Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Clefyd Parkinson: Dosbarthiadau samba yn llwyddo i 'godi ysbryd'
- Awdur, Eleri Griffiths
- Swydd, Newyddion 大象传媒 Cymru
"Mae rhai rhannau o bob diwrnod yn ofnadwy, ond does dim rhaid iddo fe fod fel'na pan chi allan yn mwynhau."
Mae menyw wedi sefydlu dosbarthiadau SParky Samba yng Nghaerdydd i "godi ysbryd" a helpu pobl ymdopi gyda chlefyd Parkinson.
Cafodd Eirwen Malin, 73 oed o Wenf么 ym Mro Morgannwg, ddiagnosis o'r cyflwr 10 mlynedd yn 么l.
Daeth y syniad ar 么l sgwrs gyda'i mab am sut y gallai rhythmau a churiadau'r offerynnau taro helpu gyda rhythmau'r ymennydd.
Dywedodd Parkinson's UK Cymru bod samba yn "wych" i helpu pobl sydd 芒'r cyflwr, yn gorfforol ac yn feddyliol.
'Ddim yn si诺r pwy o'n i'
Daeth diagnosis Eirwen - sy'n wreiddiol o Wrecsam - fel "syrpreis" iddi, a dywedodd ei bod wedi cymryd "tipyn o amser i ddod i鈥檙 afael 芒'r peth".
"O'n i ddim cweit yn si诺r ble o'n i鈥 ddim yn si诺r pwy o'n i a dweud y gwir," meddai.
"O'n i 'di mynd o fod yn rhywun hollol iach a chryf - bron yn bennaeth y teulu - ac wedyn o'n i'n rhywun efo rhyw broblem, o'dd e鈥檔 od iawn."
Ar 么l rhai blynyddoedd yn dod i arfer 芒'i diagnosis, roedd Eirwen eisiau dod o hyd i weithgaredd y gallai hi ei wneud i helpu gyda'i chyflwr.
"Un bore roeddwn i鈥檔 siarad 芒 fy mab, sydd 芒 ffrindiau mewn band samba, am sut y gallai'r rhythmau o鈥檙 offerynnau helpu gyda Parkinson's.
"Oherwydd mae lot o bethau sy'n mynd o'i le gyda Parkinson's yn ymwneud 芒 rhythmau鈥 fel rhythmau cerdded, rhythmau nofio.
"Mae rhai therapyddion yn defnyddio beats a cherddoriaeth i helpu pobl, ac o'n i鈥檔 meddwl 'wel os yw鈥檙 curiad tu mewn i dy ben di, efallai gall hwnna helpu' oherwydd ti methu anghofio samba - mae'r curiad wastad yn dy ben di."
'Dod mewn yn drist, gadael yn hapus'
Mae samba yn gerddoriaeth o Dde America, gyda'i wreiddiau yn niwylliant Affro-Brasil, sy'n cael ei berfformio gyda llawer o offerynnau taro.
Mae gan bob aelod o ensemble samba r么l benodol gan fod y gerddoriaeth yn aml yn golygu gosod gwahanol rythmau dros ei gilydd.
Gyda chymorth Parkinson's UK Cymru ac arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru, penderfynodd Eirwen sefydlu dosbarth SParky Samba i bobl gyda chlefyd Parkinson yng Nghaerdydd yn 2022.
Dywedodd Eirwen: "Mae鈥檙 sesiynau yn mor聽耻辫濒颈蹿迟颈苍驳听ac yn helpu i godi ysbryd pobl.
"Mae pobl yn dod mewn yn drist ac yn gadael yn hapus."
Erbyn hyn, mae鈥檙 dosbarthiadau yn digwydd mewn tri rhanbarth gwahanol yng Nghymru - Caerdydd, Llandudno a Sir Benfro.
Mewn cwrs preswyl i bobl 芒 chlefyd Parkinson ym Mhen-y-bont ar Ogwr, perfformiodd Eirwen a鈥檙 gr诺p o Gaerdydd, cyn cynnal gweithdy.
I Brenda Thomas o Rydaman, dyma oedd y tro cyntaf iddi drio samba.
Cafodd hi ddiagnosis clefyd Parkinson ym mis Mehefin 2023, a dywedodd fod cadw'n brysur yn ei helpu i ymdopi.
"Joiais i mas draw. Nes i ddim gwisgo'r聽earplugs - troes i'r聽hearing aids聽off a theimlo'r聽惫颈产谤补迟颈辞苍蝉听yn dod trwy鈥檙 llawr.
鈥淥'dd e'n hollol ffantastig.鈥
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd bellach yn edrych ar sut yn union y gallai samba wella canlyniadau iechyd a lles i bobl 芒 chlefyd Parkinson.
Dywedodd Liz Morgan o Parkinson's UK Cymru ei bod hi'n gyffrous i weld dosbarthiadau Eirwen yn cael y sylw maen nhw'n eu haeddu.
"Mae'n helpu pobl yn ffisegol ac yn feddyliol oherwydd ti'n gorfod cadw'r beats a hefyd ti'n gallu anghofio am bethau am sbel fach.
"Mae鈥檔 wych."