Storm Lilian yn achosi trafferthion i deithwyr

Disgrifiad o'r llun, Penderfynodd nifer o wersyllwyr adael traeth Mochras yn gynnar cyn i Storm Liliam daro'r gogledd

Mae yna gyngor i yrwyr bwyllo wrth deithio ddydd Gwener oherwydd gwyntoedd cryfion Storm Lilian.

Mae sawl coeden wedi cwympo ar draws Cymru gan gau ffyrdd ac amharu ar deithiau tr锚n.

Rhannau o'r gogledd sydd wedi gweld yr amodau gwaethaf, ac roedd rhybudd melyn am wyntoedd cryf mewn grym yno rhwng 5:00 a 11:00 fore Gwener.

Yn 么l rheolwyr un wersyllfa amlwg yng Ngwynedd fe benderfynodd llawer o ymwelwyr adael y safle cyn i'r storm daro.

Dywedodd llefarydd ar ran gwersyllfa Mochras (Shell Island) yn Llanbedr nos Iau fod tua 70% o'r gwersyllwyr wedi gadael yn gynnar oherwydd y rhagolygon tywydd.

Yn 么l Gwylwyr y Glannau Caergybi, fe gafodd rhybudd hyrddwynt gradd 9 ei gyhoeddi yn yr oriau m芒n, cyn gostwng i radd 8.

Coed ar ffyrdd

Cafodd gwyntoedd o 72 mya eu cofnodi yng Nghapel Curig yn Eryri am 4:00 fore Gwener ac fe gododd y gwyntoedd yn Aberdaron i 69 mya.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn "sawl adroddiad o goed wedi cwympo a changhennau ar ffyrdd" oherwydd gwyntoedd cryfion.

"Rydym yn eich cynghori i gymryd pwyll ychwanegol gyda'ch siwrne heddiw," meddai'r llu.

"Rydym wedi rhoi gwybod i adrannau priffyrdd a byddan nhw'n ymateb cyn gynted ag y gallen nhw."

Mae coed wedi syrthio gan gau'r A494 yn rhannol rhwng Rhydymain a'r ffordd i'r Bala o Ddolgellau, a'r A487 i'r ddau gyfeiriad rhwng y Cross Foxes ger Dolgellau a'r ffordd i Dywyn ym Minffordd.

Syrthiodd goeden hefyd ar yr A458 ym Mallwyd, rhwng y cylchdro a Chwm Cewydd, ond mae'n bosib mynd heibio gyda phwyll.

Trafferthion ar y trenau

Dywed Trafnidiaeth Cymru fod coeden wedi syrthio ar y lein ym Mhengam, yn Sir Caerffili gan amharu ar deithiau tua'r gogledd dros dro rhwng Caerffili a Rhymni.

Roedd yna drafferthion tebyg yng Ngheredigion yn gynharach ond roedd gwasanaethau rhwng Aberystwyth a Machynlleth wedi dychwelyd i'r drefn arferol erbyn yr oriau brig.

Ond fe allai teithwyr eraill yn y canolbarth wynebu trafferthion oherwydd coeden ar y lein rhwng Yr Amwythig a Wolverhampton.

Bu'n rhaid cau'r M48 Pont Hafren i'r ddau gyfeiriad, gan orfodi gyrwyr i ddefnyddio Pont Tywysog Cymru yn hytrach.

Mae Pont Cleddau yn Sir Benfro a Phont Britannia rhwng Ynys M么n a'r tir mawr ar gau i gerbydau uchel, ond mae Pont Britiannia hefyd wedi cau i feiciau modur, beiciau a charafanau.

Am 11:00 ddydd Gwener roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud wrth bobl "i fod yn barod am lifogydd" posib mewn chwe ardal orllewinol.