Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Angen 'chwarae teg' wrth ddatgarboneiddio Port Talbot
- Awdur, Huw Thomas
- Swydd, Gohebydd Busnes 大象传媒 Cymru
Mae angen "chwarae teg" i gwmni dur er mwyn ceisio datgarboneiddio gweithfeydd mwyaf y DU ym Mhort Talbot.
Dyna alwad cadeirydd Tata Steel UK wrth i鈥檙 cwmni chwilio am arian gan Lywodraeth y DU i ddatgarboneiddio eu safle yn ne Cymru.
Dywedodd Henrik Adam fod cystadleuwyr Ewropeaidd yn derbyn "biliynau o bunnoedd" gan lywodraethau i drosglwyddo i weithrediadau sy鈥檔 llai niweidiol i鈥檙 amgylchedd.
Mae'n debyg bod gweinidogion wedi cynnig 拢300m i Tata Steel UK ar gyfer eu cynlluniau datgarboneiddio.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU "fod yr Ysgrifennydd Busnes yn gwybod pa mor hanfodol yw鈥檙 diwydiant dur i Gymru".
Port Talbot yw cartref gwaith dur mwyaf Prydain, lle mae dwy ffwrnais chwyth yn gweithio rownd y cloc.
Mae鈥檙 gwaith hefyd yn un o lygrwyr mwyaf y wlad, ac mae Tata wedi ymrwymo i drawsnewid y safle a lleihau allyriadau yn ddramatig.
Mewn cyfweliad arbennig ym Mhort Talbot, dywedodd Henrik Adam wrth 大象传媒 Cymru ei fod yn "wirioneddol ymroddedig" i ddatgarboneiddio鈥檙 safle.
"Yr unig beth 鈥榙yn ni鈥檔 ofyn amdano yw chwarae teg o gymharu 芒鈥檔 cyfoedion yn Ewrop," meddai.
"鈥楧yn ni mewn cystadleuaeth 芒 gwneuthurwyr dur Ewropeaidd, felly 鈥榙yn ni ddim yn gofyn am fargen arbennig,鈥 meddai.
"Rydym yn gofyn am chwarae teg gyda seiliau cystadleuol o ran cefnogaeth, buddsoddiad ond hefyd, bod yn gystadleuol o ran costau ynni."
Mae'r ddwy ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot yn dod at ddiwedd eu hoes, a byddai angen uwchraddio gwerth miliynau o bunnoedd yn ystod y blynyddoedd nesaf i barhau.
Un opsiwn yw gosod ffwrneisi bwa trydan yn eu lle sy'n cael eu pweru gan ynni adnewyddadwy, ond byddai hynny'n cymryd blynyddoedd o gynllunio ac adeiladu gan gostio biliynau o bunnoedd.
'Anodd i ni fod yn gystadleuol'
Mae cost adeiladu, a biliau ynni'r dyfodol, yn bethau yr hoffai Tata Steel UK i鈥檙 llywodraeth gynnig cymhorthdal amdanynt.
Ni wnaeth Mr Adam gadarnhau a fyddai 拢300m yn ddigon, fel mae rhai adroddiadau yn awgrymu sydd wedi ei gynnig gan Lywodraeth y DU.
"Mae cenhedloedd eraill yn arllwys biliynau o bunnoedd i鈥檔 cystadleuwyr ac i roi cefnogaeth ar gostau ynni. Mae hynny'n rhywbeth sy鈥檔 peri pryder i ni," meddai.
"Oherwydd os yw hynny'n digwydd o'n cwmpas, mae'n anodd i ni fod yn gystadleuol."
Mae鈥檙 gwaith dur ym Mhort Talbot yn cael ei ystyried yn ased strategol, ac yn ffynhonnell leol a dibynadwy o gynhyrchu dur i鈥檙 DU.
Mae mewnforion dur rhatach, yn enwedig o China, wedi bod yn anodd i gwmn茂au fel Tata Steel.
Ond mae鈥檙 ymdrech i ddatgarboneiddio yn un gyffredin ar draws y diwydiant dur, yn 么l un felin drafod annibynnol.
"Mae safle Port Talbot yn ne Cymru yn un o鈥檙 safleoedd unigol mwyaf o ran allyriadau nwyon t欧 gwydr yn y DU, felly mae yna wir effaith sylweddol o鈥檙 diwydiant dur," meddai Roz Bulleid o鈥檙 Green Alliance.
Mae鈥檙 Green Alliance yn amcangyfrif y byddai diffodd dwy o bedair ffwrnais chwyth y DU yn cael yr un effaith ar allyriadau ag y byddai tynnu 2.4 miliwn o geir petrol oddi ar y ffyrdd.
Ychwanegodd fod technolegau newydd wedi dod i'r amlwg a allai leihau allyriadau, a bod y diwydiant dur yn cymryd y mater o ddifrif.
"Mae鈥檙 galw gan gwsmeriaid am ddur glanach yn annog buddsoddiad," meddai, ond galwodd ar wneuthurwyr dur i ymrwymo mwy o arian ac i gyflymu prosesau datgarboneiddio.
'Nid eisiau, ond angen'
Mae Megan Kendall yn ymchwilio modelau prosesu gweithgynhyrchu dur ym Mhrifysgol Abertawe mewn prosiect ar y cyd gyda Tata.
Mae鈥檔 credu ei bod yn anochel y bydd y diwydiant yn gorfod datblygu wrth i bawb geisio cyraedd targedau sero net.
"Mewn gwirionedd, 鈥榙i o ddim yn gwestiwn o eisiau, mae鈥檔 gwestiwn o angen. Mae鈥檙 byd yn dibynnu ar ddur," meddai.
"Os chi鈥檔 meddwl am yr awyren fwyaf i lawr at nwyddau gwyn yn y t欧, maen nhw i gyd yn dibynnu ar ddur rhywsut,鈥 meddai.
"Ac yn benodol yn edrych ar ddyfodol gwyrdd efo ynni adnewyddadwy, mae hwnna鈥檔 dibynnu ar ddur 鈥榝yd.
"Mae鈥檙 dechnoleg yn bodoli, mae yna lot o opsiynau sydd gyno ni, sy鈥檔 beth da.
"Nid dim ond un peth da sy鈥檔 mynd i ddatrys hyn ond lot o gamau gwahanol sy鈥檔 mynd i arwain at broses effeithlon."
Gofynnwyd i Mr Adam a fyddai trawsnewid Port Talbot yn y tymor hir yn arwain at lai o swyddi yn y diwydiant dur.
Dywedodd: "Os ydych chi鈥檔 cymharu鈥檙 gwneud dur yn syml, efallai bod hwnnw鈥檔 sylw teg. Ond rwy鈥檔 meddwl bod angen inni arsylwi ac ystyried y system gyfan.
"Rwy鈥檔 meddwl ei bod yn rhy gynnar i ddweud y bydd yn torri swyddi, bydd y swyddi鈥檔 newid, bydd swyddi newydd, swyddi eraill.
"Mae鈥檔 hawdd dweud, 鈥楳ae鈥檙 broses newydd mor syml, byddwn ni鈥檔 torri swyddi.鈥
"Rwy鈥檔 meddwl os ydych chi鈥檔 ystyried 么l troed cyfan y safle, gan gynnwys popeth, yna rwy鈥檔 si诺r y byddwn ni hefyd yn creu llawer o swyddi newydd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae鈥檙 Ysgrifennydd Busnes yn gwybod pa mor hanfodol yw鈥檙 diwydiant dur i Gymru, a gwnaeth ei hymrwymiad i sicrhau dyfodol datgarbonedig, cystadleuol i鈥檙 sector yn glir pan ymwelodd 芒 Phort Talbot yn gynharach eleni.
"Ni allwn wneud sylw ar drafodaethau masnachol sensitif."
Ychwanegodd Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething fod sylwadau Mr Adam yn pwysleisio "pa mor argyfyngus yw'r mater yma".
Ychwanegodd ei fod am weld "lefel tebyg o drafodaeth" gyda Llywodraeth y DU ag y cafwyd ynghylch porthladdoedd rhydd yng Nghymru.