'Fe wnes i ewyllys yn 31 oed, yn poeni bod fy ng诺r am fy lladd'

Disgrifiad o'r llun, Mae Ceri yn gobeithio y bydd ei stori yn helpu eraill i adael perthnasoedd treisgar

Mae mam o ogledd Cymru wedi dweud iddi wneud ewyllys a chymryd yswiriant bywyd yn 31 oed oherwydd ei bod yn ofni y gallai ei chyn-诺r yn ei lladd.

Mae Ceri Owen yn disgrifio sut y byddai ei chyn-bartner yn "tynnu fy ngwallt allan a stampio ar fy mhen", gan ei gadael yn "gragen o berson".

Mae hi eisiau codi ymwybyddiaeth er mwyn annog pobl i geisio cael cymorth.

Dywedodd Llywodraeth y DU wrth y 大象传媒 y byddai'r troseddwyr mwyaf difrifol yn cael eu trin fel "terfysgwyr" gan y llywodraeth Lafur.

'Meddwl 'mod i'n ddiwerth'

Dywedodd Ceri, 33, fod ymddygiad ei chyn-诺r yn ystod eu perthynas pum mlynedd wedi gwaethygu o alw enwau i ymosodiadau treisgar.

鈥淒aeth yn llawer mwy ymosodol ac aml... fy nyrnu, fy ngwthio drosodd a chloddio ei 'winedd i mewn i fi.

"Ro'n i wedi mynd o fod yn berson hyderus sy'n mynd allan, i bwynt lle ro'n i'n dawel a fyddwn i ddim yn dadlau n么l.

"Yn feddyliol ro'n i'n meddwl 'mod i'n ddiwerth."

Ffynhonnell y llun, Ceri Owen

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Ceri y byddai ganddi gleisiau yn aml oherwydd ymosodiadau ei chyn-bartner

Disgrifiodd hefyd ymddygiad rheoli, a oedd yn effeithio ar faint o gwsg roedd hi'n ei gael a pha mor aml roedd hi'n ymolchi.

"Fe ddaeth o'n normal i fi, fe fyddwn i'n meddwl 'mod i'n wallgo' ac mai fy mai i oedd y cyfan."

Gadawodd Ceri y berthynas ym mis Tachwedd 2021 gan ei bod yn ofni y byddai'n colli ei bywyd naill ai gan ei phartner ar y pryd, neu oherwydd na fyddai hi'n gallu delio'n feddyliol gyda'r cam-driniaeth.

"'Nes i gyrraedd y pwynt lle ro'n i isio dod 芒 fy mywyd i ben, ac felly mi oedd yn rhaid i fi adael - allwn i ddim goroesi bod yno dim mwy."

Disgrifiad o'r llun, Roedd yr heddlu wedi gallu darganfod fod cyn-诺r Ceri yn ei galw dro ar 么l tro o rifau ff么n anhysbys

Ond ym mis Mai 2022 fe dorrodd ei chyn-bartner i mewn i鈥檞 th欧 yn y nos, ac ymosod arni.

Dywedodd Ceri iddi rybuddio'r heddlu yn y dyddiau cyn hynny fod ei ymddygiad yn gwaethygu.

鈥淏yddwn i鈥檔 dweud wrth yr heddlu 'mod i isio cofnod ohono, felly pe bai unrhyw beth yn digwydd i fi, dyma鈥檙 person sydd angen i chi edrych arno," meddai.

"Dwi'n meddwl 'mod i wedi cael tua 500 o alwadau yn y tridiau cyn hynny.

"Daeth i'r t欧 dipyn o weithiau ond ro'n i wedi llwyddo i'w gael o i adael."

'Fy nghefnogi a fy nghredu'

Gydag ymyrraeth Heddlu Gogledd Cymru cafwyd cyn-诺r Ceri yn euog o ymosod, ymddwyn mewn modd oedd yn rheoli a gorfodi, a stelcian gan achosi braw difrifol.

"Do'n i erioed wedi teimlo 'mod i ddim yn cael fy nghefnogi na fy nghredu," meddai Ceri.

"Roedd hynny'n beth mawr iawn i fi. Fe wnaeth y break-in wedyn 'neud yr ymchwiliad yna'n llawer mwy difrifol."

Mae Ceri hefyd wedi cael cymorth gan y gwasanaethau cam-drin domestig.

Mae hi wedi siarad am ei phrofiad er mwyn codi ymwybyddiaeth o arwyddion peryglus mewn perthynas, ac yn gobeithio annog pobl mewn amgylchiadau tebyg i geisio cymorth neu euogfarn.

鈥淒oes dim unrhyw fath o gamdriniaeth sy'n dderbyniol," meddai.

"Does neb yn gwneud unrhyw beth i haeddu cael eu cam-drin ac mae yna bobl a gwasanaethau all eich helpu chi.鈥

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae penderfyniad Ceri i rannu ei stori wedi cael ei ddisgrifio fel un "dewr" gan Amanda Blakeman

Mae penderfyniad Ceri i rannu ei stori wedi cael ei ddisgrifio fel un "dewr" gan Amanda Blakeman, prif gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ac arweinydd Cymru dros drais yn erbyn menywod.

鈥淏yddwn yn gobeithio y byddai stori Ceri yn helpu i roi hyder i bobl, os ydyn nhw鈥檔 ein ffonio ni, y byddwn ni鈥檔 gwrando ac yn edrych ar weithredu,鈥 meddai.

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ddatgan trais yn erbyn menywod yn 鈥渁rgyfwng cenedlaethol鈥.

Daeth hynny wedi iddi ddod i'r amlwg bod dros filiwn o droseddau yn gysylltiedig 芒 thrais yn erbyn menywod a merched wedi鈥檜 cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn 2022-23 - 20% o鈥檙 holl droseddau a gofnodwyd i'r heddlu.

Dywedodd Alex Davies-Jones AS, y Gweinidog dros Ddioddefwyr a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched, y bydd Ceri "heb os nac oni bai wedi helpu nifer o ferched eraill drwy godi llais".

Ond yn anffodus nid yw ei stori hi yn unigryw, meddai.

Mae Llywodraeth Lafur y DU wedi addo haneru trais yn erbyn menywod a merched mewn degawd.

鈥淔e wnaethon ni etifeddu system cyfiawnder troseddol oedd ar fin dymchwel," meddai Ms Davies-Jones, Aelod Seneddol Pontypridd.

Mae cynlluniau gan gynnwys arbenigwyr cam-drin domestig mewn ystafelloedd rheoli 999 yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi鈥檜 cyhoeddi.

"Ar gyfartaledd mae tair menyw yr wythnos yn cael eu lladd gan ddynion oherwydd cam-drin domestig a thrais yn y wlad yma," meddai'r gweinidog.

"Mae hynny'n gwbl annerbyniol ac mae'n rhaid iddo newid."

Os yw unrhyw faterion yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, gallwch ddod o hyd i fanylion sefydliadau a all helpu ar wefan 大象传媒 Action Line.

Am fwy am y stori hon gwyliwch Wales Live ar 大象传媒 iPlayer.