Nigel Owens: 'Paratoi fy ymddeoliad er lles fy iechyd meddwl'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Nigel Owens oedd y dyfarnwr cyntaf erioed i ddyfarnu 100 o gemau prawf

Fe wnaeth Nigel Owens baratoi ar gyfer ei ymddeoliad o flaen llaw ar 么l gweld 鈥渟hwt gymaint鈥 o chwaraewyr a dyfarnwyr yn dioddef gyda鈥檜 hiechyd meddwl ar 么l camu'n 么l.

Nigel Owens oedd dyfarnwr rygbi mwyaf profiadol y byd pan adawodd ei waith yn 2020.

Wrth siarad 芒 rhaglen Bore Sul ar Radio Cymru, dywed iddo fuddsoddi mewn fferm cyn ymddeol fel bod ganddo rhywbeth i lenwi鈥檌 amser 鈥 ac ychwanegodd mai ffermio oedd ei 鈥渇reuddwyd gyntaf鈥 yn wyth oed.

"O鈥檔 i wedi clywed ac wedi gweld shwt gymaint o chwaraewyr rygbi, shwt gymaint o ddyfarnwyr rygbi yn gorffen - a ddim yn moyn gorffen, ond yn gorfod gorffen.

鈥淲edyn yn codi yn y bore ac yn gofyn 鈥楤eth fi鈥檔 mynd i wneud?鈥"

'Rhaid i fi gael rhywbeth i'w 'neud'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, 'Y ffordd orau i dreulio dy fywyd yw gwneud be' ti鈥檔 mwynhau,' medd Mr Owens

Mae Mr Owens wedi siarad yn flaenorol am ei brofiad ag iselder pan yn ifanc, cyn iddo 鈥渄derbyn [ei] hun鈥 fel dyn hoyw.

鈥淥鈥檔 i鈥檔 gwybod beth i ddisgwyl a beth i wneud o ran gohirio mynd i鈥檙 sefyllfa yna eto,鈥 medd y cyn-ddyfarnwr o Sir G芒r.

"Er roedd 'na reswm am hwnnw, yn derbyn pwy o鈥檔 i, ac wrth gwrs wedi derbyn hynny fe aeth y broblem iechyd meddwl yna bant.

鈥淥nd o ni鈥檔 gwybod beth oedd y profiad fel.鈥

Esboniodd fod dyfarnu nid yn unig yn cynnig t芒l da, ond yn gyfle i chi wneud gyrfa o'ch diddordeb.

鈥淢ewn ffordd, yn eitha鈥 tebyg i chwaraewyr rygbi, i ddyfarnwr [mae] dy hobi yn dod yn dy swydd.

鈥淎 gallwn i ddim meddwl am ddim ffordd gwell i dreulio dy fywyd na gwneud be' ti鈥檔 mwynhau.

鈥淔elly ro鈥檔 i鈥檔 gwybod bod rhaid i fi gael rhywbeth i'w 'neud pan oedd y bywyd prysur yn dod i ben - a ffarmio oedd hwnna.鈥

Edrych ymlaen at ymddeol

Breuddwyd gyntaf Mr Owens yn wyth oed oedd bod yn ffermwr, esboniodd.

鈥淔ues i鈥檔 gweitho ar fferm ar yr hen YTS scheme ar 么l gadael ysgol... gweithio ar fferm Y Wern yn Drefach,鈥 meddai.

鈥淎 fues i鈥檔 helpu mas lan yn fferm Tirgarn yn Mynyddcerrig pan o鈥檔 i鈥檔 blentyn - lan yn fferm fy Anti a'n Wncwl yn Pentwyn gyda Gloria a Graham amser gwyliau'r haf.鈥

Ffermio oedd ei fywyd, medd Mr Owens, er nad oedd e鈥檔 fab ffarm.

"Yr unig ffordd oeddwn i am gael fferm i fynd mewn i os oeddwn i鈥檔 priodi mewn i fferm a phriodi merch fferm - a doedd hynny ddim yn mynd i ddigwydd.

"Felly 'nes i safio lan dros y blynydde, a wedyn pan oedd y dyfarnu yn dod i ben ro鈥檔 i wedi prynu tyddyn bach, small holding bach byti 90 erw i gyd nawr, a wedyn prynu cwpwl o wartheg Hereford.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

O ganlyniad, roedd Mr Owens yn edrych ymlaen at ei ymddeoliad.

"Ro鈥檔 i鈥檔 gwybod yn Cwpan y Byd yn 2019 bo鈥 fi ddim yn mynd i wneud pedair blynedd arall a mynd i Ffrainc am wyth wythnos yn 2023.

鈥淔elly o鈥檔 i wedi paratoi a do鈥檔 i methu aros i ddod 鈥榥么l o Japan ar 么l Cwpan y Byd 2019 i ddechrau rhan nesa鈥 fy mywyd.

鈥淔elly fe ddigwyddodd pethau yn ddigon naturiol, ac i fi roedd e鈥檔 bwysig bod hynna 'na.

鈥淎chos 'se鈥檔 i鈥檔 codi lan yn y bore ac yn puzzlo, 鈥榖e鈥 fi鈥檔 mynd i neud?鈥, dyna be鈥 ti鈥檔 gweld a lot o bobl yn diodde鈥 gydag iechyd meddwl.鈥