Tri llun: Lluniau pwysicaf Yvonne Evans
- Cyhoeddwyd
Mae Yvonne Evans yn wyneb cyfarwydd i wylwyr rhagolygon y tywydd a鈥檙 rhaglen Prynhawn Da ar S4C. Mae'r cyflwynydd yn rhannu ei hoff luniau gyda Cymru Fyw yr wythnos yma.
Dyma fy mab bach Daniel. Cafodd ei eni dechrau'r flwyddyn hon.
Tynnwyd y llun yma ohono yn gwenu'n llon ar y diwrnod roedd yn chwe mis oed. Mae'n rhyfeddod pur ei wylio yn darganfod y byd o'i gwmpas. Mae pob dydd yn antur iddo!
Mae'n deimlad arbennig a thwymgalon ei weld yn ymateb a mwynhau wrth wenu a chwerthin yn siriol yng nghwmni teulu, ffrindiau ac mewn gweithgareddau i fabanod. Er hynny mae e'n ddigon difrifol yr olwg pan mae e eisiau mwy o laeth!
Dw i a fy mhartner Ianto wrth ein boddau yn mynd i gyfandir Ewrop. Dyma ni ein dau ar wyliau yn Salzburg, Awstria, i ddathlu fy mhenblwydd yn ddeugain oed.
Doeddwn i heb fod yno ers yn blentyn ac yn torri bol eisiau dychwelyd a chael mynd ar daith The Sound of Music. Rwyf wedi gwylio'r ffilm gannoedd o weithiau!
Roedden ni'n aros yng ngwesty Schloss Leopoldskron (yng nghefndir y llun) a hwn yw'r adeilad sydd yn gartref i Gapten von Trapp a'i deulu yn y ffilm. Cefais fodd i fyw yn bwyta brecwast bob bore yn edrych dros y llyn a oedd wedi rhewi'n gorn a draw at y mynyddoedd godidog oherwydd dyma'r golygfeydd sydd yn amlwg iawn yn y ffilm.
Rwyf wedi bod yn ffodus iawn cael teithio i bum cyfandir y byd. Mae'n union chwarter canrif ers i mi deithio i Kenya, Tanzania, Zanzibar, Malawi, Zimbabwe, Zambia a De Affrica. Hysbysebwyd y daith fel 'Bush Camping' a roedd hynny'n apelio'n fawr i mi.
Roeddwn yn teithio heb ff么n symudol (nid oedden nhw'n bethau cyffredin y pryd hynny) ac yn teithio gydag arian parod a sieciau teithwyr a byw mewn gobaith i fedru ffeindio ciosc ff么n er mwyn cysylltu ag adref bob hyn a hyn!
Dyma fi yn ymweld 芒 Rhaeadr Victoria. Roedd hi'n dipyn o brofiad gwersylla a chlywed y d诺r yn tasgu yn y cefndir.
Mae'r lluniau o'r daith i gyd mewn albwm a phob un yn fy atgoffa o fy egni a brwdfrydedd a'r teimlad da sydd yn dod o gamu allan o'r hyn sydd yn gyfarwydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2022