大象传媒

Rheolwr heddlu yn y gwaith er cwyn camymddwyn rhyw

Heddlu GwentFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Cafodd uwch reolwr heddlu oedd wedi ei gyhuddo o anfon nifer o negeseuon rhywiol awgrymog at gydweithiwr benywaidd aros yn ei swydd am naw mis.

Dim ond ym mis Mai 2023 y cafodd ei wahardd, pan gwynodd cydweithiwr arall amdano.

Daeth yr achwynydd cyntaf ymlaen wedi iddi gael ei 鈥渟yfrdanu鈥 bod y rheolwr yn arwain sesiwn ymarfer ar ymddygiad staff yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard.

Dywedodd Heddlu Gwent nad oedden nhw鈥檔 gallu gwneud sylw 鈥渨rth i ni symud tuag at wrandawiad disgyblu鈥.

Mae 大象传媒 Cymru yn deall bod trydydd person hefyd wedi cwyno a bod y rheolwr, sydd yn weithiwr sifil yn hytrach na swyddog heddlu, nawr yn wynebu gwrandawiad am gamymddwyn difrifol.

'Safonau dwbl'

Mae cyn-gyfarwyddwr i gorff arolygu鈥檙 heddlu, yr IOPC 鈥 a weithiodd ar rai o achosion camymddwyn mwyaf Heddlu鈥檙 Met yn ddiweddar 鈥 wedi cwestiynu鈥檙 ffordd y deliodd yr heddlu gyda鈥檙 g诺yn gyntaf.

Mae Heddlu Gwent wedi dod dan y chwyddwydr yn ddiweddar yn dilyn cwynion am ymddygiad swyddogion, ac ym mis Mawrth 2024 fe gyhoeddodd yr IOPC y byddai dau swyddog presennol ac un cyn-swyddog yn wynebu gwrandawiadau am gamymddwyn difrifol.

Roedd y rheolwr dan sylw yn rhan o鈥檙 broses o recriwtio鈥檙 ddynes, ac mewn swydd uwch na hi, ond ddim yn rheolwr llinell uniongyrchol iddi.

Yr honiad yw ei fod wedi anfon negeseuon o natur rywiol iddi dros gyfnod o fisoedd wedi ei phenodiad yn 2010.

Yn y negeseuon, sydd wedi eu gweld gan y 大象传媒, mae鈥檔 gwneud sylwadau am ei chorff 鈥渞hywiol鈥 ac yn gofyn am gael rhyw, er i鈥檙 ddynes ddweud wrtho ei bod mewn perthynas a gofyn iddo stopio.

Mae鈥檔 debyg bod y ddynes wedi cyflwyno ei ch诺yn wedi i鈥檙 rheolwr arwain cyflwyniad oedd yn trafod negeseuon amhriodol yn y gweithle.

Daeth hynny yn sgil llofruddiaeth Sarah Everard gan Wayne Couzens, oedd yn swyddog heddlu i鈥檙 Met ar y pryd.

Roedd yn un o nifer o seminarau a gynhaliwyd gan y llu oedd, fel eraill, yn ceisio delio gyda鈥檙 ffaith bod y llofruddiaeth wedi lleihau ymddiriedaeth yn yr heddlu.

Mewn llythyr i鈥檙 Prif Gwnstabl Pam Kelly, disgrifiodd y ddynes ei 鈥渟ioc a braw鈥 fod y rheolwr yn arwain y sgwrs, ac fe gafodd hi bwl o orbryder oherwydd hynny.

鈥淩oeddwn i mor ofidus nes i mi siarad allan a dweud bod y sgwrs yn 鈥榙rewi o safonau dwbl鈥,鈥 ysgrifennodd.

Rhagor o gwynion

Ym mis Awst 2022 fe benderfynodd y ddynes wneud cwyn yn erbyn y rheolwr.

Mae 大象传媒 Cymru yn deall ei bod hi wedi cael gwybod bod y g诺yn wedi ei hasesu鈥檔 wreiddiol fel un o gamymddwyn difrifol, ond na chafodd y rheolwr ei wahardd ar y pryd.

Pedwar mis yn ddiweddarach, ar 么l ymchwiliad, cafodd ei hasesu鈥檔 ffurfiol fel camymddwyn 鈥 categori llai difrifol.

Mae鈥檔 debyg fod yr achwynydd wedi mynegi ei phryderon am yr asesiad hwnnw i鈥檙 ymchwilwyr, gan awgrymu nad oedd y peth yn cael ei drin yn ddigon difrifol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae achosion disgyblu yn erbyn staff sifil - fel y rheolwr dan sylw - yn cael eu trin yn wahanol i'r rheiny yn erbyn swyddogion heddlu

Mae polisi Heddlu Gwent eu hunain ar gyfer staff heddlu, gafodd ei ddiweddaru yn 2017, yn rhestru camymddwyn rhywiol yn y gwaith fel esiampl o gamymddwyn difrifol, sy鈥檔 gallu arwain at ddiswyddiad os yw鈥檔 cael ei brofi.

Ym mis Chwefror 2023, fe ysgrifennodd Ms Kelly at yr achwynydd i ddweud bod yr ymchwiliad bron ar ben a bod bron pob ymholiad 鈥渨edi ei gwblhau鈥.

Ond ym mis Mai 2023, fe wnaeth ail gydweithiwr benywaidd wneud honiadau o gamymddwyn rhywiol, wnaeth arwain at ailasesu鈥檙 gwyn wreiddiol fel camymddwyn difrifol, ac fe gafodd y rheolwr ei wahardd ar d芒l llawn.

Mae 大象传媒 Cymru nawr wedi cael gwybod am drydydd cyhuddiad o gamymddwyn rhywiol a gafodd ei wneud yn erbyn y rheolwr yn nes ymlaen yn 2023.

'Angen tryloywder'

Dangoswyd rhai o鈥檙 negeseuon i Sal Naseem, wnaeth arwain achosion camymddwyn yn erbyn pobl fel Couzens yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Llundain yr IOPC.

Mae鈥檔 credu y dylai asesiad y gwyn fod wedi bod yn gamymddwyn difrifol o鈥檙 cychwyn.

鈥淧an 鈥榙ych chi鈥檔 edrych ar y patrwm ymddygiad, gwaethygiad yr ymddygiad, mae鈥檔 ddyn sy鈥檔 aflonyddu dynes,鈥 meddai Mr Naseem.

鈥淥s yw dros negeseuon tecst, neu Whatsapp, mae dal yn batrwm o ymddygiad yn gwaethygu, o aflonyddu rhyw.鈥

Dywedodd Mr Naseem y byddai unrhyw un sy鈥檔 wynebu cyhuddiad o gamymddwyn difrifol fel arfer yn cael eu gwahardd tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal 鈥 er bod gan luoedd unigol ddisgresiwn pan mae鈥檔 dod i hynny.

Ffynhonnell y llun, Sal Naseem
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Sal Naseem, cyn-gyfarwyddwr gyda'r IOPC, yn credu y dylai fod wedi bod yn achos o gamymddwyn difrifol o'r dechrau

O ystyried cyd-destun y negeseuon oedd yn ei farn ef yn gamymddwyn difrifol, ychwanegodd nad oedd hi鈥檔 gwneud synnwyr bod y rheolwr heb gael ei wahardd yn syth.

Bellach, 19 mis ers y gwyn wreiddiol, mae 大象传媒 Cymru yn deall nad oes unrhyw wrandawiad camymddwyn wedi digwydd eto a bod y rheolwr dal wedi鈥檌 wahardd ar gyflog llawn.

Mae Mr Naseem wedi cwestiynu pa mor hir mae鈥檙 broses wedi ei gymryd i鈥檙 achwynydd cyntaf, a phwysleisio pwysigrwydd diweddaru achwynwyr a dioddefwyr ar beth sydd yn digwydd.

鈥淔el dwi鈥檔 deall, dydy鈥檙 llu heb roi鈥檙 lefel yna o dryloywder nac unrhyw ddiweddariad. Felly mae鈥檔 anodd dweud pam bod pethau wedi cymryd cyhyd,鈥 meddai.

鈥淢ae鈥檔 rhaid cofio bod dioddefwr wrth galon hyn hefyd, ac mae鈥檔 rhaid iddyn nhw allu ymddiried yn y broses.鈥

Dim ymchwiliad IOPC

Os yw swyddogion heddlu yn cael eu gwahardd mae eu henwau鈥檔 cael eu hychwanegu at Restr Gwaharddedig yr Heddlu, sy鈥檔 eu gwahardd rhag gweithio i luoedd heddlu eraill.

Ond dydy enwau staff heddlu sy鈥檔 wynebu cwynion gan gydweithwyr ddim yn cael eu hychwanegu i鈥檙 rhestr waharddedig os ydyn nhw鈥檔 cael eu diswyddo, gan mai cyfraith cyflogadwyedd sy鈥檔 delio 芒鈥檙 cwynion hynny.

Dywedodd Mr Naseem fod angen i Heddlu Gwent fod yn hollol dryloyw, o ystyried pryderon diweddar am y diwylliant o fewn y llu.

鈥淢ae cyfrifoldeb ar uwch arweinwyr y llu i gael gafael cryf ar hynny, a dangos beth maen nhw鈥檔 ei wneud yn hynny o beth,鈥 meddai.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd y Prif Gwnstabl Gwent Pam Kelly, sy'n ymddeol eleni, bod ei chyfnod wrth y llyw wedi bod yn un "heriol"

Fe wnaeth Heddlu Gwent gadarnhau bod aelod o staff yr heddlu鈥檔 wynebu ymchwiliad gan eu hadran safonau proffesiynol, ond na allen nhw 鈥渨neud sylw pellach ar yr adeg hon wrth i ni symud tuag at wrandawiad disgyblu鈥.

Mae 大象传媒 Cymru wedi gwneud sawl ymgais i gysylltu gyda鈥檙 rheolwr dan sylw, ond nid yw wedi ymateb hyd yma.

Dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu fod y mater wedi dod i鈥檞 sylw nhw y llynedd, ond ar 么l ystyried, eu bod wedi penderfynu nad oedd angen ymchwiliad annibynnol 鈥渁c fe gafodd y mater ei basio yn 么l i Heddlu Gwent鈥.

'Wedi gwneud ein disgwyliadau鈥檔 glir'

Mewn datganiad pellach ddydd Iau dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Rachel Williams: 鈥淩ydym wedi gwneud ein disgwyliadau鈥檔 glir i swyddogion a staff na fyddwn yn goddef ymddygiad gwael.

鈥淩ydym wedi gwneud cryn dipyn o waith i sicrhau bod cydweithwyr yn deall ac yn teimlo y gallant adrodd am unrhyw bryderon, ymddygiad heriol a chael cymorth."

Ychwanegwyd fod "tystion wedi cael eu diweddaru鈥檔 rheolaidd drwy gydol y broses i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi鈥檔 llawn".

Pynciau cysylltiedig