Dyn 18 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio tad i saith

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu

Disgrifiad o'r llun, Roedd Colin Richards yn 48 oed ac yn dod o ardal Grangetown

Mae dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Colin Richards yn ardal Trel谩i, Caerdydd.

Fe gafodd Mr Richards, 48, ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Snowdon yn dilyn adroddiad o ddigwyddiad ar Heol-Y-Berllan a Heol Trel谩i, Caerau, am tua 23:30, ar 7 Ebrill.

Fe gadarnhaodd yr heddlu bod Mr Richards wedi cael ei drywanu, ac er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw'r tad i saith o'i anafiadau.

Fe wnaeth Corey Gauci, 18 o Drel谩i, ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd fore Mawrth.

Mewn gwrandawiad byr, fe gadarnhaodd ei enw a'i fanylion, cyn codi llaw ar bobl yr oedd yn eu hadnabod wrth adael y doc.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos eto ddydd Mercher.

Mae dyn arall 26 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael ei ryddhau ar fechn茂aeth, ond bydd yn dychwelyd i'r carchar am dorri amodau ei drwydded.