Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cyngor i rwystro parcio 'peryglus' ger Llyn Tegid
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
Mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cyflwyno gorchymyn i rwystro cerbydau rhag stopio ar ffordd brysur yng Ngwynedd yn sgil pryderon fod parcio diystyriol yn achosi "problemau traffig dybryd i bobl leol".
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cwynion gan swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri ac aelodau o Gyngor Plwyf Llangywer wedi i gerbydau argyfwng gael eu rhwystro oherwydd nifer y rhai sy'n parcio ar ochr y B4403 rhwng Llanuwchllyn a'r Bala.
Yn dilyn trafodaeth yng nghyfarfod pwyllgor cynllunio'r cyngor sir fe bleidleisiodd aelodau o 12 pleidlais i ddim, gydag un ymataliad, o blaid - mae hyn yn golygu y gall cerbydau sydd ddim yn cydymffurfio gael eu towio.
Byddai'r gorchymyn yn gwahardd gyrwyr rhag stopio eu cerbydau am unrhyw reswm oni bai fod argyfwng - er y bydd dal modd i ddefnyddio'r cilfannau.
Awgrymodd rhai cynghorwyr y dylid ystyried agor maes parcio newydd er mwyn creu digon o le ar gyfer yr holl draffig, ond fe fyddai'n rhaid gwneud hynny ar wah芒n.
Yn 么l aelodau o'r cyngor cymuned lleol, mae'r ffordd, sy'n dilyn llan ddwyreiniol Llyn Tegid, wedi denu "rhesi o gerbydau gwersylla" yn y gorffennol.
Mae adroddiad y pwyllgor cynllunio, a gafodd ei drafod ddydd Llun, yn nodi fod "parcio didrugaredd yn medru arwain at broblemau traffig dybryd i drigolion lleol" ac yn ystod adegau prysur fod y "ffordd yn cloi yn llwyr gan draffig sy'n methu symud yn 么l nac ymlaen".
Dywedodd cadeirydd Cyngor Cymuned Llangywer wrth 大象传媒 Cymru fod y broblem "mor ddrwg 芒'r golygfeydd a'u gwelwyd yn ardal Llyn Ogwen a Llanberis yn y gorffennol".
"'Dan ni fel trigolion yn gorfod rhoi fyny hefo lot," meddai'r Cynghorydd Clwyd Davies cyn y cyfarfod.
"'Dan ni'n deall pam fod pobl eisiau dod i ymweld 芒 chefn gwlad Cymru - mae'n le braf i fod.
"Ond does 'na ddim rheolaeth na phlismona ar hyn o bryd ac mae hi'n gallu bod yn ofnadwy yma.
"Mae sefydlu'r clearway yn un ffordd ymlaen ond hefyd mae'n rhoi'r tools i ni wneud rhywbeth am y peth."
Ychwanegodd fod y ffordd yn gul iawn ond ei bod yn broblem sydd wedi gwaethygu dros amser.
"Y campervans ydi'r broblem fwyaf - pobl yn parcio ar ochr y ffordd, sy'n beryg ac yn gadael llanast ar eu h么l," meddai'r Cynghorydd Davies
"Yn sicr mi oedd o waethaf yn ystod y cyfnod clo. Ddaru lot ffeindio Llangywer yr adeg hynny.
"Ond ffordd leol ydy hon yn y b么n - dydi hi ddim yn addas ar gyfer yr holl draffig ac yn sicr mae'n rhaid i rywbeth gael ei wneud."
Yn 么l yr adroddiad, oedd yn argymell sefydlu'r gorchymyn clirffordd ar hyd yr B4403, ni fyddai'n cael effaith ar nifer y cerddwyr ar y ffordd.
Ond er ei fod wedi cael cefnogaeth y cyngor cymuned, roedd un llythyr o wrthwynebiad yn disgrifio'r cynlluniau fel rhai "eithafol".
鈥淢ae鈥檔 ymddangos bod y gorchymyn hwn yn cymryd camau eithafol ar gyfer yr hyn sy鈥檔 broblem weddol gyntefig yn ardal Llangywer yn ystod y tymor gwyliau brig.鈥