi Sunak: 鈥淏yddwn yn talu iawndal cynhwysfawr i鈥檙 rhai sydd wedi鈥檜 heintio a鈥檜 teuluoedd oherwydd y sgandal yma, gan dderbyn yr egwyddorion a gafodd eu hargymell gan yr ymchwiliad sy鈥檔 adeiladu ar waith Syr Robert Francis.

鈥淏eth bynnag yw鈥檙 gost i gyflawni hyn, fe fyddwn yn ei dalu.鈥

Disgrifiad o'r llun, Bu farw mab Tony Summers yn 44 oed ar 么l iddo gael HIV wedi iddo dderbyn gwaed heintiedig yn ei arddegau

Dywedodd Tony Summers, a gollodd ei fab yn 2008, ei fod eisiau gweld unrhyw iawndal yn mynd at weddw a merch ei fab.

Bu farw Paul Summers yn 44 oed ar 么l iddo gael HIV wedi iddo dderbyn gwaed heintiedig yn ei arddegau.

鈥淐yn belled ag y mae rhieni, brodyr a chwiorydd yn y cwestiwn, do鈥檔 i ddim yn ymwybodol bod iawndal wedi cael ei ystyried,鈥 meddai Mr Summers.

"Fy mhrif bryder oedd darganfod pwy oedd ar fai, pwy achosodd y problemau a sicrhau nad yw unrhywbeth tebyg yn digwydd eto."

Dywedodd yr aelod cabinet dros iechyd, Eluned Morgan, y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio 芒 Llywodraeth y DU i sicrhau bod pobl o Gymru a鈥檜 teuluoedd yn cael eu had-dalu yn unol ag adroddiad interim yr ymchwiliad.