Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gething i wynebu pleidlais diffyg hyder yn y Senedd
Fe fydd Vaughan Gething yn wynebu pleidlais dyngedfennol yn Senedd Cymru yn ddiweddarach.
Y Ceidwadwyr sydd wedi gwneud y cynnig o ddiffyg hyder yn y prif weinidog yn dilyn wythnosau o feirniadaeth, yn cynnwys gan rai o fewn Llafur, o roddion ariannol i ymgyrch arweinyddol Mr Gething.
Gan fod yr un nifer o aelodau Llafur ag aelodau'r gwrthbleidiau yn y Senedd, mae Mr Gething angen cefnogaeth pob aelod o'i blaid.
Ddydd Mawrth, dywedodd ei fod yn hyderus ynghylch y bleidlais.
Mae gan y Ceidwadwyr gefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, ond does dim digon o aelodau i ennill pleidlais.
Byddai angen i aelod Llafur fynd yn erbyn y blaid, ymatal pleidlais neu fethu 芒 phleidleisio er mwyn i gynnig y Ceidwadwyr lwyddo.
Yn siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething ei fod wedi dilyn y rheolau ar roddion.
"Dwi'n hyderus ynghylch yfory. Dwi'n edrych ymlaen at y ddadl y byddaf yn rhan ohoni."
Dywedodd y "gallwn a dylwn i, yn fy marn i, fod yn rhywle arall" - gan gyfeirio at seremoni i goff谩u D-Day yn Portsmouth na fydd yn mynychu oherwydd y ddadl.
Ychwanegodd na fydd canlyniad y bleidlais yn orfodol, sy'n golygu na fyddai'n rhaid iddo gamu i lawr petai'n colli.
Ond fe fyddai colli'r bleidlais yn ergyd drom i'w awdurdod fel prif weinidog.
'Awdurdod yn deilchion'
Hefyd ddydd Mawrth roedd beirniadaeth gan y cyn-brif weinidog Mark Drakeford am roi鈥檙 gorau i gynllun i dorri gwyliau haf yr ysgol.
Roedd Mr Drakeford yn feirniadol o lywodraeth Mr Gething am y penderfyniad "siomedig".
Cafodd y polisi ei gyflwyno pan oedd Mr Drakeford yn brif weinidog.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies: "Mae'r prif weinidog wedi diraddio ei swydd, mae ei awdurdod yn deilchion ac nid yw'n gallu llywodraethu mewn cyfnod pan mae rhestrau aros y Gwasanaeth Iechyd ar eu huchaf o ganlyniad i'r Blaid Lafur."
Yn 么l Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru: "Mae anfodlonrwydd y prif weinidog i gyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad yn dangos agwedd sy'n ddi-hid ac yn bryderus."