Eglwys yng Nghymru i fuddsoddi 拢10m i ddenu cynulleidfaoedd

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd buddsoddiad sylweddol i Eglwys y Santes Fair, Abertawe, er mwyn creu canolfan fydd yn denu'r gymuned

Mae鈥檙 Eglwys yng Nghymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n buddsoddi bron i 拢10m mewn pedwar prosiect mawr i ddenu cynulleidfaoedd newydd ar draws y wlad.

Bydd prosiectau yng ngogledd ddwyrain Cymru, yn Abertawe ac yn Sir Fynwy yn cael grantiau gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu mentrau, canolfannau a chymunedau eglwysig newydd.

Bydd eglwysi hyb yn cael eu sefydlu yn y canolbarth a鈥檙 gogledd ddwyrain, bydd t卯m o genhadon yn cael ei benodi mewn ardaloedd gwledig, bydd t卯m arall yn cysylltu ag ysgolion a bydd buddsoddiad sylweddol i eglwys yng nghanol dinas Abertawe.

Gobaith y prosiectau, yn 么l Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, wrth siarad ar Dros Frecwast fore Gwener, ydi y byddant yn helpu鈥檙 eglwys i 鈥測mestyn at bobl sydd falle鈥檔 galw鈥檜 hunain yn ysbrydol ond nid crefyddol, ymhlith pobl ifanc, ymhlith pobl difreintiedig.鈥

鈥淥s ni鈥檔 buddsoddi, ac yn trio gweld pethau mewn ffordd newydd, nid yn y ffordd hen ffasiwn, ond ehangu y ffordd o weinidogaethu da ni鈥檔 darparu, dwi鈥檔 si诺r bod 'na ddyfodol da,鈥 ychwanegodd.

Ffynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Mae Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, am ehangu y ffordd o weinidogaethu

Chwe Eglwys Hyb Cenhadol yn esgobaeth Llanelwy

Bydd un o鈥檙 pedwar prosiect newydd yn creu chwe 鈥楨glwys Hyb Cenhadol鈥 newydd yn esgobaeth Llanelwy, diolch i fuddsoddiad o 拢4.6m.

Rhwng 2024 a 2030, y bwriad yw creu chwe prosiect hyb, gan ddechrau gydag Eglwys yr Holl Saint, Y Drenewydd, Eglwys Crist, Prestatyn ac Eglwys San Silyn, Wrecsam.

Mae鈥檙 esgobaeth eisoes wedi sefydlu pedwar prosiect hyb llwyddiannus o鈥檙 fath ers 2021 yn - Y Trallwng, Bae Penrhyn, Yr Wyddgrug a Threffynnon.

Mae pob hyb yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer rhedeg a thyfu eglwys ac yn cael ei arwain gan Offeiriad Hyb Cenhadol profiadol, gyda chefnogaeth offeiriad cyswllt a gweinidog lleyg.

Cenhadon arloesol mewn ardaloedd gwledig

Bydd dros 拢1m yn cael ei fuddsoddi ar yr ail brosiect, hefyd yn esgobaeth Llanelwy, i greu t卯m o genhadon arloesol mewn ardaloedd gwledig - yn enwedig yn ardal Trefaldwyn yn ne'r esgobaeth.

Bydd y gwaith yn cynnwys cefnogi cenhadu mewn cynulleidfaoedd eglwysig yn ogystal 芒 chysylltu gyda phobl yn eu cymuned, mewn ysgolion a thafarndai, a thrwy ddigwyddiadau cymdeithasol a gwledig.

Gweithio gyda'r gymuned yn Abertawe

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd Eglwys y Santes Fair yn derbyn 拢2.8m er mwyn helpu'r eglwys i wasanaethu cymuned canol dinas Abertawe

Mewn prosiect arall, gwerth 拢2.8m dros bum mlynedd, Eglwys y Santes Fair yng nghanol dinas Abertawe fydd yr eglwys gyntaf yng Nghymru i gael ei dynodi yn eglwys fystwyr (minster)

Mae鈥檔 deitl sy鈥檔 cael ei roi ar eglwys fawr neu bwysig, yn enwedig ar eglwys golegol neu eglwys gadeiriol, ac mae'n adlewyrchu pwysigrwydd Eglwys y Santes Fair i'r ddinas.

Yn 么l Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John: 鈥淢ae鈥檙 eglwys yn sefyll reit yng nghanol y ddinas felly mae鈥檙 potensial yn enfawr.

鈥淒oes dim canolfan, ar hyn o bryd, i bobl ddod i mewn, felly fydd rhan o鈥檙 arian yn mynd ar ailwampio鈥檙 eglwys.鈥

Dywedodd Ficer y Santes Fair, Canon Justin Davies: 鈥淏ydd yn galluogi cyflogi aelodau newydd o staff, yn glerigwyr a gweithwyr lleyg, gan gynyddu ein gallu i wasanaethu cymuned canol dinas Abertawe - boed yn breswylwyr, gweithwyr, ymwelwyr, ffoaduriaid neu pobl ddigartref.鈥

Fe gafodd Eglwys y Santes Fair ei hailadeiladu yn y 1950au ar 么l cael ei dinistrio yn ystod blitz y Nats茂aid dros dri diwrnod yn yr Ail Ryfel Byd.

Gwaith cenhadol yn ysgolion Mynwy

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Bydd y prosiect yn cyflogi pobl i fod yn gysylltwyr ysgolion mewn pedwar lleoliad 鈥 Gogledd Sir Fynwy, Dwyrain Caerdydd, Islwyn, a'r Fenni

Yn y pedwerydd o鈥檙 prosiectau newydd, bydd Esgobaeth Mynwy yn derbyn 拢1m i helpu meithrin perthynas gryfach gydag ysgolion.

Bydd y prosiect yn darparu Arloeswr Ymgysylltu ag Ysgolion (SEP) ar gyfer pedwar lleoliad 鈥 Gogledd Sir Fynwy, Dwyrain Caerdydd, Islwyn, a鈥檙 Fenni.

Mae鈥檙 prosiect pum mlynedd yn canolbwyntio ar feithrin perthynas gyda disgyblion oed cynradd ac uwchradd, eu rhieni, athrawon a鈥檙 teulu ysgol ehangach mewn modd sy鈥檔 mynd y tu hwnt i wasanaethau ysgol.

Cronfa Twf yr Eglwys

Mae鈥檙 grantiau鈥檔 cael eu rhoi o Gronfa Twf yr Eglwys, lle mae鈥檙 Eglwys yn buddsoddi 拢100m i gyd mewn menter arloesol i gefnogi prosiectau ar gyfer efengylu ledled Cymru.

Mae Cronfa Twf yr Eglwys wedi ei datblygu o raglen ddiweddar arall gan yr Eglwys yng Nghymru, sef y Gronfa Efengylu.

Mae鈥檙 cynllun hwnnw wedi bod yn llwyddiannus wrth helpu i greu cynulleidfaoedd sy鈥檔 tyfu鈥檔 gyflym mewn sawl rhan o Gymru, gan gynnwys yn Stryd yr H么b yn Wrecsam ac Eglwys Citizen yng Nghaerdydd, yn ogystal 芒鈥檙 prosiect arloesol, Pererin, sydd yn datblygu llwybr pererinion yng Ngwynedd.

Ffynhonnell y llun, Eglwys yng Nghymru

Disgrifiad o'r llun, Wrth i eglwysi gael eu canoli mewn eglwysi hyb, mae perygl, meddai Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, yn bydd yn rhaid ystyried cau rhai eglwysi

'Dyfodol yn dda'

Er bod tueddiad i nifer yr addolwyr ostwng, mae Archesgob Cymru, y Parchedicaf Andrew John, yn teimlo鈥檔 ffyddiog am y dyfodol ac am cymaint o arian.

鈥淢ae鈥檔 benderfyniad dewr i wario dros 100 miliwn o bunnau ar brosiectau newydd, ond mae鈥檔 dangos bod, nid yn unig y clerigion ond pobl sy鈥檔 gweithio gyda鈥檙 eglwys yng Nghymru, yn gweld bod y dyfodol yn dda.鈥

Ychwanegodd: 鈥淢i fydd 'na ffigyrau newydd yn dod allan yn fuan fydd yn dangos bod, ar 么l covid, oedd yn amser anodd i鈥檙 eglwys, bod y ffigyrau wedi dychwelyd, a bod pobl nawr yn dod n么l at yr eglwys.鈥

Ond o weld mwy o eglwysi hyb yn cael eu ffurfio, oes perygl y bydd eglwysi eraill yn gorfod cau wrth i wasanaethau gael eu canoli?

鈥淢ae na beryg o hynny,鈥 meddai Archesgob Cymru 鈥渁c, wrth gwrs, wrth weld faint o eglwysi sydd gyda ni, mae鈥檔 rhaid i ni fod yn ddoeth a gweld ydyn ni eisiau pob adeilad.

鈥淥nd cyn i ni droi at jyst cau ein heglwysi, y cwestiwn pwysicaf yw oes modd i ni ailwampio鈥檙 eglwys a darparu rhywbeth newydd yn ein cymunedau? - canolfan ar gyfer pobl ifanc, canolfan banciau bwyd neu ddarparu tai fforddiadwy i bobl?

"Os bod rhaid i ni gau eglwysi [fe fydd hynny] ar gyfer rhywbeth newydd a chreadigol,鈥 ychwanegodd.