Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Cam enfawr' CPD Y Rhyl at brynu maes hanesyddol
Mae Clwb 笔锚濒-诲谤辞别诲 Y Rhyl 1879 wedi cymryd "cam enfawr" tuag at sicrhau dyfodol ei stadiwm hanesyddol - y Belle Vue - yn dilyn grant gan Lywodraeth y DU.
Bydd y clwb yn derbyn 拢378,600 o'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol sydd o gwmpas 80% y swm sydd angen i brynu'r stadiwm, yn 么l y clwb.
Cafodd y clwb ffenics ei sefydlu yn 2020 ar 么l i glwb gwreiddiol y dref gael ei ddiddymu yn sgil problemau ariannol.
Yn gartref i'r hen glwb ers 1892, daeth CPD Y Rhyl 1879 i gytundeb i ddychwelyd i Belle Vue er nad oedden nhw'n berchen ar y safle.
'Symbol fod ni yma o hyd'
Mae'r grant yn rhoi "sicrwydd am y dyfodol", meddai'r ymgyrchydd iaith Ffred Ffransis, sy'n gefnogwr ers y 1950au.
"Mae ansicrwydd wedi bod am ddyfodol y stadiwm ers degawdau ac mae'r grant yma'n hwb ar union yr amser oedd angen hwb.
"Mae'r stadiwm wedi bod yn llyncu arian ers blynyddoedd ac mae o bob tro wedi bod yn ddelfryd iddo gael ei berchnogi gan y clwb neu ryw fath o ymddiriedolaeth."
Dywedodd Mr Ffransis fod y stadiwm "yn llawn atgofion o gemau FA Cup, o ennill uwch gynghrair Cymru, ac o nosweithiau Ewropeaidd yn erbyn Partisan Belgrade ac yn y blaen".
"Mae'r stadiwm yn y dre' ei hun hefyd, ac mae miloedd o bobl dros y cenedlaethau wedi cael y profiad o gerdded trwy'r dref ar ddiwrnod y g锚m.
"Mae'r clwb yn un o sefydliadau hynaf y dref. Mae'n dre' digon dirwasgedig ac mae'r clwb a'r stadiwm yn dal baner iddo ac yn symbol fod ni yma o hyd."
'Cam enfawr'
Dywedodd cadeirydd y clwb, Tom Jamieson: "Mae hyn yn newyddion gwych yn dilyn yr holl waith caled y tu 么l i'r llenni dros y pedwar mlynedd ddiwethaf i sicrhau dyfodol Belle Vue i'r clwb a'r gymuned yn Y Rhyl.
"Hoffwn ddiolch yn bersonol i Adam Roche am ei holl waith caled a diflino i sicrhau鈥檙 cyllid ac er bod tipyn o waith i鈥檞 wneud o hyd, mae hwn yn gam enfawr i ni i gyrraedd ein nod. Hoffwn ddiolch hefyd i鈥檔 cynrychiolwyr lleol o Lywodraeth y DU, y Senedd a鈥檙 cyngor lleol.鈥