Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Y nifer sy'n derbyn 拢40 at gostau coleg wedi haneru mewn degawd
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 大象传媒 Cymru
Mae nifer y myfyrwyr o deuluoedd incwm isel sy'n derbyn help ariannol gyda chostau coleg wedi haneru yn y 10 mlynedd ddiwethaf.
Mae llai yn gymwys yn bennaf oherwydd dydy'r trothwy heb newid ers 2011/12 ac mae yna alwadau i'w gynyddu i adlewyrchu chwyddiant a chyflogau uwch.
Gall myfyrwyr 16 i 18 oed, sy'n astudio mewn colegau addysg bellach neu chweched dosbarth ysgolion, hawlio 拢40 yr wythnos os yw incwm y teulu yn is na lefel penodol - tua 拢21,000.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried argymhellion adolygiad o'r lwfans.
'Mam ddim yn gallu fforddio fo'
Mae Izzy, 17, o Bwllheli yn dilyn cwrs Celf a Dylunio yng Ngholeg Menai, Bangor.
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) yn helpu talu am ddeunyddiau yn ogystal 芒 chostau eraill mynd i'r coleg.
"Dwi鈥檔 gorfod talu am supplies art... fel paent a canvases," meddai.
"Mae鈥檔 helpu fi gyda鈥檙 trips. Blwyddyn dwytha roedd 'na trip i fynd i Leeds am 拢300. Byswn i ddim yn gallu talu amdano fo heb yr EMA."
Mae gan Izzy bas bws ond os nad oes ganddi wersi ac mae hi angen gadael yn ystod y dydd mae'n costio 拢7 i fynd adre i Bwllheli.
"Dwi鈥檔 gorfod talu am ginio, mae'n expensive, a dwi鈥檔 gorfod talu am ddiodydd o鈥檙 vending machine ac maen nhw鈥檔 expensive hefyd.
"Dwi鈥檔 gorfod talu am hygiene products fy hun - dydy Mam ddim yn gallu fforddio fo.
"Dwi鈥檔 gw'bod am rywun sy'n gorfod talu am sgidia鈥檌 hun achos 'di teulu nhw ddim yn g'neud digon i dalu am 'sgidia," meddai.
Beth yw'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg?
Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg - neu EMA - yn daliad sy'n cael ei wneud bob pythefnos i fyfyrwyr cymwys 16-18 oed sy'n aros mewn addysg.
I gael y taliadau, rhaid i incwm blynyddol yr aelwyd fod yn 拢20,817 neu lai os mai鈥檙 ymgeisydd yw鈥檙 unig ddibynnydd, neu 拢23,077 neu lai os oes dibynyddion eraill.
Dydy'r trothwy heb newid ers 2011/12.
Yn 么l adroddiad i Lywodraeth Cymru, mae nifer y myfyrwyr sy'n derbyn y lwfans wedi mwy na haneru o 36,000 ym mlwyddyn academaidd 2010/11 i 16,000 yn 2023/24.
Yn Ebrill 2023, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynyddu'r taliadau o 拢30 i 拢40 yr wythnos.
Mae'n gallu cael ei hawlio gan fyfyrwyr sy'n astudio mewn chweched dosbarth ysgolion neu mewn colegau addysg bellach - ond roedd 76% o geisiadau gafodd eu cymeradwyo yn 2023/24 mewn colegau.
Roedd y lwfans yn wreiddiol yn un ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ond cafodd ei ddileu yn Lloegr yn 2011. Mae dal yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae Lana-Marie, sy'n 16 ac o Lanrug, yn gorfod gwario ar ddillad ar gyfer ei chwrs celfyddydau perfformio yng Ngholeg Menai.
"Dwi鈥檔 cael clothing i ddawnsio a costumes, a jazz shoes i allu dawnsio.
"Amser cinio dwi鈥檔 mynd i vending machines i gael paced o greision neu dd诺r.
"Mae'n ceisio cynilo rhywfaint o'r lwfans hefyd.
"Dwi yn limitio fy hun hefo 拢10 ac mae鈥檙 rest yn mynd i fy savings i gael car neu ff么n newydd neu helpu Mam, petha' fel 鈥檔a.
"Mae鈥檔 helpu loads i fi a Mam," meddai.
Dywedodd adolygiad o'r Lwfans Cynhaliadaeth Addysg gafodd ei gyhoeddi yn gynharach eleni bod yna "gonsensws cyffredinol" ymhlith y cyfranwyr bod y trothwy incwm "bellach yn rhy isel" gan nad yw wedi cynyddu yn unol 芒 chwyddiant a chodiadau incwm.
Yn 么l Aled Jones-Griffith, prif weithredwr Grwp Llandrillo Menai, roedd y cynnydd i'r taliadau llynedd i'w groesawu ond rhaid ystyried y trothwy.
"Er fod 'na fwy o bres i鈥檙 unigolion, mae 'na lai yn gallu cymeryd mantais ohono fo, a dwi鈥檔 meddwl fod hwnnw wir angen ei edrych arno fo," meddai.
Mae'n poeni gallai costau effeithio ar brofiadau pobl ifanc.
"Rwy鈥檔 pryderu鈥檔 fawr na fydd pobl ifanc yn gallu cael mynediad at yr ystod o brofiadau ac yr ystod o gynigion sy' 'na," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ystyried casgliadau'r adolygiad "gan gynnwys yr argymhelliad bod y trothwy incwm aelwyd yn cynyddu ychydig".
Ychwanegodd bod y lwfans wedi cael ei amddiffyn yng Nghymru, yn wahanol i Loegr ble cafodd ei ddiddymu.