Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Peidiwch anwybyddu profion ceg y groth, fel wnes i'
Mae dynes o Fethesda wedi annog merched i fynd am brawf ceg y croth wedi iddi hi ei hun anwybyddu gwahoddiadau am flynyddoedd.
Mae Elin Si么n, 40, newydd gael llawdriniaeth fawr i dynnu ei chroth, ceg y groth a thiwbiau ffalopaidd wedi iddi gael rhywfaint o boenau cyn y Nadolig.
Roedd arbenigwyr yn meddwl mai haint ar y d诺r oedd ganddi i ddechrau ond yna wedi profion pellach darganfuwyd bod ceg ei chroth yn llawn o gelloedd anarferol - y newid sy'n digwydd cyn i ganser ddatblygu.
Ers y profiad, a oedd yn sioc anferthol, dywed ei bod yn hollbwysig i ferched fynd am brofion ceg y groth wedi iddyn nhw gael gwahoddiad.
Mae merched rhwng 25 a 64 yn cael eu gwahodd am brofion bob pum mlynedd.
Yn 么l mae tua 160 o achosion newydd o ganser ceg y groth yng Nghymru bob blwyddyn.
Dyma'r canser mwyaf cyffredin mewn menywod o dan 35 oed.
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio dywedodd Elin Si么n nad oedd hi "erioed wedi gwerthfawrogi pa mor bwysig" oedd y profion.
"Do'dd o ddim fel bo fi ofn na dim byd - o'n i just yn rhoi nhw i un ochr a deud 'na'i neud o rhywbryd eto.
"Dwi'm isio gwario diwrnod off fi o gwaith yn gorfod mynd i 'neud rhywbeth fel hyn.
"O'n i'n meddwl pe buasai 'na rhywbeth yn wrong y byddwn i'n gwybod amdano fo.
"Wel, mi a'th rhywbeth yn wrong ac mi o'n i'n gwybod amdano wedyn.
"O'dd y newidiadau o'dd gynnai i wedi datblygu y gwaethaf allen nhw fod heb fynd yn ganser.
"Petawn i wedi mynd am y smears pan ges i'r gwahoddiadau flynyddoedd yn 么l gallwn fod wedi osgoi llawdriniaeth fawr o bosib."
Mae'n dweud na allith orbwysleisio pa mor bwysig yw'r profion, ac nad yw newid yn y celloedd yn dangos unrhyw symptomau.
"Dwi just ddim isio gweld neb arall yn y sefyllfa lle ydw i. Dwi'n reit ffodus dwi'm isio plant ond 'se lot o ferched yn fy sefyllfa i wedi bod 芒 phenderfyniad lot anoddach.
"Yn amlwg dwi wedi bod yn ffodus - dim ond pre-cancer oedd o ac wedi'r llawdriniaeth dwi'm yn gorfod mynd am driniaeth arall.
"Dwi'm isio i neb arall ffindio'u hunain yn y sefyllfa lle dwi wedi bod - llawdriniaeth fawr, gorfod cael amser i ffwrdd o'r gwaith a bod yn s芒l.
"Fues i'n ffodus bo' fi wedi cael symptomau - ond dyw hynna ddim yn digwydd fel arfer.
"Heb y symptomau dwi ddim yn gwybod pryd fydden i wedi cael fy smear cynta'.
"Ewch am y profion. Cyn gynted y mae celloedd anarferol yn cael eu hadnabod, y gorau really."