Amseroedd aros y GIG 'ddim yn dderbyniol o gwbl'

Mae amseroedd aros diweddaraf y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn "annerbyniol", yn 么l yr ysgrifennydd iechyd.

Mae'r ffigyrau diweddaraf - a gafodd eu cyhoeddi ddydd Iau - yn dangos fod maint rhestrau aros am driniaethau sydd wedi cael eu trefnu o flaen llaw wedi codi i dros 800,000 am y tro cyntaf.

Dyma'r seithfed mis yn olynol i restrau aros gynyddu, a daw wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwerth 拢28m o gyllid i geisio mynd i'r afael 芒'r broblem.

Mewn cyfweliad 芒 大象传媒 Cymru, dywedodd Jeremy Miles fod yna "elfennau cadarnhaol" yn y ffigyrau diweddaraf, ond "nad yw'r darlun yn dderbyniol o gwbl".

Beth yw'r ffigyrau diweddaraf yng Nghymru?

Sorry, we can鈥檛 display this part of the story on this lightweight mobile page.

Mae cyfanswm o 800,163 o driniaethau eto i'w cwblhau - cynnydd o dros 3,500 ym mis Awst.

619,200 o gleifion unigol oedd wedi eu cynnwys ar y rhestrau aros, gan fod rhai yn disgwyl am fwy nag un driniaeth.

Mae nifer y bobl sydd wedi aros dros flwyddyn am driniaeth wedi cynyddu i 169,609, tra bod 24,193 o achosion ble mae cleifion wedi gorfod disgwyl dros ddwy flynedd.

Dangosa'r ffigyrau diweddaraf fod dros 23% o achosion yn ymwneud 芒 chleifion sydd wedi aros dros flwyddyn. 3.7% yw'r ffigwr hwnnw yn Lloegr.

Sorry, we can鈥檛 display this part of the story on this lightweight mobile page.

Dywedodd Jeremy Miles ddydd Iau: "Dwi ddim yn hapus gyda'r ffigyrau sydd wedi cael eu cyhoeddi heddiw.

"Mae 'na elfennau cadarnhaol yn eu plith nhw - mae'r cynnydd tuag at y nod canser wedi gwella i raddau - ond dyw'r darlun ddim yn dderbyniol o gwbl.

"Beth mae'r ffigyrau hyn yn ei ddangos ydi perfformiad dros fisoedd yr haf, ac yn aml ry' ni'n gweld bod llai o weithgaredd yn digwydd ym mis Awst yn benodol."

Buddsoddiad newydd 'mor bwysig'

Ychwanegodd Mr Miles fod y GIG wedi cyhoeddi'r cyllid newydd ar 么l gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau, ac achosion brys yn benodol, yn ddiweddar.

"Pan mae'r system dan bwysau mae'n anodd gwneud diwygiadau, felly dyna'r hyn mae'r buddsoddiad yma'n caniat谩u i ni ei wneud.

"Y darlun cyflawn yw, ni 'di bod yn gwario tua 拢175m y flwyddyn yn bwrpasol ar gael gwared a'r backlog... ac mae e wedi bod yn gweithio'n gyson am ddwy flynedd tan y pedwar neu bum mis diwethaf.

"Ni wedi gweld cynnydd yn y galw yn y system, a byrddau iechyd yn pwysleisio gwaith brys a chanser.

"Dyw'r sefyllfa ddim yn dderbyniol, dyna pam fod y buddsoddiad yma mor bwysig."

Mynnodd bod y llywodraeth yn benderfynol o gyrraedd eu targedau, a'i fod yn gobeithio y bydd y buddsoddiad yma - ac unrhyw "fuddsoddiad pellach sy'n dod ar 么l y gyllideb yn San Steffan" - yn eu galluogi i fynd i'r afael 芒'r heriau presennol.