Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
GIG Cymru angen gwneud arbedion ychwanegol o 拢65m
- Awdur, Owain Clarke
- Swydd, Gohebydd Iechyd 大象传媒 Cymru
Bydd gofyn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ddod o hyd i ddegau o filiynau o bunnau o arbedion, hyd yn oed ar 么l i Lywodraeth Cymru glustnodi cannoedd o filiynau o gyllid ychwanegol ar ei gyfer.
Mae'r Gweinidog Iechyd wedi gorchymyn byrddau iechyd i ddod o hyd i 拢65m o arbedion, ar y cyd, er mwyn gostwng eu gorwariant 10%.
Ond mae 鈥榥a bryder y gallai hyn olygu bydd 鈥榥a lai o welyau ar gael mewn ysbytai o'i gymharu 芒'r llynedd, a hynny yn ystod misoedd anodd y gaeaf.
Ond bydd byrddau iechyd yn derbyn 拢640m o gyllid ychwanegol gan y llywodraeth.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad fod ysbyty mwyaf Cymru - yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd - wedi datgan "digwyddiad difrifol" o ganlyniad i straen fawr ar yr uned frys ac "oedi digynsail" o ran trosglwyddo cleifion o ambiwlansys.
'Heriau ariannol aruthrol'
Mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan fod yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd ddod o hyd i arbedion oherwydd heriau ariannol aruthrol.
"Mae'r GIG yng Nghymru, fel systemau gofal iechyd eraill, yn wynebu'r pwysau ariannol mwyaf heriol ers sawl blwyddyn," meddai.
"Mae'r galw ar wasanaethau yn parhau i gynyddu, ac mae chwyddiant yn uchel o hyd gan effeithio ar gostau pethau fel ynni a meddyginiaethau ac arwain at bwysau ar gyflogau.
"Yn ogystal, mae'r pandemig a chostau parhaus sy'n gysylltiedig 芒 Covid yn dal i gael effaith."
Mae byrddau iechyd eisoes wedi rhagweld y byddan nhw'n gorwario o leiaf 拢650m yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Nawr mae 鈥榥a ofyn iddyn nhw leihau'r gorwariant hynny o leiaf 10%.
Beth mae'n ei olygu i fyrddau iechyd unigol?
- Bydd angen i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ddod o hyd i 拢8.7m yn ychwanegol i sicrhau bod y gorwariant sy'n cael ei ragweld yn gostwng 10%;
- Fe fydd angen i Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan arbed 拢11.3m yn ychwanegol;
- Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr 拢13.4m yn ychwanegol;
- Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro 拢8.8m yn ychwanegol;
- Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg 拢7.9m yn ychwanegol;
- Bwrdd Iechyd Hywel Dda yng ngorllewin a chanolbarth Chymru - sydd 芒'r gorwariant mwyaf - 拢11.4m yn ychwanegol;
- Bydd angen i Fwrdd Iechyd Powys ddod o hyd i 拢3.4m arall.
Os yw byrddau iechyd yn llwyddo i ddod o hyd i'r arbedion ychwanegol, y disgwyl yw y bydd Llywodraeth Cymru yn cyllido'r gorwariant sy'n weddill.
Fis diwethaf fe gafodd 拢425m ei gyfeirio at gyllideb iechyd Llywodraeth Cymru o adrannau eraill y llywodraeth.
Mae arian ychwanegol wedi cael ei glustnodi i'r gwasanaeth iechyd yn ogystal o'r gyllideb iechyd.
Y disgwyl yw y bydd y gwasanaeth iechyd yn derbyn 拢460.2m i ddelio 芒 chostau ynni, chwyddiant, meddyginiaethau ac i lenwi bylchau yn y gweithlu.
Byrddau iechyd yn rhagweld mwy o orwariant
Ond mae 大象传媒 Cymru yn deall y bydd rhai byrddau iechyd yn cael anhawster mawr i ddod o hyd i'r toriadau angenrheidiol.
Awgrymodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ym mis Medi fod y sefydliad yn rhagweld y gallai eu gorwariant fod 拢35m yn fwy na'u cynllun gwreiddiol.
Mewn cyfweliad diweddar 芒 大象传媒 Cymru awgrymodd prif weithredwr Betsi Cadwaladr y gallai'r sefydliad orwario 拢20m yn fwy na'r disgwyl.
Mae 大象传媒 Cymru yn deall fod y sefyllfa ariannol ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan hefyd yn arbennig o heriol.
Wrth siarad 芒 phwyllgor iechyd y Senedd, dywedodd Eluned Morgan y gallai llai o welyau fod ar gael yn y gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn oherwydd yr angen i wneud arbedion.
Mae'r gweinidog wedi galw ar fyrddau iechyd i leihau eu gwariant ar staff asiantaeth dros dro, er enghraifft.
Mae yna bryder y gallai hyn ei gwneud hi'n anoddach i ysbytai agor mwy o gapasiti gwelyau y gaeaf hwn er mwyn ymateb i gynnydd yn y galw gan gleifion s芒l iawn.
"Mae'n rhaid i ni fod yn sensitif," meddai Ms Morgan wrth ASau.
"Byddwn ni'n cael amseroedd pan fo'r galw yn chwyddo... ac mae'n bosib y bydd problem yn ymwneud 芒 nifer y gwelyau."
Ond mynnodd bod mwy o welyau yng Nghymru nag yn Lloegr o'i gymharu 芒 maint y boblogaeth.
Yn gynharach yr wythnos hon mynnodd prif weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, na fyddai'n caniat谩u i fyrddau iechyd roi cleifion mewn perygl yn yr ymdrech i leihau costau.