Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn wedi'i bigo 160 o weithiau gan wenyn meirch yn ei d欧
Cafodd dyn ei bigo 160 o weithiau gan wenyn meirch ar 么l i鈥檙 pryfed ymosod ar ei gartref.
Dywedodd Andrew Powell, 57, nad yw wedi gallu cysgu oherwydd y boen ers yr ymosodiad ddydd Sul, a bu angen triniaeth ysbyty.
Dywedodd y trefnwr gwyliau o Aberhonddu fod yr awyr wedi "troi'n frown" gyda gwenyn meirch ar 么l i ffermwr lleol darfu ar nyth mewn cae.
"Mi wnes i faglu o gwmpas blaen y t欧 ac i mewn i'r gawod, ond fe wnaethon nhw fy nilyn i, a'm pigo trwy fy nillad yn y gawod," meddai.
"Roedd yr ystafell ymolchi yn llawn ohonyn nhw."
Dywedodd iddo gael ei bigo 15 o weithiau ar gefn ei ben, ond fe lwyddodd i osgoi cael ei bigo ar ei wyneb.
"Roeddwn i'n rhedeg yn gyflym," meddai.
Dywedodd fod ei ffrind Richard, sy'n byw gerllaw, wedi ei yrru'n syth i uned m芒n anafiadau Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu.
"Roeddwn i'n ymwybodol a wedyn yn anymwybodol," meddai.
"Y cyfan roeddwn i'n gallu ei weld oedd golau gwyn ac ro'n i'n meddwl 'here we go'."
Dywedodd fod nyrsys yn "anhygoel" ac yn rhoi adrenalin, morffin a co-codamol ar gyfer y boen.
"Os na fydden nhw wedi, mi fydden i wedi marw," meddai.
Ar 么l ei driniaeth yn Aberhonddu cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yn ddiweddarach nos Sul.
"O'r diwedd daeth y meddyg yno i'm gweld tua 02:30 yn y bore a dweud wrthyf ei fod yn credu fy mod wedi dioddef cwpl o bigiadau," meddai.
"Cafodd y meddyg sioc pan welodd 160 pigiad."
Erbyn hyn mae Mr Powell, sy'n helpu trefnu G诺yl Fwyd Bannau Brycheiniog, yn gwella gartref ar gyrion Aberhonddu.
"Rwy'n teimlo'n eithaf gwan a blinedig oherwydd dydw i ddim wedi cysgu ers iddo ddigwydd oherwydd mae 'na ormod o boen," meddai.
鈥淢ae'r pigiadau wedi gwaethygu ac wedi troi'n biws."
Ar 么l diolch i staff, dywedodd Mr Powell ei fod yn bryderus am gynlluniau i gwtogi oriau gweithredu uned m芒n anafiadau Aberhonddu.
"Mae ar agor 24 awr nawr, ond mae'n gallu bod mor brysur, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf gyda'r holl bobl sy'n ymweld 芒 Bannau Brycheiniog.
"Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd ei angen arnoch chi.
"Oni bai am yr uned honno yn Aberhonddu a'r ddwy nyrs wych yna nos Sul, fyddwn i ddim yma nawr... rydw i'n mynd i ymladd drosto."
Beth ddylech ei wneud os yw gwenyn meirch yn eich pigo?
Mae gwenyn meirch ond yn pigo fel arfer os ydyn nhw鈥檔 teimlo dan fygythiad, medd Natalie Bungay, swyddog technegol Cymdeithas Rheoli Pl芒u Prydain (BPCA).
"Y broblem yw bod gwenyn meirch mewn trallod yn allyrru fferomon sy'n anfon gwenyn nythfa gyfagos i wylltineb amddiffynnol, pigog," meddai.
Yn wahanol i wenyn, nid yw gwenyn meirch yn marw ar 么l un pigiad ac mae'n nhw'n debygol o'ch pigo sawl tro.
Cyngor y GIG yw peidio 芒 chwifio eich breichiau na swatio gwenyn meirch ond aros yn ddigynnwrf a symud i ffwrdd yn araf.
Os cewch eich pigo dylech dynnu unrhyw bigiadau sydd ar 么l yn y croen a golchi'r ardal 芒 sebon a d诺r.
Mae meddygon yn argymell rhoi rhew neu wlanen oer ar y croen am 10 munud a chodi'r rhan o'r corff i leihau chwyddo.